Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sioeau 'uchelgeisiol' wedi ailwampiad Theatr Clwyd
- Awdur, Sion Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae Theatr Clwyd yn gobeithio gallu cynhyrchu sioeau mwy "cyffrous" ac "uchelgeisiol" pan fydd y gwaith o adnewyddu eu safle yn Yr Wyddgrug wedi ei gwblhau.
Mewn prosiect gwerth 拢42m, mae "cyfleusterau o safon byd" wrthi'n cael eu gosod yn yr adeilad, a agorodd gyntaf yn 1976.
Nod arall, yn 么l un o'r cyfarwyddwyr, yw gwneud y theatr yn fwy agored fel ei fod yn "ehangach na jyst lleoliad i berfformio".
Ond er maint y trawsnewid - fydd yn cymryd tua dwy flynedd - fe fydd perfformiadau yn parhau mewn rhan o'r adeilad ac mewn 'Pentref' newydd gerllaw.
'Be' mae'r gymuned eisiau ei weld'
"Mae 'na bethau mor gyffrous o ran y stafelloedd, a'r ffordd 'dan ni'n mynd i fod yn defnyddio'r theatr," meddai Gwennan Mair, cyfarwyddwr ymgysylltu creadigol Theatr Clwyd.
"Fel rhan o'r cynllun, mi fydd un o'r warehouses sy'n adeiladu'r setiau ar y site, yn lle ei fod i lawr yn y dref.
"Gobeithio bydd y ffyrdd o weithio yn haws i ni yma, sy'n golygu bod y gwaith yn gallu bod yn fwy exciting, yn fwy uchelgeisiol o bosib, ac yn rhan o be' mae'r gymuned eisiau ei weld hefyd."
Un o brif amcanion yr adnewyddu ydy ei gwneud yn theatr yn "agored" a "hygyrch", ac mae Gwennan yn dweud bod angen dangos fod y "celfyddydau yn fwy na pherfformio" yn unig.
"Un o'r pethau dwi'n gyffrous am ydy'r stiwdios health and wellbeing fydd yn datblygu ac yn canolbwyntio ar bartneriaethau sydd ganddon ni yn barod - 'dan ni'n gweithio'n agos efo'r gwasanaethau cymdeithasol a [Bwrdd Iechyd] Betsi Cadwaladr," meddai.
Yn y cyfamser, mae 'Pentref' dros dro wedi agor drws nesaf i'r prif adeilad, gyda bar, toiledau a theatr newydd o'r enw The Mix yn rhan ohono.
Bydd y neuadd hon - sy'n strwythur 40 tunnell ac yn cynnwys tua 2,500 o oleuadau - yn gweithredu ochr-yn-ochr ag un o neuaddau'r prif adeilad, sy'n dal i fod ar agor am y tro.
'Ysu am gynulleidfa'
Ymhlith y cyntaf ar lwyfan The Mix fydd sioe Milky Peaks, comedi gerddorol am gymuned yn Eryri.
Roedd hon i fod i gael ei llwyfannu ddwy flynedd yn 么l - ond ddyddiau yn unig cyn y perfformiad agoriadol, dechreuodd y cyfnod clo cyntaf.
"Roedd dod yn 么l at ein gilydd yn emosiynol iawn, achos ti'n dod yn deulu mawr pan ti'n gwneud rhywbeth fel 'ma," meddai Lisa J锚n, sy'n rhan o'r cast.
Mae'n dweud bod y sioe yn "ysu am gynulleidfa", a'i bod yn edrych ymlaen i gael perfformio yn The Mix.
Ychwanegodd bod ailddatblygu'r theatr yn gyfle i godi safonau "hyd yn oed yn uwch".
"Mae Theatr Clwyd fel mae hi yn fy atgoffa i o Theatr Gwynedd [ym Mangor], achos mae'n rhaid eu bod wedi cael eu hadeiladu tua'r un adeg," meddai.
"Felly mae 'na ran ohona' i sydd ddim eisiau gadael fynd o hynna!
"Ond egin newydd, 'de - mae'n rhaid i ni newid. Mae'n exciting meddwl am Theatr Clwyd yn mynd i ffynnu hyd yn oed mwy na mae o'n barod."
Gyda Llywodraeth Cymru yn cyllido mwyafrif y gost o 拢42m, gyda 拢22m yn ychwanegol wedi'i gyhoeddi Ddydd Mercher, mae cyfraniadau hefyd wedi'i derbyn gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cwblhau'r gwaith ailddatblygu.
Y nod yw ailagor yn yr adeilad yn llawn yn ystod 2024.