Wrecsam yn un o bedwar lle ar restr fer Dinas Diwylliant y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025.
Mae'n un o bedwar lleoliad ar y rhestr - a'r unig un o Gymru.
Bradford, Durham a Southampton yw'r tri arall sydd wedi eu dewis gan banel o arbenigwyr a'u cymeradwyo gan Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries.
Roedd yn rhaid i'r lleoliadau ddangos "sut y bydden nhw'n defnyddio diwylliant i dyfu a chryfhau eu hardal leol" yn ogystal 芒'u cynlluniau i adfer o effaith pandemig Covid-19.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.
Mae Wrecsam wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y wasg yn ddiweddar ar 么l i ddau seren Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb p锚l-droed.
Ond mae llu o draddodiadau diwylliannol eraill gan yr ardal i'w cynnig, gan gynnwys Theatr Stiwt a Thraphont Pontcysyllte ymysg rhai o'r atyniadau poblogaidd.
Yn fwy diweddar, fe ddaeth cymuned Wrecsam ynghyd i gasglu nwyddau i ffoaduriaid Wcr谩in, gyda chonfoi o ugain lori yn gadael y sir.
'Lot mwy i Wrecsam na ph锚l-droed'
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd un o aelodau ar fwrdd Theatr Stiwt Rhosllannerchrugog, Llinos Ann Cleary, ei fod yn "newyddion arbennig, arbennig iawn".
"Dw i mor falch. Dan ni di cael blynyddoedd anodd - a 'chydig bach o bad reputation yn y gorffennol efallai - ond ma hyn yn dangos be sy' gan Wrecsam i'w gynnig," dywedodd.
"Ma'r p锚l-droed gynnon ni wrth gwrs, ond ma 'na lot mwy i Wrecsam 'na hynna - hanes, y celfyddydau, yr iaith.
Ychwanegodd: "Y gobaith hefyd ydy bod twristiaeth yn dod ag arian i gael ei wario ar stryd fawr Wrecsam. Ma angen dod 芒 hynny 'n么l yn fyw.
"Siopau annibynnol gobeithio, ma' rhai o adeiladau Wrecsam mor brydferth, ond mae'r Stryd Fawr mor wahanol i ganol Gaer, er enghraifft."
'Y Gymraeg yn iaith fyw'
Ychwanegodd Llinos Ann Cleary ei bod yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i'r Gymraeg yn yr ardal.
"Dw i'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi'r Gymraeg ar y map, yn dangos bod modd ei dysgu hefyd, ei bod hi'n iaith fyw."
Dywedodd Llinos y byddai'r diweddar Aled Roberts, a oedd yn gomisiynydd y Gymraeg ac yn dod o'r ardal, yn "falch iawn" fod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer.
"Fe gollon ni Aled Roberts yn ddiweddar wrth gwrs. Mae hyn fel teyrnged iddo fo mewn ffordd.
"Mi fyddai wedi bod yn falch iawn o hyn."
Unwaith bob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2025 yn olynu Coventry fel Dinas Diwylliant 2021.
Yn 么l Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, mae ardal Coventry wedi derbyn buddsoddiad o 拢172 miliwn i gyngherddau cerddoriaeth, arddangosfeydd celf cyhoeddus, ardal chwarae i blant a gwelliannau i drafnidiaeth cyhoeddus - a hynny ers dod yn Ddinas Diwylliant 2021.
'Cyfleoedd trwy ddiwylliant'
Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau, yr Arglwydd Parkinson bod y gystadleuaeth yn cynnig "cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir".
"Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn dangos y r么l bwysig y gall diwylliant ei chwarae i lefelu ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau gwledig - gan ddod 芒 buddsoddiad, digwyddiadau gwych, miloedd o dwristiaid a chyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir," meddai.
"Ma' eleni wedi gweld y nifer uchaf erioed o gynigion, sy'n wych i'w weld. Llongyfarchiadau i'r pedwar lleoliad ar y rhestr fer - dymunaf bob lwc iddynt i gyd."
Dywedodd Syr Phil Redmond, Cadeirydd Panel Cynghori Arbenigol Dinas Diwylliant bod y broses o ddewis rhestr fer wedi bod yn "anodd" ond ei fod yn edrych ymlaen i ymweld 芒'r lleoliadau i "brofi effaith gatalytig diwylliant ar waith".
Bydd y panel o arbenigwyr yn ymweld 芒 Wrecsam a'r tair ardal arall cyn gwneud eu hargymhelliad terfynol i lywodraeth y DU ym mis Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021