Wyres Gwenallt yn canfod 'trysorau' wrth glirio'r t欧

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Mae wyres Gwenallt, Elin Gwenallt Jones (dde), a'i or-or-wyres, Lowri, wedi trosglwyddo'r eitemau i Brifysgol Aberystwyth

Mae eiddo yn perthyn i un o feirdd enwocaf Cymru wedi'u canfod ar 么l i wyres Gwenallt ddod ar eu traws wrth glirio t欧 ei mam.

Daeth o hyd i bentwr o bethau oedd yn perthyn i Gwenallt, gan gynnwys dyddiaduron, sbectol a sig芒r.

Ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd ddydd Llun, mae'r eitemau yn cael eu trosglwyddo i Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Mererid Hopwood, fod y brifysgol yn cydweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol i ddiogelu'r eitemau.

Y gobaith maes o law ydy cael arddangosfa i'r archif pan fydd yr Hen Goleg yn Aberystwyth yn ailagor.

'Trysorau'

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Cafodd hen sbectol - ag enw Gwenallt yn y bocs - ei ddarganfod

"Yn sicr mae 'na drysorau," meddai'r Athro Hopwood ar Dros Frecwast.

"Mae'r llawysgrifau eu hunain... y nodiadau darlithoedd, y llythyron personol, dyddiadur o'i daith i Gaersalem - taith arweiniodd at gyfansoddi'r gerdd enwog 'Y Coed'...

"Ond hefyd mae 'na greiriau, pethe' fel y bathodyn carchar bu'n ei wisgo, llyfrau oedd ganddo yn Dartmoor yn sgil ei garcharu am fod yn wrthwynebydd cydwybodol, ysgrifbin, potel inc, pen ddelw, sbectol ac o fewn y casyn sbectol hwnnw - UCW Aberystwyth - o'r cyfnod wrth gwrs pan oedd yn gweithio yn yr adran hon."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Nodyn gan Weinidog Soar, Pontardawe ym 1917 yn nodi bod Gwenallt wedi pasio ei arholiad Ysgol Sul yn 21 oed

Ychwanegodd fod wyres y bardd, Elin Gwenallt Jones, hefyd wedi dod o hyd i "sig芒r oedd ganddo, heb ei ysmygu" mewn dr么r yn ei ddesg.

Roedd yna hefyd gyflwyniadau radio, teyrngedau, ac hyd yn oed opera roc.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Daeth Elin o hyd i ddegau o luniau o Gwenallt ar hyd y blynyddoedd

Dywedodd Yr Athro Hopwood fod Gwenallt yn "un o'r beirdd hynny oedd yn gallu cyfannu y Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol".

"Roedd ei gerddi fe'n gignoeth ac mae ei negeseuon e bryd hynny yn gwbl berthnasol heddiw - sut mae angen i ni barchu ein gilydd, yr ecsbloetio sy'n gallu digwydd, a'r elfen Gristnogol, grefyddol."

Ei gobaith yw y bydd "lle teilwng i'r arddangosfa" er mwyn i bobl gael "dysgu mwy am y dyn rhyfeddol hwn."

Pwy oedd Gwenallt?

Ganwyd Gwenallt - neu David James Jones - ym Mhontardawe yn 1899.

Symudodd y teulu yn fuan wedyn i'r Alltwen yng Nghwm Tawe, ac oddi wrth y pentref dur hwnnw y cymerodd ei enw barddol.

Pan gafodd ei alw i'r fyddin cyn sefyll ei arholiad Tystysgrif Uwch, safodd yn wrthwynebydd cydwybodol a threuliodd ddwy flynedd - o Fai 1917 hyd Fai 1919 - yng ngharchardai Wormwood Scrubs a Dartmoor.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1926, ac fe gyhoeddodd pum cyfrol o gerddi: Ysgubau'r Awen (1939), Cnoi Cil (1942), Eples (1951), Gwreiddiau (1959) a Coed (1969) a gyhoeddwyd ar 么l iddo farw.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Cafodd ysgrifau, dyddiaduron a lluniau eu darganfod hefyd

Mae cenedlaethau o ddisgyblion ysgol ledled Cymru wedi astudio'i gerddi - 'Y Coed', mae'n debyg, yn fwy na'r un gerdd arall.

Aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1919, ac mewn amser, daeth yn uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Aberystwyth, cyn ymddeol yn 1966.

Bu farw yn Ysbyty Aberystwyth 24 Rhagfyr 1968.