A yw gwisgoedd ysgol yn rhy ddrud i rai teuluoedd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gwisgoedd ysgol wedi'u brandio yn gallu arwain at gostau uchel

Mae gr诺p gwrth-dlodi wedi galw am gynyddu grantiau sy'n helpu i dalu am wisgoedd ysgol yn barhaol wrth i deuluoedd gael trafferth cael dau pen llinyn ynghyd.

Daw'r alwad wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi taliad un tro o 拢100 i deuluoedd sydd eisoes yn gymwys am gymorth ariannol.

Mae'r Child Poverty Action Group am weld mwy o deuluoedd yn cael cymorth. Dim ond y rhai sy'n derbyn prydau bwyd ysgol am ddim sy'n gymwys ar hyn o bryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau sydd ar nifer o deuluoedd.

Fe wnaeth ymchwil gan Gymdeithas y Plant yn 2020 ddangos bod cost gwisg ysgol ar gyfartaledd yn 拢337 am bob disgybl uwchradd a 拢315 am bob disgybl cynradd.

Roedd hynny deirgwaith yn fwy nag oedd rhieni'n teimlo oedd yn dderbyniol.

'Angen newid y system'

Mae ymchwil gan y Child Poverty Action Group wedi canfod amrywiaeth yn y gost ar draws Cymru, yn enwedig gan bod nifer o ysgolion ond wedi penodi un siop ar gyfer eitemau wedi'u brandio.

Fe wnaeth Kate Anstey o CPAG groesawu'r 拢100 o grant ychwanegol, ond dywedodd nad oedd hynny'n ddigon i "gau'r bwlch".

"Yn y tymor byr fe ddylai'r grant presennol gael ei gynyddu er mwyn adlewyrchu'r gost go iawn sy'n wynebu rhieni, ac mae angen ehangu'r nifer sy'n gymwys," meddai.

"Ond y darlun mawr yw ein bod ni angen newid y system er mwy dileu costau ysgol fel hyn, oherwydd ni ddylai unrhyw blentyn gael ei eithrio o weithgareddau ysgol o achos incwm y teulu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ddywed un elusen bod y sefyllfa mewn ysgolion cynradd ychydig yn well gan nad yw llawer yn mynnu cael dillad wedi'u brandio

Ar hyn o bryd, mae teuluoedd sy'n gymwys yn gallu hawlio 拢125 (拢200 i'r rhai sy'n symud i Flwyddyn 7 ac ysgol uwchradd) i dalu am wisg ysgol. Cafodd y 拢100 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ei ddisgrifio fel taliad i gynorthwyo gyda chostau ychwanegol megis dillad ymarfer corff ac eitemau hanfodol eraill.

Ond mae gwisgoedd ysgol yn gallu bod yn llawer drytach na dillad tebyg arferol, a hynny oherwydd un peth - y logo.

Mewn nifer o ysgolion mae'n rhaid i ddillad ymarfer corff gael lliw a logo'r ysgol arnyn nhw, ac mae'r rhain yn llawer drytach na dillad cyffelyb heb logo.

Dywedodd un fam i blentyn yn Ysgol Bro Morgannwg bod y polisi gwisg ysgol yno yn llym iawn.

"Mae ein plentyn ieuengaf mewn cymaint o dimau chwaraeon fel bod rhaid i ni gael tri o bob peth," meddai.

"Dim ond y wisg gyda'r logo cywir mae'n cael gwisgo. Rwy'n teimlo y gallai'r rheolau gael eu llacio am bethau fel gwersi ymarfer corff cyffredin, a chadw'r gwisg gyda logo am gemau ffurfiol, swyddogol."

Er ei bod yn cytuno mewn egwyddor gyda chael gwisg ysgol, mae'n credu y gellid gwneud mwy i hybu trosglwyddo gwisgoedd ail law i eraill, ac y dylai cynghorau a'r llywodraeth gael polis茂au i sicrhau bod ystod eang o gyflenwyr ar gael ar gyfer pobl sydd ar gyllidebau gwahanol, hyd yn oed os oedd hynny'n golygu gollwng y logo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ar gyfartaledd, mae cost gwisg ysgol uwchradd yn 拢337 i bob disgybl, medd ymchwil gan Gymdeithas y Plant

'Cynradd yn llai o broblem'

Mae elusen Parentkind yn cynnal arolwg blynyddol i fesur barn rhieni ar nifer o bynciau'n ymwneud ag ysgolion.

Dywedodd Kerry-Jane Packman o'r elusen: "Ry'n ni'n gofyn nifer o gwestiynau am eu pryderon, a dros y saith mlynedd diwethaf un o'r prif bryderon yw'r gost gynyddol o wisgoedd ysgol.

"Mae llai o broblem gydag ysgolion cynradd oherwydd yn aml maen nhw'n derbyn gwisgoedd o liw penodol ond heb y brandio, ond mae'n wahanol iawn mewn ysgolion uwchradd.

"Ry'n ni'n clywed am ysgolion lle mae gwisg rygbi wedi'i frandio, gwisg athletau wedi'i frandio, gwisg p锚l-rwyd wedi'i frandio... os ydy'ch plentyn chi yn hoffi chwaraeon mae'n gallu bod yn beth drud iawn."

Mae'n credu mai'r ffordd ymlaen yw i ysgolion drafod mwy gyda rhieni am gostau gwisgoedd ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nhw yw'r cyntaf yn y DU i gyflwyno canllawiau statudol er mwyn cadw costau gwisgoedd ysgol i leiafrif.

"Y cynllun Grantiau Datblygu Disgyblion, sydd yn gymorth ychwanegol i deuluoedd, yw'r mwyaf hael o'i fath yn y DU, ac rydym yn falch o fod wedi ehangu hwn yn ddiwedd fel bod bob blwyddyn ysgol yn gallu elwa ohono.

"Byddwn hefyd yn parhau i edrych ar beth arall y medran ni wneud i gefnogi disgyblion a'u teuluoedd."