Baw dynol ar lwybrau yn 'broblem tu hwnt i Eryri'

Disgrifiad o'r fideo, "Mae'r ci gwaith weithiau yn cyrraedd 'n么l ac ma'n garthion i gyd drosto ac ma'n drewi", meddai Gareth Wyn Jones
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae'r broblem o ganfod baw dynol ar lethrau mynyddoedd yn ymestyn tu hwnt i Eryri, medd un ffermwr o Bowys.

Daw yn dilyn cwynion bod baw dynol wedi ei adael ar hyd llethrau'r Wyddfa dros benwythnos G诺yl y Banc.

Yn 么l un ffermwr o Bowys mae canfod baw dynol o'r fath ar gynnydd ar hyd y llwybrau yno hefyd.

Mae 'na alw r诺an am gyflwyno rhagor o ddirwyon i bobl sy'n ymddwyn yn y fath ffordd yng nghefn gwlad Cymru.

Gyda thymereddau wedi codi uwchben lefel nifer o ddinasoedd y cyfandir, mae gwyliau'r Pasg unwaith eto wedi profi'n brysur i'r Parc Cenedlaethol yn y gogledd.

Mae Awdurdod y Parc yn annog pobl i ddefnyddio cyfleusterau toiled cyn gwneud eu ffordd tua'r copaon.

'Amhosib ffarmio'

Ond yn 么l Wyn Morgan, sy'n ffermio yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, mae'r broblem ar gynnydd ar draws Cymru.

"Problem fwyaf ydy does 'na ddim toiledi, campio gwyllt - does 'na nunlle iddyn nhw fynd ond fy nghae i," meddai.

"'Dio ddim yn neis i weld, mae'n le pert i fyw - mae'r mess ma' pobl yn gadael - 'di o ddim yn neis.

"Mae'n amhosib ffarmio yma ar 么l y bank holidays."

Disgrifiad o'r llun, Mae Wyn Morgan wedi gweld papur toiled a baw dynol ar ei dir yn aml yn ddiweddar

Mae 'na alw o'r newydd gan ffermwr o sir Conwy i wneud mwy o ymdrech i gyflwyno dirwyon i bobl sy'n cael eu dal yn gadael sbwriel a charthion ar hyd y llethrau.

"Mae'r ci gwaith weithiau yn cyrraedd 'n么l ac ma'n garthion i gyd drosto ac ma'n drewi," meddai Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan.

"'Da ni angen rhoi'r neges allan yna - 'da ni eisiau i bobl dd诺ad yma, maen nhw'n dod 芒 phres mewn ac yn gwario yma, ond os nad ydyn nhw'n yn ei barchu o peidiwch 芒 d诺ad.

"Dwi'n teimlo dylai pobl gael ffein os 'dyn nhw'n cael eu dal yn gadael giatiau ar agor, sbwriel, baw - blwyddyn dwytha' mi oedd 'na lot o broblemau."

'Diffyg parch'

Yn 么l T卯m Achub Mynydd Ogwen mae'r broblem o adael carthion a sbwriel yn adlewyrchiad o ddiffyg parch rhai at dirlun yr ardal.

"Ma'n anodd os ti'n dechrau ar daith hir a ti'n bell o'r toiled, ond ma'n bwysig i bawb allu joio felly os ellith bawb fynd 芒 bob dim adre efo nhw, mae hynny yn bwysig," meddai Hero Douglas o'r t卯m.

"Ma'n bwysig i feddwl am bawb sy'n dod ar 么l ni a fasa'n neis os ellith nhw fwynhau."

Disgrifiad o'r llun, Mae Hero Douglas yn aelod o D卯m Achub Mynydd Ogwen

Roedd Iwan Jones yn mynd am dro ar hyd Cwm Idwal pan ddaeth o hyd i faw dynol.

"Doedd 'na'm gymaint o sbwriel, jest sbwriel dynol os alla'i alw o'n hynny," meddai.

"Be fedri di dd'eud? Does gan bobl ddim parch.

"Mae o'n afiach ar y gorau ond mi oedd hwn reit ar ochr y llwybr a dwi 'di bod yn cerdded ac mae 'na blant ifanc yna.

"Ond sut mae cadw rheolaeth ohono?"

Disgrifiad o'r llun, Roedd Iwan Jones yn mwynhau ei ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith pan ddaeth ar draws baw dynol ger llwybr gerdded

Mewn datganiad fe ddywedodd Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn diolch i griwiau Caru Eryri a wardeiniaid gwirfoddol fuodd yn glanhau sbwriel dros 糯yl y Banc.

"Nid yw'r problemau hyn yn rhai newydd," meddai'r datganiad gan ddweud nad yw'r sefyllfa mor wael ag y mae rhai yn adrodd.

Ychwanegwyd bod y Parc wrth eu boddau yn croesawu ymwelwyr gan ddweud "dim ond drwy gydweithio mae modd gwarchod y tirwedd bregus hyn".