Trefnu bwrdd ond peidio dod yn 'costio 拢20,000' i fwyty

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Heidi Bakewell eu bod wedi colli 拢20,000 dros un haf oherwydd pobl yn trefnu bwrdd ond ddim yn dod
  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Wrth i dymor y gwyliau gyrraedd mae nifer o fwytai'n cwyno am gwsmeriaid yn trefnu bwrdd ond ddim yn dod - a hynny heb ffonio i ddweud.

Mae t欧 bwyta yn Ll欧n yn dweud eu bod wedi colli 拢20,000 dros un haf o ganlyniad.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli lletygarwch, Hospitality UK, wrth raglen Newyddion S4C mai "anghwrteisi" ydy peidio 芒 dod, heb ddweud.

Mae Heidi Bakewell yn rheolwr ar dafarn a bwyty Y Bryncynan yn Nefyn, ac mae wedi cael ei siomi sawl gwaith.

Disgrifiad o'r llun, "Anghwrteisi" yw trefnu bwrdd ond peidio dod heb rybudd yn 么l y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant lletygarwch yn y DU

"Dwi 'di cael llwyth jyst ddim yn troi fyny os mae'r haul allan neu rhywbeth fel 'na, maen nhw 'di jyst aros ar y traeth a ddim yn gadael i ni wybod a 'dan ni ddim yn gallu llenwi'r spot," meddai.

"Dwi 'di llenwi lot o fyrddau... 70%... ond dal i golli allan ar 拢20,000 dros yr haf i gyd."

Dywedodd fod yn rhaid iddi gadw cofnod o gwsmeriaid sy'n eu cam-arwain.

"Os bydd pobl yn ffonio mewn a ddim yn troi fyny rhaid i ni gadw llyfr jyst so dwi'n gwbod 'o mae o 'di trio bwcio o'r blaen a ddim 'di troi fyny' felly dwi ddim yn cymryd booking.

"Dwi'n deud 'tho fo 'ti'n gallu cerdded i mewn a gawn ni weld os oes 'na fwrdd ar yr off chance' ond os dwi ddim, dwi ddim."

Disgrifiad o'r llun, Mae rheolwr Bwyty M么r yn Abertawe yn dweud eu bod wedi gorfod cymryd camau i baratoi ar gyfer pobl yn trefnu bwrdd ond ddim yn dod

Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn rhy aml o lawer ym marn Hywelis Thomas-Howells, rheolwraig Bwyty M么r yn y Mwmbwls, Abertawe.

"Ar 么l haf 2020, dyna pryd dwi'n meddwl roedd llawer o bobl yn 'blanket bookio' byrddau yn y gymuned leol, felly roedden nhw'n dod ar wyliau, falle trio bwcio fel pum neu chwe bwrdd mewn bwytai gwahanol a wedyn ar y noson oedden nhw jyst yn penderfynu pa fwyty oedden nhw eisiau mynd i," meddai.

"Roedd hynny'n broblem enfawr a doedden nhw ddim hyd yn oed yn galw i ddweud."

Mae gan y bwyty restr o bobl sydd wedi'u siomi drwy beidio 芒 dod ac mae ganddynt system flaendal.

"Ni jyst yn cymryd [rhif] y cerdyn ac os 'di'n dod i bwynt lle bo' ni angen, ni jyst wedyn yn chargio'r cerdyn, ac mi fyddwn ni'n dweud wrth y cwsmer bod ni'n mynd i 'neud hwnna."

Mae cysgod Covid wedi gadael ei 么l ar fusnesau ac mae pris bwyd yn codi, trydan a nwy yn codi.

Ar ben hynny mae cyfradd y dreth ar werth (TAW) wedi codi'n 么l i 20%.

Mae prinder staff yma ac acw ac mae pobl yn dal i ganslo o achos coronafeirws.

'Rhaid edrych ar 么l y busnes'

Mae Andrew Evans yn berchennog ar westy a sba St Brides yn Sir Benfro ac yn aelod o gorff lletygarwch Hospitality UK.

Does dim cyfiawnhad, meddai, dros beidio rhoi gwybod i fwyty os nad yw pobl yn bwriadu dod.

"Nawr ac yn y man mae rhywun ddim yn troi lan, ond os ydy hynny'n digwydd unwaith mae'r fflag lan 'da ni wedyn," meddai.

"Mae'n rhaid edrych ar 么l y busnes, bad manners yw e ond yfe. Os y'ch chi'n gweud chi'n mynd rhywle, ewch 'na.

"Os oes rhywun yn s芒l neu mae rhywbeth yn digwydd, ni'n deall, ond os 'di pobl ddim yn troi lan mae hynny dipyn yn gas."