Eisteddfod: Tocynnau prifwyl 2022 bellach ar werth

Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Disgrifiad o'r llun, Cynhaliwyd y brifwyl ddiwethaf yn 2019

Mae'r tocynnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf mewn tair blynedd bellach ar werth.

Oherwydd Covid-19 ni chynhaliwyd g诺yl agored ers 2019, ond mae disgwyl y torfeydd yn 么l am eu hymweliad hir ddisgwyliedig 芒 Cheredigion.

O ddydd Iau ymlaen mae modd archebu tocynnau dyddiol ac wythnosol ar gyfer Eisteddfod Ceredigion sydd i'w chynnal yn Nhregaron.

Hefyd, am y tro cyntaf, mae posib argraffu tocynnau Maes o gartref neu sicrhau mynediad drwy ff么n clyfar.

'Amynedd a brwdfrydedd'

"Fe fydd hi'n dair blynedd ers i ni ddod at ein gilydd ar Faes y Brifwyl, ac rydyn ni, fel pawb arall yn edrych ymlaen yn arw at weld y Maes o dan ei sang," meddai prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

"Rydw i am ddiolch o waelod calon i drigolion Ceredigion a'n gwirfoddolwyr i gyd am eu hamynedd a'u brwdfrydedd dros y ddwy flynedd diwethaf.

"Maen nhw'n dal i awchu i gynnal yr Eisteddfod. Mae'u cefnogaeth nhw i ni fel staff wedi bod yn arbennig iawn wrth i ni fynd ati i ail-drefnu'r Maes a'n holl weithgareddau."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Does ond 100 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron

Gan nodi agor y gwerthiant fel "carreg filltir bwysig", cadarnhaodd fod pris y tocynnau wedi'i rhewi o'r brifwyl ddiwethaf yn Sir Conwy, 2019.

Ychwanegodd Ms Moses: "Mae'r byd wedi newid cymaint ers Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2020 yn nhref Aberteifi n么l yn haf 2019.

"Cafwyd perfformiad arbennig o g芒n newydd sbon gan y ddau frawd lleol, Richard ac Wyn, Ail Symudiad, ar y Maen Llog fel rhan o'r seremoni. Mae'n anodd credu ein bod ni wedi colli'r ddau dros y flwyddyn ddiwethaf."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf i 6 Awst. Bydd manylion a thocynnau cyngherddau a gweithgareddau nos yn cael eu cadarnhau yn y man.

Mae mwy o fanylion .