Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dysgu am y mislif ar TikTok, yn hytrach na'r ysgol'
- Awdur, Sian Elin Dafydd
- Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
"TikTok, YouTube, Instagram - mae loads o wefannau lle fi wedi ffeindio lot o wybodaeth ddefnyddiol am periods."
Dyma brofiad merch o Landybie, Sir Gaerfyrddin a'i ffrindiau sy'n dweud nad oedd yr addysg am fislif yn ddigonol yn eu hysgolion.
"Y tro cynta' weles i sut i inserto tampon oedd ar YouTube," meddai Lili Mai Davies, 17 oed.
"Nes i chwilio achos o'n i ddim yn gwybod sut i neud e. Nes i ofyn i Mam ond o'n i mo'yn checio hefyd."
Daw'r sylwadau wrth i astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe ddweud bod angen rhoi sylw penodol i addysg mislif mewn ysgolion.
I nifer mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi llenwi'r bwlch er mwyn deall eu cylchoedd misol yn well.
Dywedodd Efa Angharad, 18, o bentref Gors-las ei bod hi wedi cael peth gwybodaeth ym Mlwyddyn 6 am newidiadau corfforol, ond y cafodd ddarlun ehangach ar-lein.
"TikTok yn enwedig, mae'n ffordd rhwydd i rannu gwybodaeth… na'r ffordd fi 'di addysgu'n hunan a fi'n credu bo hwnna'n drist taw cyfrifoldeb ni yw e," meddai.
"Oherwydd so ni'n cael ein haddysgu amdano fe, ni'n teimlo fel - ydy hwn dim ond yn digwydd i fi? Ife dim ond fi sy'n cael cramps mor wael â hyn? Mae'n dal i fod yn bwnc tabŵ."
Doedd Ffion James, 17, o Rydaman ddim am drafod materion gyda staff yn yr ysgol.
"Fi ddim really yn teimlo'n gyfforddus i fynd lan at athrawes i siarad amdano fe oherwydd fi'n teimlo bo' nhw'n anghyffyrddus i drafod e 'da fi," meddai.
Nid yw sylwadau'r ffrindiau'n unigryw, gan fod gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe yn nodi nad yw'r addysg am y cylch misol mewn ysgolion yn ddigonol.
Wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru, mae'r adroddiad yn argymell rhoi mwy o amser, hyfforddiant a chymorth i athrawon gyflwyno dosbarthiadau'n rheolaidd, yn ogystal â darparu mwy o wybodaeth am agweddau emosiynol a chymdeithasol y mislif.
Nododd yr ymchwil hefyd fod athrawon yn teimlo bod mislif yn effeithio ar bresenoldeb, yr awydd i gymryd rhan mewn ymarfer corff, yn ogystal ag ymddygiad a hyder.
'Mae'r cylch fel y tymhorau'
Mae un hyfforddwraig bersonol o'r Barri yn ymwybodol iawn o effeithiau'r mislif ar ei chleientiaid, ac mae hi'n teilwra ei gwasanaeth.
Yn ôl Rebecca Williams mae cyfnod cylchol menywod fel y tymhorau.
"Dwi'n meddwl am y mislif fel y gaeaf," meddai, "felly'n ystod y gaeaf 'da ni ishe arafu, 'da ni ishe bod yn gynnes, 'da ni ishe cael bach o seibiant.
"Baswn i'n annog cleientiaid i wneud bach o yoga, neu fynd am dro yn ystod y cyfnod yma."
Awgrymodd bod y cyfnod ar ôl y mislif fel y gwanwyn, gydag egni newydd ac yn gyfnod da i godi pwysau cyn symud at yr haf, lle mae pobl ar eu gorau a'u mwyaf egnïol.
Yna daw'r hydref eto meddai Rebecca cyn y gaeaf, neu'r mislif.
Mae'r hyfforddwraig wedi gwneud tipyn o waith ymchwil fel oedolyn, ac mae hi hefyd am weld mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu'n gynt i ferched a bechgyn.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd addysg am fislif yn orfodol o fewn fframwaith y cwricwlwm newydd.
"Mae'n bwysig nad 'gwers untro' yn unig yw dysgu am lesiant mislif, a dyna pam mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi bod angen ei ddysgu ar wahanol gamau o'r cwricwlwm," meddai llefarydd.
Mae Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol a swyddog polisi UCAC yn dweud bod hwn yn bwnc sydd wedi ei "esgeuluso" o fewn addysg ffurfiol yn y gorffennol, oherwydd diffyg gweledigaeth a hyfforddiant.
"Yn sicr bydd angen cefnogaeth ar athrawon i weithredu'r cwricwlwm a'r dulliau dysgu newydd - yn ddysgu proffesiynol ac yn adnoddau," meddai.
"Mae hyn yn wir ar draws y cwricwlwm, ond yn arbennig o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb."