Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Boris Johnson: Wylfa newydd 'yn mynd i ddigwydd'
Mae gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys M么n "yn mynd i ddigwydd", yn 么l Boris Johnson.
Gwnaeth Prif Weinidog y DU yr addewid yn ystod ymweliad ymgyrch etholiadol dros y Ceidwadwyr yng ngogledd Cymru.
Mae llywodraeth Mr Johnson wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda dau gwmni o'r Unol Daleithiau sydd 芒 diddordeb mewn datblygiad niwclear ar ynys - ond does dim cytundeb mewn lle eto.
Er hyn, addawodd Mr Johnson y byddai'n ei "gael i fynd mor fuan 芒 phosib".
'Y fargen orau i drethdalwyr'
Dywedodd yn ystod ei ymweliad: "Mae angen i ni gael y math iawn [o ddatblygiad] ac mae angen i ni wneud yn si诺r ein bod yn bwrw 'mlaen 芒'r model cywir.
"Yn y b么n mae yna o leiaf cwpl y gallem eu hystyried - yr adweithydd d诺r dan bwysau Ewropeaidd... sef yr A1000.
"'Da ni eisiau gwneud yn si诺r ein bod yn cael y fargen orau i drethdalwyr y DU."
Ychwanegodd y posibilrwydd o gael "cwpl o adweithyddion" ar y safle.
"'Da ni hefyd eisiau cael rhywbeth sy'n wirioneddol uchelgeisiol, ac sy'n mynd i wneud cyfiawnder 芒 maint safle'r Wylfa.
"'Da ni yn gweithio ar hyn i gyd yn gyflym iawn, iawn. 'Da ni eisiau dechrau ar Wylfa yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.
"Mae'n mynd i ddigwydd."
Y gred yw fod cryn dipyn o ffordd i fynd eto cyn cyrraedd unrhyw gytundeb i adeiladu atomfa newydd.
Byddai angen i unrhyw gwmni sydd 芒 diddordeb godi swm sylweddol o fuddsoddiad preifat ogystal 芒 chefnogaeth sylweddol gan y wladwriaeth.
'Sylw ffwrdd-a-hi'
Yn ymateb i sylwadau Mr Johnson dywedodd Dylan Morgan o'r mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B), byddai unrhyw ddatblygiad yn golygu biliau trydan drytach.
"Jyst rhyw sylw ffwrdd-a-hi ydy hwn gan Johnson heddiw," dywedodd ar y Post Prynhawn, 大象传媒 Radio Cymru.
"Does 'na ddim manylion o gwbl. Yr unig ffordd wrth gwrs, fydd unrhyw orsaf niwclear mewn unrhyw le yng ngwledydd Prydain yn cael ei chodi yw drwy ychwanegu yn sylweddol at ein biliau trydan ni, sydd wedi mynd drwy'r to yn ddiweddar fel y mae hi.
"Dyna'r unig ffordd fedran nhw obeithio codi unrhyw un o'r gorsafoedd niwclear eithafol o ddrud yma yn y dyfodol, yn ystod y blynyddoedd nesa 'ma."
Dywedodd Jo Stevens, llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, bod sylwadau Mr Johnson yn "dro pedol diweddaraf mewn cyfres".
"Rwy'n mawr obeithio ei fod yn cyflawni ei addewid ac ei fod yn wir, ond gyda'r Prif Weinidog yma dydych chi ddim yn gwybod," meddai.
"Mae Llafur wedi bod yn galw ar y llywodraeth i ailgychwyn ei raglen [niwclear] ers nifer o flynyddoedd bellach.
"Rydyn ni wedi bod yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i'w wneud, mae angen cymysgedd ynni i ddelio 芒'r argyfwng ynni presennol.
"Felly mae hyn yn newyddion da. Ond fe allen ni fod wedi gwneud ag ef cyn nawr."
Y ddadl am ynni adnewyddadwy
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Tra rydym yn cydnabod y buddsoddiad a'r swyddi y gall niwclear newydd ddod 芒'r rhanbarth, mae'n bwysig nodi na fydd hyn yn gwneud dim yn y tymor byr i fynd i'r afael 芒'r argyfwng ynni a'r effaith y mae'n ei gael ar gyfrifon banc pobl ledled Cymru.
"Rydym hefyd yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddatblygiad o safle'r Wylfa gael ei wneud gyda chaniat芒d y gymuned ac y dylai'r rhai sy'n byw ger y safle dderbyn gostyngiadau ar eu biliau trydan."
Tra disgrifiodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, ddatblygiad niwclear newydd ar safle'r Wylfa fel "dim byd ond gwrthdyniad drud fysa ddim yn ateb mewn unrhyw ffordd yr argyfyngau ynni ac hinsawdd".
Ychwanegodd: "Rydym angen i lywodraethau ar bob lefel, sydd o ddifrif yngl欧n 芒 mynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd, fuddsoddi nawr mewn ynni adnewyddadwy ar y raddfa sydd ei hangen, gan gyflenwi ynni gwynt, solar a llanw.
"Gallai ac fe ddylai Cymru fod yn arweinydd byd yn y maes ynni llanw."