Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nofio ymhlith siarcod gwyllt
Ydi nofio gyda siarcod yn freuddwyd ganddoch chi? Mi fyddai'r syniad yn rhoi hunllefau i'r mwyafrif ohonom fwy na thebyg.
Ond i Lowri O'Neill, 21, o Ferthyr Tudful mae nofio gyda siarcod fel y sandbar, y Galapagos, a'r siarc deigr wedi bod yn freuddwyd erioed ac ar 么l trip diweddar i Hawaii mae hi wedi gwireddu'r freuddwyd honno o'r diwedd.
A hithau'n astudio bioleg m么r ym Mhrifysgol Abertawe mae ganddi ddiddordeb mawr ym mywyd gwyllt y m么r. Mae hi'n cofio gwylio Finding Nemo a rhaglenni dogfen David Attenborough yn berson ifanc a doedd gwylio ffilm Jaws ddim yn ddigon i'w gwneud hi'n ofn y pysgodyn ysglyfaethus.
Fuodd Lowri yn siarad am y profiad gydag Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru.
'Creaduriaid anhygoel'
Ar 么l cymryd peth bersw芒d ar ei theulu iddi gael mynd i Hawaii ar ei phen-blwydd yn 21 oed i nofio gyda siarcod, yn y diwedd, fe gytunodd pawb iddi gael mynd.
"Roedden ni wedi bwcio i nofio gyda siarcod sandbar a Galapagos. Ond penderfynodd siarc teigr enfawr dod a nofio gyda ni," meddai Lowri, oedd yng nghwmni ei thad a'i brawd yn y m么r.
"Maen nhw yn fwystfilod o bysgod. Roedd yr un wnaeth ymuno gyda ni yn 12 troedfedd o hyd!
"O'n i'n nofio yn rhydd yn y m么r oherwydd i fi yr unig brofiad go wir o nofio gyda siarcod ydi trwy nofio gyda nhw yn eu cartref. Mae'n rhoi'r cyfle i chi ddod mewn i fyd nhw yn llawn a gweld y creaduriaid anhygoel yma o bellter agos iawn."
'Cystadleuaeth syllu'
"Mae 'na set o reolau maen nhw yn dweud wrtho ti cyn mynd mewn i'r d诺r er mwyn i ti fod y mwyaf diogel y gallet ti fod.
"Fy hoff reol i oedd cadw cysylltiad llygad gyda'r siarc mwyaf agos i ti ar bob adeg felly yn y b么n rydych yn cael cystadleuaeth syllu gyda physgodyn sydd mwy na dwywaith eich maint.
"Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod cysylltiad llygad yn gwneud i ti edrych fel ysglyfaethwr gweithredol arall ac mae hyn yn 么l bob golwg yn dweud wrthyn nhw ein bod ni ddim yn fwyd maen nhw eisiau bwyta.
"Mae pethau fel sblasio yn 'na' enfawr oherwydd mae'n gwneud i chi ymddangos fel ysglyfaeth yn trio ffraeo."
Mae cadw cysylltiad llygad gyda'r siarcod yn hanfodol esbonia Lowri wrth Aled Hughes: "Mae bach yn seicolegol oherwydd pan fydd dy gefn wedi troi mae siarcod yn sleifio lan arnat ti. Ond pan rwyt ti'n troi n么l ac yn creu cysylltiad llygad maen nhw yn troi yn 么l ac yn nofio i'r cyfeiriad arall.
"Yn Hawaii mae ganddyn nhw ddeifwyr diogelwch siarcod ac maen nhw yn gwneud yn si诺r bo' chi yn saff yn y m么r. Mae'n un o'r llefydd yn y byd lle mae pobl wedi hyfforddi i wneud hyn. Felly mae Hawaii yn un o'r llefydd mwyaf diogel i nofio gyda siarcod mawr."
'Rhaid eu parchu nhw'
Mae cadw ecosystem siarcod yn chwarae rhan bwysig yn agwedd Hawaii at y pysgod mawr. Ac yn 么l Lowri mae'n rhaid i bobl parchu siarcod gan anghofio am y ddelwedd mae'r cyfryngau yn rhoi iddynt.
"Mae siarcod yn anifeiliaid pwerus ac mae'n rhaid eu parchu nhw neu maen nhw'n mynd yn ofnus iawn. Ond dyw nhw ddim y Jaws mae'r cyfryngau yn eu portreadu nhw i fod.
"Maen nhw'n gwneud shwt gymaint dros iechyd a chydbwysedd ein cefnforoedd a'r blaned oherwydd maen nhw yn gelloedd gwaed gwyn y cefnfor ac yn targedu anifeiliaid heintiedig neu s芒l sy'n helpu i atal lledaeniad afiechyd yn y moroedd.
"Maen nhw hefyd yn arwain at genedlaethau newydd o bysgod gyda genynnau mwy iachus felly mae'n rhaid i ni newid ein perspectif o feddwl fod siarcod yn beiriannau lladd i ddechrau meddwl amdanyn nhw fel ysglyfaethwyr anhygoel bwysig iawn oherwydd dyna beth ydyn nhw.
"Nawr fi eisiau nofio gyda rhywogaethau eraill o siarcod. Y morgi mawr gwyn, sef y great white, yw'r nesaf ar y rhestr ond os mae'n digwydd byddai angen i mi fod mewn cawell. Mae nofio gyda'r rhywogaeth yna heb fod mewn cawell bach yn rhy eithafol."
Hefyd o ddiddordeb: