Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diswyddiadau'n bosib wrth ailstrwythuro Pobol y Cwm
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae 大象传媒 Cymru'n deall y gallai rhai o staff Pobol y Cwm golli eu swyddi o ganlyniad i ailstrwythuro.
Mae S4C, sy'n comisiynu'r rhaglen, wedi penderfynu parhau gyda'r drefn o dair rhaglen yr wythnos.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, 大象传媒 Studios: "Mae'r ffordd rydym yn cynhyrchu Pobol y Cwm yn newid.
"Rydym yn newid i fodel mwy hyblyg o gyflogi staff cynhyrchu, sy'n unol 芒 nifer o gynyrchiadau eraill o fewn ein diwydiant.
"Rydym yn gwneud y newid hwn gan bod S4C wedi gofyn am lai o benodau yr wythnos ac nid yw'n gynaliadwy i barhau gyda'r model staffio presennol.
"Bydd ein cynulleidfaoedd yn parhau i gael gwylio a mwynhau Pobol y Cwm ar y sgr卯n drwy gydol y flwyddyn."
Ymgynghori wedi dechrau
Fe gafodd yr ailstrwythuro ei drafod mewn cyfarfod gyda staff brynhawn Mercher ac mae cyfnod ymgynghori wedi dechrau.
Mae tua 30 o bobl yn gweithio ar y rhaglen yn barhaol.
Tra bydd yr un nifer o bobl yn gweithio ar y rhaglen, y disgwyl yw mai staff llawrydd fyddan nhw, a fydd yn cael eu defnyddio yn 么l y galw yn hytrach na'u cyflogi'n barhaol.
Roedd y rhaglen yn cael ei darlledu pedair gwaith yr wythnos tan fis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd S4C: "Mae Pobol y Cwm yn parhau i fod yn rhan bwysig o amserlen S4C.
"Bydd yn dal i redeg drwy'r flwyddyn (ag eithrio wythnosau'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol) ond ni fydd y cyfnod cynhyrchu'n rhedeg drwy'r flwyddyn."