Troi'r ffocws ar gais Dinas Diwylliant Wrecsam

Disgrifiad o'r llun, Logo ymgyrch cais Dinas Diwylliant Wrecsam ar fat cwrw yn Nh欧 Pawb
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Bydd un o brif wyliau cerddorol Cymru'n gosod y llwyfan y penwythnos hwn ar gyfer cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025.

Mae disgwyl i gannoedd o fandiau ac artistiaid cerddorol berfformio ar draws y dref fel rhan o 诺yl Focus Wales.

Yr wythnos nesaf bydd beirniaid cystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025 yn ymweld 芒 Wrecsam i asesu eu cais.

Mae'r dref wedi cyrraedd rhestr fer Adran Diwylliant Llywodraeth Prydain.

Yn Focus Wales, bydd 250 o artistiaid yn perfformio ar 20 lwyfan rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn.

Mae'r enwau o Gymru'n cynnwys Gwenno, Adwaith, Kizzy Crawford, Los Blancos a'r band lleol Campfire Social.

Ond mae artistiaid hefyd yn teithio o Ffrainc, India, Sweden, yr Unol Daleithiau, Canada, a Mecsico ymysg gwledydd eraill.

'Mor boblogaidd ag erioed'

Hwn fydd yr unfed tro ar ddeg i Neal Thompson a'i gyd-sylfaenydd Andy Dafydd drefnu'r 诺yl.

Oherwydd y pandemig cafodd g诺yl 2021 ei chynnal yn hwyr fis Hydref ac mae Neal yn falch o fedru trefnu g诺yl lawn, arferol.

"'Den ni jyst yn teimlo'n rili lwcus i fod yma yn gwneud g诺yl full stop rili."

"Mae pawb wedi gallu ymuno efo ni. Mae o mor boblogaidd ag erioed a 'den ni wedi medru croesawu gwestai rhyngwladol eto. Felly jyst rili lwcus a balch i fod yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Neal Thompson yn falch o allu cynnal yr 诺yl lawn, arferol

Fydd beirniaid cystadleuaeth Dinas Diwylliant ddim yn ymweld 芒 Wrecsam yn ystod Focus Wales, ond mae Neal Thompson yn credu fod gan y dref ddigon i'w gynnig.

"Mae cynnig diwylliannol Wrecsam wedi bod yn gryf ers talwm rili ac un o'r rhesymau 'den ni wedi gallu sefydlu yn fa'ma ac un o'r rhesymau mae o wedi bod mor llwyddiannus ydy oherwydd Wrecsam rili.

"Mae'r sylfeini i ni allu wneud o wedi bod yma eniw锚. Mae 'na s卯n cerddorol cryf wedi bod yma ers talwm, mae 'na s卯n celf cryf.

"A ti'n s么n am bethau lot mwy eang fel y ffwtbol. Mae'r pethau yna i gyd yn dod at ei gilydd," ychwanegodd.

"Mae nhw'n deud 'Wrexham's the place to be' r诺an. Ond mae o wedi bod ers talwm, jyst mae pobl yn dechrau sylwi rwan... a dwi'n falch bod Focus Wales yn gallu chwarae rhan, pa bynnag ran, yn y darlun yna.

"'Den ni'n gobeithio bod Wrecsam yn llwyddiannus. 'Den ni wedi cefnogi'r cais Dinas Diwylliant a 'den ni jyst yn croesi popeth."

'S卯n fywiog'

Un arall o'r artistiaid Cymreig sy'n perfformio ydy E盲dyth, sy'n perfformio gyda'r artist o India, Mangka.

"Dwi'n meddwl bod e'n rili bwysig i artistiaid o Gymru fod yn rhan o g诺yl fel hyn," meddai. "Mae 'na amrywiaeth o dalent, amrywiaeth o miwsig."

Disgrifiad o'r llun, Y gantores E盲dyth, sy'n perfformio gyda'r artist o India, Mangka

"Mae'n anhygoel beth mae Focus Wales yn ei wneud ar gyfer y gymuned yn Wrecsam, yng ngogledd Cymru.

"Dwi'n meddwl bod 'na s卯n rili fywiog fan hyn ac mae e'n adeiladu ac mae wedi bod yn adeiladu ers blynyddoedd.

"Mae e wedi cyrraedd pwynt rili dda, mae e'n rili thrive-io."

'Dangos y gwir Wrecsam'

Mae Morgan Thomas yn aelod o'r t卯m ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi bod yn arwain y cais am statws Dinas Diwylliant 2025.

"Mae g诺yl Focus Wales wedi bod yn mynd ers 11 mlynedd a 'nath o ddechrau mewn 'stafell fach uwchben pyb efo cwpl o fandiau," meddai, "a 'nath o ddatblygu o hynny oherwydd gwaith y bobl yn creu s卯n, a'i adeiladu o.

"Wrth gwrs mae Focus Wales yn dangos diwylliant Wrecsam ar ei orau, ond mae Wrecsam yn lle cryf o ran ei diwylliant cerddorol, gyda hanes cerddorol andros o gryf."

Disgrifiad o'r llun, Morgan Thomas, aelod o d卯m Cyngor Wrecsam ar gais Dinas Diwylliant 2025

Pan fydd y beirniaid yn ymweld yr wythnos nesaf, mae Morgan yn dweud bod y t卯m yn gobeithio dangos bod trigolion yr ardal yn teimlo perchnogaeth dros y cais.

"Pwrpas yr ymweliad gan y beirniaid ydy dangos y gwir Wrecsam. Dangos pob agwedd o Wrecsam.

"Cymryd nhw i'r llefydd glitzy, neis wrth gwrs, ond hefyd dangos Parc Caia, dangos Plas Madog iddyn nhw, y stadau cyngor yma a cymryd nhw i'r llefydd diwydiannol a dangos faint mae'r cymuned wedi cymryd ownership.

"Dros y misoedd diwethaf 'den ni wedi rhoi 54 o grantiau bach allan i'r gymuned i gynnal digwyddiadau o dan y faner Dinas Diwylliant, lle mae nhw wedi trefnu nosweithiau cerddorol, mynd am dro drwy gefn gwlad, gwerthiant recordiau, digwyddiadau i blant.

Disgrifiad o'r llun, Canolfan T欧 Pawb, un o'r lleoliadau sy'n llwyfannu gigs Focus Wales

"Mae 'na ddigwyddiadau aml-ddiwylliannol fel y parti Affricanaidd sy'n digwydd yr wythnos nesaf."

"Mae nhw wedi rili cymryd hwn i'w dwylo eu hunain, so mae'n wych gweld y gymuned yn gwneud hynny."

Ar 么l derbyn statws Dinas Diwylliant 2021, mae Llywodraeth Prydain yn dweud i Coventry weld buddsoddiad o dros 拢172m mewn cyngherddau, arddangosfeydd celf, galeri ddigidol, man chwarae i blant yng nghanol y ddinas a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ogystal 芒 Wrecsam, bydd y beirniaid yn ymweld 芒 Bradford, Durham a Southampton.

Mae disgwyl i'r ddinas fuddugol gael ei chyhoeddi'n ddiweddarach y mis hwn.