Prosiectau niwclear fel Wylfa i 'arwain at filiau ynni uwch'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 大象传媒 Cymru

Gallai prosiectau niwclear mawr fel Wylfa Newydd arwain at filiau ynni uwch yn y tymor byr.

Dyna rybudd Ysgrifennydd Gwladol Busnes ac Ynni San Steffan, Kwasi Kwarteng, wrth ymweld ag Ynys M么n am y tro cynta' ers i'r llywodraeth gyhoeddi ei strategaeth diogelwch ynni fis diwetha'.

Mae'r strategaeth yn cyfeirio'n benodol at Wylfa, a mynnodd Mr Kwarteng bod 'na gefnogaeth amlwg i niwclear yn lleol gan fod pobl eisiau gweld swyddi o ansawdd uchel a buddsoddiad yn dod i'r ardal.

Ond nid pawb sy'n cytuno, gydag ymgyrchwyr gwrth niwclear yn tynnu sylw at y peryglon, a galw hefyd am atebion fwy tymor byr i daclo'r argyfwng ynni a'r cynnydd mewn costau byw.

Wrth siarad 芒 Newyddion S4C dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mai cynllun "tymor hir" fyddai unrhyw orsaf niwclear ar yr ynys.

'拢120m ddim yn ffigwr mawr'

Roedd yr ymweliad 芒 Wylfa yn gyfle i Lywodraeth San Steffan dynnu sylw at gronfa gwerth 拢120m fydd, medden nhw, yn help i wireddu'r nod o gael wyth adweithydd newydd ar draws y DU erbyn 2030.

Nod y gronfa, yn 么l y llywodraeth, ydy ei gwneud hi'n haws denu buddsoddiad preifat.

Ond yn 么l y darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Thomas Jones, mae angen gwneud llawer mwy.

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Edward Thomas Jones yn galw am gamau tymor byr i helpu gyda'r argyfwng costau byw cyfredol

"Mae 拢120m yn rhyw headline number. Mae o'n mynd i edrych yn dda yn y papurau newydd, ond tydy o ddim yn ffigwr mawr yng ngwir destun y peth," meddai.

"Be' 'swn i'n hoffi weld ydy bod y llywodraeth wrth gwrs yn edrych ar y tymor hir - ond yn y tymor byr, mae ganddon ni'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd ac felly mae'n rhaid i'r llywodraeth ddod 芒 pholis茂au trwyddo i helpu pobl efo costau egni.

"Ella bod hynny'n golygu dod 芒 mwy o ddisgownt, tax reliefs ar egni - ond hefyd helpu pobl i fod yn effeithiol efo defnyddio egni."

Disgrifiad o'r llun, Bu Ysgrifennydd Busnes ac Ynni Llywodraeth y DU, Kwasi Kwarteng ar ymweliad ag Ynys M么n ddydd Iau

Tra'n cyfadde' y gallai gwario ar brosiectau fel Wylfa Newydd arwain at filiau ynni uwch am gyfnod, dywedodd Mr Kwarteng y byddai hefyd yn golygu trydan rhatach yn y tymor hir.

"Fe allai gael effaith fychan," meddai, "ond mae ynni niwclear yn fwy i'w wneud 芒'r effaith tymor canol a hirdymor."

Ychwanegodd: "Yn y tymor byr, 'da ni'n gwneud pethau i helpu gyda biliau pobl."

'Peth penbleth'

Wrth roi ei ymateb i Newyddion S4C dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod y cyhoeddiad wedi peri "peth penbleth" iddo.

Ychwanegodd mai cynllun "tymor hir" fyddai unrhyw orsaf niwclear ar yr ynys, ac na fyddai'n ateb problemau pobl yn y tymor byr.

"Mae pobl yn wynebu cynnydd nawr yn eu costau byw, dwi ddim yn meddwl fydd pobl eisiau wynebu mwy o her na'r un sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd," dywedodd.

Disgrifiad o'r llun, Mark Drakeford: Cynllun "tymor hir" fyddai unrhyw orsaf niwclear

"Dwi ddim yn gweld dim byd yn dod mas o beth sy'n digwydd ar Ynys M么n yn y tymor byr. Mae'r cynllun i ddefnyddio'r safle yn rhywbeth am y tymor hir felly cawn weld pryd bydd hwnna'n dod a beth fydd costau'r egni sy'n dod mas o'r safle," ychwanegodd.

'Mwy o fomentwm r诺an'

Gerllaw'r hen atomfa fyddai unrhyw ddatblygiad newydd yn Wylfa - naill ai ar raddfa debyg neu'n gyfres o adweithyddion llai.

Mae rhai yn cwestiynu doethineb canolbwyntio cymaint ar niwclear - a sawl ymdrech i gael Wylfa Newydd wedi methu yn rhannol oherwydd arian.

Ond yn 么l Sasha Wynn Davies, aelod o fwrdd y Sefydliad Niwclear, mae pethau'n wahanol y tro yma.

Disgrifiad o'r llun, Mae yna fframwaith fwy penodol y tro hwn er mwyn cael y maen i'r wal, medd Sasha Wynn Davies

"Mae 'na gymaint mwy o fomentwm r诺an," meddai.

"Mae'n gr锚t i weld y datblygwyr yn dod o gwmpas y lle, cydweithio mwy swyddogol.

"Yn enwedig, mae'r Nuclear Financing Bill wedi bod i lawr yn Llundain a 'da ni efo Royal Assent ar hynny.

"Tro 'ma mae'r sefyllfa yn wahanol. Mae'r llywodraeth efo'r strategaeth diogelwch ynni, 'da ni cyn hynny wedi cael y ten point plan, mae 'na dargedau r诺an. Mae'r fframwaith yna i ddelifro tro 'ma."

Disgrifiad o'r llun, Nid ynni niwclear yw'r ateb i'r heriau presennol, medd Robat Idris o'r mudiad gwrth niwclear Pawb

Yn 么l Robat Idris, o'r gr诺p ymgyrch gwrth-niwclear Pawb, does dim cyfiawnhad dros barhau 芒'r agenda niwclear.

Meddai: "'Da ni'n ganol argyfwng costau byw, 'da ni'n ganol argyfwng newid hinsawdd, 'da ni'n ganol problemau dybryd ledled y byd, 'da ni'n ganol problemau cyflogaeth.

"Dydy niwclear - efo'i beryglon, efo'i gost, efo'i waddol - ddim yn ateb i unrhyw un o'r problemau. Ond mae ynni adnewyddol yn gallu helpu hynny."