Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lle Oeddwn i: Christine James a'i henwebiad fel Archdderwydd
Ddeng mlynedd yn ôl cyhoeddwyd bod Christine James wedi ei henwebu ar gyfer swydd yr Archdderwydd, y fenyw gyntaf - a'r unig un hyd yma - i gael y fraint.
Ac wrth iddi gofio nôl i'r diwrnod hanesyddol ar 23 Mehefin 2012, balchder a sioc sy'n dod i gof.
Jim Parc Nest oedd yr Archdderwydd o'm blaen i. Dwi'n nabod Jim yn dda ac yn gyfeillgar iawn gyda'i wraig Manon, felly mewn un ystyr ro'n i wedi bod yn rhan o gyffro Jim yn ei gyfnod fel Archdderwydd - ond yn y cefndir, wrth gwrs.
Pan oedd tymor tair-blynedd Jim yn y swydd yn dechrau dod i ben, rwy'n cofio'n glir iawn cael galwad ffôn ganddo un diwrnod. Ro'n i yn y gegin a medde fe, "Oes munud 'da ti? Alla i gael gair 'da ti". Popeth yn iawn, medde fi, achos doedd e ddim yn anghyffredin bod Jim yn ffonio yma. A dwedodd e, "Ti'n barod am hyn? Wy'n meddwl y bydde fe'n dda petaet ti'n mynd yn Archdderwydd ar fy ôl i." Gallech chi fod wedi fy llorio i yn y fan a'r lle achos doedd hynny ddim yn fy agenda i o gwbl.
'Alla i byth â gwneud'
Ar y pryd ro'n i mewn swydd gyfrifol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ac roedd bywyd yn brysur iawn gyda dyletswyddau a chyfrifoldebau yn yr adran. Ac oherwydd mod i'n adnabod Jim ro'n i'n gwybod beth oedd hi'n ei olygu i fod yn Archdderwydd… dyw hi ddim jest yn fater o rolio i fyny i bump neu chwe seremoni Orseddol yn ystod y flwyddyn! Dwedes i, "O Jim, alla i byth â gwneud, dwi mor brysur - dwi ddim yn gwybod sut y gallwn i rowndio'r peth." "Meddylia amdane fe," medde fe, a chytunais i wneud hynny.
Ymhen ychydig fe ffoniodd eto, a medde fe, "Drycha mae sawl un wedi bod yn siarad, ac ry'n ni'n meddwl ei bod hi'n amser i ni gael menyw yn Archdderwydd"… a chware teg dwedodd e "Gei di bob cefnogaeth gen i, gan Manon a gan Fwrdd yr Orsedd… Fe gei di gefnogaeth gan bawb". Ac ar hynny fe gytunais y byddwn i'n fodlon i'm henw fynd ymlaen.
Mae ethol Archdderwydd yn broses ddemocrataidd yn yr ystyr bod pobl yn cael eu henwebu'n ffurfiol. Os cofiaf yn iawn mae angen cynigydd ynghyd â saith o gefnogwyr o blith aelodau'r Orsedd i enwebiad fod yn ddilys. Os daw mwy nag un enwebiad, wedyn mae etholiad. Beth oedd yn unigryw, mae'n debyg, am fy ffurflen enwebu i oedd mai menywod oedd pob un o'r rhai a lofnododd y ffurflen - y cynigydd a'r saith arall a lofnododd yr enwebiad, oll yn fenywod.
Sylw'r wasg
Ro'n i'n falch iawn o gael fy enwebu, wrth gwrs - ac yr un pryd yn wylaidd iawn yn ei gylch hefyd, bod pobl yn rhoi eu hymddiriedaeth ynof i fel y fenyw gynta' i fod yn Archdderwydd. Mae llygaid y cyhoedd ar yr Archdderwydd beth bynnag, mae'r Archdderwydd bob amser yn ffocws sylw yn rhinwedd ei swydd, a falle byddai'r llygaid yn syllu'n fwy craff ar y fenyw gyntaf. Dim pwysau felly!
Fe gyhoeddwyd yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Dinbych yn 2012 mai fi fyddai'n olynu Jim Parc Nest yn Archdderwydd Cymru. Gan mai un enwebiad yn unig oedd wedi dod i law, doedd dim angen etholiad. Ces i dipyn o sylw gan y cyfryngau yn y fan a'r lle - ces i fy nghyfweld yn syth ar ôl y seremoni, roedd 'na eitemau yn y wasg, a dwi'n credu efallai bod clip ar y newyddion y noson honno. Roedd 'na sylw ar unwaith, oedd, ond roedd y prif sylw y flwyddyn wedyn pan oeddwn i yn y swydd ac yn arwain y seremonïau am y tro cynta'.
Ro'n i'n nerfus ymlaen llaw, a dweud y gwir roedd ofn arna i… ond unwaith ro'n i yng ngwisg yr Archdderwydd roeddwn yn iawn - ac yn jocan bod ysbryd Iolo Morganwg wedi disgyn arna i! Doeddwn i ddim yn ymwybodol o nerfau fel y cyfryw wrth imi arwain y seremonïau, ond yn ymwybodol mod i'n awyddus i wneud fy ngorau dros yr enillwyr yn eu tro - oherwydd yr enillwyr yw'r bobl bwysig yn seremonïau'r pafiliwn, nid yr Archdderwydd na neb arall.
Wnes i fwynhau fy nghyfnod fel Archdderwydd yn fawr, oherwydd mae'n swydd mor braf ar lawer ystyr. Gwaith yr Archdderwydd yn y bôn yw dathlu gyda phobl eraill - dathlu llwyddiannau beirdd a llenorion a'u cynnyrch nhw, wrth gwrs, a hefyd wrth dderbyn pobl i'r Orsedd trwy anrhydedd mae'r Archdderwydd yn dathlu cyfraniad amrywiol pob math o bobl i fywyd Cymru. Mae'n hyfryd o waith!
Y fenyw nesaf?
Fi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Archdderwydd, ie, ond rwy'n siwr nad fi fydd yr olaf, o bell ffordd. Pwy fydd y nesaf? Yn fy marn i, mae llawer yn dibynnu ar ble mae pobl arni mewn bywyd - ac mae hynny'n wir am y gwrywod hefyd, wrth gwrs.
Mae bod yn Archdderwydd yn ymgymeriad amser sylweddol oherwydd mae pob math o alwadau i fynd i siarad mewn cyfarfodydd neu i roi cyfweliad ac yn y blaen, ac oni bai mod i wedi cael cefnogaeth gan y gwaith ac oni bai bod fy mhlant i erbyn hynny'n oedolion, byddai wedi bod yn llawer, llawer mwy anodd arna i.
Mae'n rhaid i'r amser fod yn iawn i'r person iawn, ond dwi'n gwbl hyderus y daw'r amser iawn i ferched eraill. Ry'n ni'r Cymry, yn yr Orsedd ac yn yr Eisteddfod, yn barod ar gyfer y ferch nesaf - ond mae'n rhaid iddi hi, pwy bynnag fydd hi, fod yn barod yn ei hamser ei hun.
Hefyd o ddiddordeb: