大象传媒

CPD Caernarfon: 'Anoddach cystadlu bob blwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Logo CPD Tref Caernarfon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae CPD Tref Caernarfon yn chwarae ymysg prif glybiau'r pyramid Cymreig

Mae un o glybiau mwyaf y gogledd wedi lansio ap锚l am noddwyr a chymorth ariannol yn dilyn pryderon ei bod hi'n mynd yn anoddach cystadlu ym mhrif haen p锚l-droed Cymru.

Wedi sicrhau dyrchafiad i'r Cymru Premier yn 2018, mae Caernarfon yn denu rhai o dorfeydd mwyaf y pyramid Cymreig.

Ond yn 么l cadeirydd y clwb, dydy'r incwm sy'n dod drwy'r gi芒t ddim yn ddigon i gystadlu gyda rhai o'r timau mwyaf llwyddiannus a chefnog.

Er bod y mwyafrif o dimau'r gynghrair yn lled-broffesiynol, diolch i arian UEFA, gall y rhai mwyaf llwyddiannus hawlio cannoedd o filoedd o bunnoedd drwy gymhwyso ar gyfer y cystadlaethau Ewropeaidd.

O ganlyniad, mae'r ac i bobl ddod ymlaen i ymuno 芒 phwyllgor casglu arian, mewn ymgais i barhau i gystadlu gyda'r mawrion.

Arian Ewrop yn 'anferthol'

Mae p锚l-droed Cymru yn mwynhau oes aur dros y blynyddoedd diwethaf wrth i d卯m cenedlaethol y dynion gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ond er yr holl gyffro yn sgil llwyddiant y t卯m, mae pryderon cynyddol o fewn y g锚m ddomestig - sy'n teimlo fel byd gwahanol i'r miliynau o bunnoedd sy'n cael ei wario ar haen uchaf y g锚m.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paul Evans: 'I glwb fel ni, ac eraill sy'n dibynnu ar volunteers ac heb benefactor, mae'n rhaid ffeindio ffyrdd arall o godi arian'

Dywedodd Cadeirydd CPD Tref Caernarfon, Paul Evans, wrth Cymru Fyw: "Mae 'na fwy o arian yn dod i fewn i'r gynghrair, pobl busnes sy'n dod i fewn ac yn amlwg mae hyn yn gwneud petha'n anoddach.

"Mae ganddyn nhw fantais os oes gan y cadeirydd dipyn o arian, wrth gwrs, a be' 'da ni'n ffeindio wrth i amser fynd ymlaen ydi bod cyflogau'r chwaraewyr yn mynd yn uwch.

"Tydi budget ni heb godi ers dwy flynedd ond be' 'da ni'n gweld hefo'r dynion busnes yn dod i fewn ydi fod y cyflogau'n codi ac os mae'r clwb yna'n cyrraedd Ewrop yna mae'n gwneud gwahaniaeth hefyd.

"Mae'r arian mae nhw'n gael o chwarae'n Ewrop, hyd yn oed os ydyn nhw'n colli yn y rownd gyntaf, yn anferthol.

"I glwb fel ni, ac eraill sy'n dibynnu ar volunteers ac heb benefactor, mae'n rhaid ffeindio ffyrdd arall o godi arian ond bob blwyddyn mae'n mynd yn anoddach i ni a chlybiau yn yr un cwch 芒 ni."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewyr Caernarfon yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn y Fflint yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle

Mewn unrhyw dymor arall mae'n debyg y byddai Caernarfon yn paratoi am eu hymgyrch gyntaf erioed yng nghystadlaethau UEFA, wedi i'r clwb ddod yn fuddugol yng ngemau ail-gyfle y JD Cymru Premier.

Ond wedi i Uwchgynghrair Cymru ddisgyn i safle rhif 51 o ddetholion UEFA, mae nifer y safleoedd Ewropeaidd sydd ar gael wedi gostwng o bedwar i dri eleni.

O ganlyniad, yn hytrach na chwarae yng Nghyngres Europa a derbyn o leiaf 拢129,000 - a mwy os yn llwyddiannus - gwobr Caernarfon fydd lle yng Nghwpan Her yr Alban, ac isafswm o 拢5,500.

Yn hedfan y faner dros Gymru yn Ewrop eleni fydd y Seintiau Newydd, Y Bala a'r Drenewydd.

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Seintiau Newydd, sy'n glwb proffesiynol, yn ennill isafswm o 拢240,000 am gynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr

Er hyn, dywedodd Mr Evans: "Sa'n well ganddon ni wedi bod yn Ewrop ond da ni'n hapus i chwarae yn hon, mae'n beth positif iawn i'r clwb, chwaraewyr a chefnogwyr."

'Ddim isho cael ein gadael ar 么l'

Caernarfon oedd yn denu'r torfeydd cyfartalog uchaf ym mhrif adran Cymru yn nhymor 2021/22, sef 569.

Ond gyda'r niferoedd wedi syrthio rywfaint ers y tymor olaf a chwaraewyd cyn y pandemig, pwysleisiodd y cadeirydd bod costau eraill yn ogystal 芒 thalu cyflogau'r chwaraewyr a staff yn unig.

"Mae sefyllfa ariannol y clwb yn dda iawn o gysidro be' sydd wedi digwydd drwy Covid a costau byw cynyddol, ond tydan ni ddim isho cael ein gadael ar 么l," ychwanegodd Mr Evans.

"Mae'n job anoddach bob blwyddyn am fod hi'n mynd yn job drytach i gadw'r t卯m yn y gynghrair.

"Dwi'm isho neb feddwl fod problem ariannol yma, ond mae'n anoddach cadw yn competitive."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Oval, ble mae gwaith adnewyddu yn digwydd dros yr haf er mwyn gwella'r cyfleusterau i gefnogwyr

"Tydi arian y gi芒t ddim digon, ond tydi o ddim just yn fater o gyflogau, ond rhedeg clwb dydd i ddydd heb ddyled, mae na gostau eraill.

"Mae na glybiau 'efo cae 3G a gallu'i logi allan, ond da ni ddim yn y sefyllfa yna am fod ni isho cadw'r Oval fel pitch gwair, a da ni'n teimlo fod o reit sbesial fel mae o.

"Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn trio'i gorau a mae isho cofio fod clybiau grass roots sydd dipyn waeth allan na ni yn stryglo, ac mae isho bod yn deg efo pawb.

"Tydi o ddim yn waith hawdd iddyn nhw gadw pawb yn hapus."