Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canser y croen: Salonau gwely haul yn torri'r gyfraith
Mae rhai salonau gwely haul yng Nghymru yn torri'r gyfraith drwy adael i bobl dan 18 oed ddefnyddio gwelyau haul neu 'sunbeds', yn 么l tystiolaeth ffilmio cudd gan y 大象传媒.
Mewn ymchwiliad arbennig gan raglen X-Ray, mae tystiolaeth yn dangos salonau yng Nghasnewydd a Chaerdydd yn rhoi mynediad i ddwy ferch dan oed, heb gardiau adnabod - neu ID.
Ers 2011, mae'n anghyfreithlon i unrhyw salon adael i bobl dan 18 oed ddefnyddio gwelyau haul.
Fe ddaeth y gyfraith i fodolaeth wedi pryderon am gynnydd mewn canser ymhlith pobl ifanc.
Yn 么l un dermatolegydd o Ferthyr Tudful, mae nifer y menywod dan 25 oed sy'n gofyn am apwyntiadau oherwydd pryder am ganser y croen wedi cynyddu.
'Miloedd o blant yn eu defnyddio'
Gyda ffigyrau diweddar o Loegr yn awgrymu bod miloedd o blant yn dal i'w defnyddio yno, aeth y rhaglen deledu ymchwiliadol ati i ddarganfod beth oedd y sefyllfa yr ochr hon i'r ffin.
O'r 12 salon yr aethon nhw i ymweld 芒 nhw, fe dderbyniodd pump (dros 40%) arian gan ferched oedd dan oed, gan ddangos iddynt sut i ddefnyddio'r gwelyau haul, cyn i'r merched wneud esgusodion a gadael.
Dywedodd Yr Athro Christian Aldrige, dermatolegydd ymgynghorol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, bod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n gofyn am apwyntiad.
"Rydym ni wedi cael nifer sylweddol o achosion, yn benodol menywod dan 25 oed, sydd wedi dod atom ni oherwydd newidiadau i fannau duon (moles) ar eu croen," dywedodd.
"Weithiau, nid yw aelodau arall o'r teulu yn ymwybodol eu bod yn defnyddio gwelyau haul oherwydd eu bod dan oed."
'Pryder mawr'
Mae'r rhaglen yn rhoi sylw i stori Paris Tippett, 26 oed o Reading.
Cafodd Miss Tippett ddiagnosis o Melanoma graddfa 2 ar 么l darganfod brycheuyn haul newydd ar ei choes wedi defnydd hir o welyau haul.
Wrth ofyn iddi am ei defnydd dan oed o'r gwelyau, fe ddywedodd: "Efallai roeddwn i'n 16 erbyn meddwl.
"Roedden nhw'n arfer gofyn i chi am eich dyddiad geni a bydden i'n ei ddweud a bydden nhw'n gadael i chi fynd i mewn a jyst credu chi.
"Roeddech chi jyst yn ymarfer dyddiad geni, doedd dim angen cerdyn adnabod.
"Cyn nawr, dwi wedi dangos cerdyn adnabod fy chwaer ac fe wnaethon nhw fy ngadael i mewn."
Mae'r ffilmio cudd, a gafodd ei gasglu gan X-Ray, yn dangos nifer o enghreifftiau o dorri canllawiau.
Wrth wylio'r deunydd cudd, fe ddywedodd Julie Barratt, Llywydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd: "Does dim ots beth mae pobl ifanc yn edrych fel neu ba mor hen mae pobl yn edrych, mae'r canllawiau'n nodi'r angen i ddangos cerdyn adnabod.
"Wnaethon nhw ddim gofyn i'w weld. Yn sicr, doedd dim prawf o gerdyn adnabod, mae hynny yn bryder mawr."
Fe gysylltodd y rhaglen gyda Chyngor Caerdydd a Chasnewydd gyda'i darganfyddiadau.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn cymryd y rheolau ar gynnyrch 芒 chyfyngiadau oedran o ddifrif ac y byddan nhw'n adolygu arferion salonau gwely haul o fewn eu hardal i sicrhau eu bod yn glynu at y gyfraith.
Gofynnodd Cyngor Casnewydd i unrhyw un sy'n ymwybodol o salonau 芒 gwelyau haul sy'n cynnig gwasanaeth i'r rheiny dan oed i gysylltu gyda th卯m Iechyd yr Amgylchedd.
Gwyliwch X-Ray Nos Lun, 4 Orffennaf am 20.00 ar 大象传媒 One Wales, hefyd ar iPlayer.