Simon Hart yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Ymddiswyddodd Simon Hart nos Fercher

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson, gan ddweud bod "dim dewis arall" iddo.

Roedd Simon Hart ymysg sawl AS o'r cabinet a ddywedodd wrth y Prif Weinidog am ymddiswyddo yn gynharach ddydd Mercher.

Roedd Mr Johnson wedi dweud nad oedd ganddo fwriad i roi'r gorau i'w swydd a bod ganddo fandad gan yr etholwyr.

Ond fore Iau daeth cadarnhad y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr. Bydd yn aros fel prif weinidog nes bod y blaid wedi dewis arweinydd newydd yn yr hydref.

'Amser wedi dod i gael rhywun arall'

Dywedodd Mr Hart yn ei lythyr i'r Prif Weinidog ei fod "wedi gobeithio osgoi ei ysgrifennu", ond bellach bod "dim dewis arall ond gadael fy swydd".

Ychwanegodd bod "cydweithwyr wedi gwneud eu gorau yn gyhoeddus ac yn breifat i wella'r sefyllfa", ond bod y mater wedi "pasio'r pwynt ble mae hynny'n bosib" erbyn hyn.

Diolchodd am y cyfle i weithio yn y llywodraeth, gan ddweud nad oedd "moment ddiflas" yn ystod y cyfnod.

Disgrifiad o'r sainDywedodd David TC Davies ei bod yn "hollol bosib" y bydd yn cael ei ddiswyddo am alw ar y Prif Weinidog i fynd

Fore Iau dywedodd Is-ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei bod yn bryd i'r Prif Weinidog adael, gan ychwanegu na fyddai'n derbyn swydd Ysgrifennydd Cymru ar 么l ymddiswyddiad Simon Hart.

Dywedodd Mr Davies wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Iau fod Mr Johnson "wedi colli cefnogaeth aelodau uchel o'r cabinet".

"Mae'n glir bod yr amser wedi dod i gael rhywun arall," meddai.

Ond dywedodd Aelod Seneddol Sir Fynwy nad oedd am ymddiswyddo ei hun oherwydd ei r么l fel chwip y llywodraeth, sy'n gweithio "i gael sefydlogrwydd i'r sefyllfa".

Ychwanegodd wrth y rhaglen ei bod yn "hollol bosib" y bydd yn cael ei ddiswyddo oherwydd ei sylwadau.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Fay Jones wedi dweud ddydd Mercher y byddai'n ymddiswyddo os na fyddai Boris Johnson yn gadael

Erbyn bore Iau roedd pump AS o Gymru bellach wedi ymddiswyddo o Lywodraeth y DU.

Un o'r rheiny oedd Fay Jones, AS Brycheiniog a Maesyfed, sy'n ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Arweinydd T欧'r Cyffredin.

Roedd hi wedi dweud ddydd Mercher y byddai'n ymddiswyddo os na fyddai Mr Johnson yn gadael.

Dywedodd wrth Radio Wales: "Ni allaf gefnogi beth sy'n mynd ymlaen. Mae gennyf swydd dechnegol i'w chwblhau'r bore 'ma gyda chwestiynau busnes.

"Dwi ddim yn meddwl y byddai wedi bod yn deg i adael hynny i rywun arall ar y funud olaf felly unwaith fod hynny drosodd am 10:30 - dyna fydd hi.

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd ond wedi ei gwneud yn llawer haws oherwydd ymddygiad Rhif 10 yn y 24 awr ddiwethaf."

Pwy arall sydd wedi gadael?

Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Mr Johnson ymdrin 芒 honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Mae wedi dilyn eu hesiampl ers hynny, ac eraill wedi galw ar y Prif Weinidog i adael Rhif 10.

Nos Fercher, gan ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) yn yr adran iechyd, dywedodd James Davies, AS Dyffryn Clwyd, ei fod yn "amhosib amddiffyn" y Prif Weinidog yn wyneb yr "honiadau niweidiol", a'i bod yn "glir nad yw'r blaid na'r wlad yn rheoladwy" ganddo.

Roedd hynny ar 么l i Craig Williams AS roi'r gorau i fod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Trysorlys, a Virginia Crosbie yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.

Fe wnaeth yr ymddiswyddiadau barhau ddydd Iau, gydag Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Brandon Lewis a'r Ysgrifennydd Addysg, Michelle Donelan - oedd wedi bod yn y r么l ers nos Fawrth yn unig - yn gadael y cabinet.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru bod etholwyr yn ddibynnol ar y Ceidwadwyr i "dyfu asgwrn cefn"

Brynhawn Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, "dwi'n meddwl ein bod ni ar fin gweld y diwedd nawr ac mae'n fater o amser oherwydd yn amlwg mae'r mwyafrif seneddol yna wedi diflannu".

Dywedodd Mr Davies wrth y 大象传媒 ei bod hi'n "amser i'r prif weinidog fyfyrio ar ei sefyllfa a chaniat谩u i rywun arall ymgymryd 芒'r fantell honno i gyflawni maniffesto'r Ceidwadwyr".

Yn gynharach yn y dydd, roedd Mr Davies wedi cydnabod bod cefnogaeth i'r prif weinidog ymhlith ASau Ceidwadol yn edrych yn fwyfwy "tenau".

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw am etholiad cyffredinol i benderfynu pa blaid wleidyddol ddylai feddiannu Stryd Downing.

"Gadewch i bobl y Deyrnas Unedig benderfynu a yw hon yn llywodraeth y maen nhw am ei gweld yn parhau neu, fel dwi'n credu y bydden nhw eisiau, i weld dechrau newydd," meddai.