Galw am ostwng oed sgrinio canser y coluddyn i 40

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae dyn o'r Felinheli a gafodd ganser y coluddyn yn cefnogi galwadau i Lywodraeth Cymru ddechrau sgrinio pobl rhag canser y coluddyn o 40 oed ymlaen.

Ar hyn o bryd, pobl dros 58 oed sy'n cael eu sgrinio, a nod y llywodraeth yw gostwng yr oed i 50 erbyn 2024.

Ond byddai gostwng yr oed yn is eto yn arbed bywydau, yn ôl ymgyrchwyr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod gan Gymru "gynllun clir iawn" o ostwng oed sgrinio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe ymgyrchodd y Farwnes Deborah James ers iddi gael diagnosis o ganser y coluddyn hyd nes y bu iddi farw

Bu farw'r ymgyrchydd y Farwnes Deborah James fis diwethaf ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn yn 35 oed.

Mae ei marwolaeth wedi ysgogi dadl am godi ymwybyddiaeth am ganser y coluddyn ymhlith pobl iau, ac a ddylid gostwng yr oed sgrinio.

Un sy'n credu y dylid ei ostwng ydy Guto Roberts o'r Felinheli yng Ngwynedd, gafodd ddiagnosis o'r canser yn 2020 yn 40 oed.

Disgrifiad o'r llun, Mae Guto wedi colli ffrindiau ifanc i ganser y coluddyn, ac mae'n rhybuddio nad yw arwyddion y salwch yn amlwg

Dywedodd: "O fis Medi 2020 o'n i'n dechre' cael gwaed yn y carthion, a wedyn nes i benderfynu gwneud rhywbeth am y peth pan oedd o'n mynd yn fwy aml.

"Doeddwn i ddim wedi blino... doedd gena' i ddim fatigue fel mae'n nhw'n dweud.

"Ges i gamera yn Tachwedd 2020 a diagnosis yn syth. Tiwmor yn y coluddyn.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny yn bendant… falch bo' fi wedi mynd pan ddaru fi.

"Natur y canser ydy dydych chi ddim yn teimlo'n sâl tan bod hi wedi mynd yn rhy bell."

Mae triniaeth Mr Roberts wedi bod yn llwyddiannus, a bellach mae'n glir o ganser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd elusen Bowel Cancer UK eu bod wedi ymgyrchu ers blynyddoedd er mwyn cael Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ostwng yr oed sgrinio i 50, yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Yn ôl y prif weithredwr, Genevieve Edwards: "Er bod canser y coluddyn yn fwy cyffredin ymysg pobl dros 50, mae'n gallu effeithio ar bobl o bob oed."

Dywedodd bod dros 2,600 o bobl dan 50 oed yn cael diagnosis o'r clefyd bob blwyddyn yn y DU, gyda'r nifer ar gynnydd.

"Er gwaethaf hynny, mae ymwybyddiaeth yn dal yn isel o ran sut y mae'n gallu effeithio ar bobl iau."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Eluned Morgan y bydd y cynllun sgrinio ar gyfer pobl 50 oed yn dechrau erbyn 2024

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gobeithio dod â'r oed sgrinio i lawr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod eu cynllun wedi'i oedi oherwydd y pandemig ond bod pethau'n dilyn trywydd clir erbyn hyn.

"Y'n ni ar y trywydd ble ni'n gobeithio y byddwn yn gallu cyrraedd system lle erbyn 2024 fe fydd pob un dros 50 oed yn cael prawf FIT drwy'r post lle fyddan nhw yn gallu profi os oes symptomau gyda nhw," meddai.

"Y'n ni'n awyddus i wneud hyn. Mae'r pandemig wedi oedi ni rhywfaint ond hyd yn oed heddiw mae pobl 58 oed yn cael hwnna a gobeithio bydd pobl yn cymryd y cyfle."

Ond mae Guto Roberts ymhlith nifer o ymgyrchwyr eraill ar hyd Cymru sydd am weld yr oed sgrinio yn gostwng i 40 oed.

"Mae o'n gam i'r cyfeiriad cywir ond na'thon ni golli ffrind blwyddyn yn ôl, Carys. Roedd hi'n 'sgwennwr blog 'Colon Lan' i godi ymwybyddiaeth… a bechod, Carys wedi cael diagnosis yn rhy hwyr.

"Mae gena' i ffrind arall yng ngogledd Môn sef Mari, yn eu 40au oedd y ddwy... dwi'n meddwl y dylai'r oed sgrinio fod yn 40 oherwydd natur y canser.

"Mae'r symptomau'n reit ddistaw tan bod hi'n rhy hwyr, wedyn os ydyn nhw'n sgrinio yn 40 oed 'sa nhw'n arbed pentwr o fywydau."