大象传媒

Costau byw: Mwy o bobl yn gymwys am arian ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Menyw yn edrych ar filFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd miloedd yn fwy o bobl yn gymwys i gael taliad gwerth 拢200 i'w helpu i dalu eu biliau ynni, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

O fis Medi bydd pobl sy'n hawlio credydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd a lwfans gofalwr yn gallu gwneud cais.

Bydd y rheiny sy'n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau Treth Cyngor hefyd yn gallu ymgeisio.

Roedd pobl ar gredyd cynhwysol - yr hen fudd-daliadau sy'n cael eu dyfarnu ar sail prawf a chredydau treth gwaith - eisoes yn gymwys.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ei bod yn gobeithio y byddai'r cyhoeddiad yn "rhywfaint o gysur yn y cyfnod heriol hwn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r argyfwng costau byw barhau bydd biliau tanwydd yn codi eto yn yr hydref, gydag arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r cap ar bris ynni gynyddu i dros 拢3,300 y flwyddyn.

Dyma'r ail flwyddyn i Lywodraeth Cymru gynnig taliadau i helpu gyda biliau dros y gaeaf.

Mae'r newid yn golygu y bydd tua 420,000 o aelwydydd yn gymwys ar gyfer y taliad eleni.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru amcangyfrif y byddai 350,000 o bobl yn gymwys, ond yn 么l swyddogion roedd y ffigwr cywir yn is na hynny.

O'r holl aelwydydd oedd yn gymwys yn ystod gaeaf 2021/22, dim ond 166,000 ohonyn nhw wnaeth cais am gymorth

Mae cyfanswm o 拢90m wedi'i glustnodi ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd, sydd ar wah芒n i gymorth Llywodraeth y DU ar gyfer biliau ynni.

Bydd pobl yn gallu gwneud cais drwy eu cyngor lleol o 26 Medi, a bydd y taliadau'n dechrau ym mis Hydref.

Dim ond un cais fydd yn gallu dod o bob aelwyd.

'Anodd cael dau ben llinyn ynghyd'

Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Ms Hutt: "Rydyn ni'n gwybod bod pobl ledled Cymru yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, wrth iddyn nhw weld chwyddiant, petrol, eitemau cartref hanfodol a biliau ynni i gyd yn codi.

"Rydyn ni'n targedu aelwydydd incwm isel gyda'r Cynllun Cymorth Tanwydd ac yn ymestyn nifer y rhai sy'n gymwys, gan ein bod yn deall mai misoedd y gaeaf sy'n gallu bod anoddaf, wrth i deuluoedd orfod gwneud y dewis anodd rhwng gwresogi eu cartref a bwyta.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi 芒'r cyfnod anodd hwn."

Yn gynharach y mis hwn daeth gweinidogion o dan bwysau yn y Senedd i ddiwygio'r cynllun cymorth tanwydd a'i wneud yn "addas i'w ddiben".

Fe gollodd y llywodraeth bleidlais ar y mater ond dywedodd Ms Hutt ar y pryd ei bod hi'n bwriadu ymestyn cymhwysedd y rhaglen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth groesawu'r cyhoeddiad newydd dywedodd lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfiawnder cymdeithasol, Mark Isherwood ei fod yn "falch" bod y newid wedi dod cyn yr hydref.

Ychwanegodd ei fod nawr eisiau gweld ymdrech i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r cynllun.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams, ei bod hi'n hen bryd i'r cyhoeddiad gael ei wneud.

Ychwanegodd y dylai'r llywodraeth ystyried ymestyn y cynllun y tu hwnt i'r gaeaf.

"Dydi tlodi ddim yn glynu at gyfyngiadau tymhorol - mae biliau'r haf yma mor uchel nawr ag yr oedden nhw'n arfer bod yn y gaeaf."