Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymraes yn graddio gydag academi'r Bolshoi yn Rwsia
- Awdur, Gwenllian Grigg
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Ers ei sefydlu dros ddwy ganrif yn 么l, mae academi'r Bolshoi yn Rwsia wedi meithrin rhai o ddawnswyr ballet gorau ac enwoca'r byd.
Eleni, ymhlith y rhai sydd wedi graddio o'r ysgol mae Ffion Ballard - un o ddim ond wyth myfyriwr rhyngwladol i gyflawni'r gamp honno'r flwyddyn hon.
Wedi ei geni yn Los Angeles i Gymraes o Sir G芒r, fe dreuliodd Ffion gyfnod yn byw yng Nghymru, cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau a datblygu'n ddawnswraig dalentog.
Yn 么l ei mam, Sione Owen, fu'n siarad am lwyddiant ei merch gyda 大象传媒 Cymru, roedd Ffion yn dangos addewid o oed cynnar iawn.
"Pan oedd hi'n ddyflwydd oed, dechreuon ni. O'n i'n gweld bod ei diddordeb hi'n wahanol i blant eraill. Roedd hi wastad jest yn canolbwyntio fwy.
"Roedden ni yn LA ar y pryd. Daethon ni n么l i Gymru am ryw dair blynedd ac fe gafodd hi wersi fa'na, yn Ninas Powys dwi'n meddwl.
"Daethon ni 'n么l i America i fyw yn nhalaith Efrog Newydd. Ffeindies i academi, ac fe gafodd hi wahoddiad i mewn i'r conservatory programme, a dyna ble welon ni ei bod hi'n dalentog.
"Yna daeth y Bolshoi i Connecticut ac ar 么l cael clyweliad, fe gafodd hi wahoddiad i'r rhaglen yna."
Yn ystod ei harddegau, daeth yn amlwg mai breuddwyd Ffion oedd bod yn ddawnswraig ballet.
Rhoddodd y gorau i addysg llawn amser a dewis teithio i mewn i ddinas Efrog Newydd bob dydd ar gyfer ei gwersi. Ei huchelgais oedd cael mynd i Moscow i astudio gyda'r Bolshoi.
"Pan oedd hi'n 15 aeth hi eto i'r rhaglen dros yr haf. Roedd Ffion yn gwybod mai'r unig ffordd o gael gwahoddiad o fynd i Moscow oedd mynd i'r rhaglen yna, ac eto, roedd hi'n gorfod cael clyweliad i fynd."
Mae Sione'n cofio'n glir y diwrnod pan gafodd Ffion wybod ei bod wedi cael lle i astudio ballet yn academi'r Bolshoi.
"Roedden ni yn y maes awyr yn 2018, yn yr haf, yn barod i fynd i Gymru i ymweld 芒 theulu, a ges i e-bost wrth y Bolshoi i wahodd Ffion i fynd i Moscow.
"Dywedais i wrth Ffion, 'O mae rhywbeth rili gr锚t wedi digwydd', a dangoses i'r e-bost iddi yn y maes awyr, a 'naeth hi jyst byrstio mas i lefain!
"Roedd pobl rownd i ni'n meddwl bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd, ond roedd rhywbeth aruthrol wedi digwydd."
Dim ond 15 oed oedd Ffion pan gafodd ei derbyn i'r academi, oedd yn golygu codi pac a gadael ei theulu yn Efrog Newydd i dreulio pedair blynedd ym Moscow.
Ond er bod ganddi deimladau cymysg, roedd Sione'n teimlo ei fod yn gyfle rhy dda i'w golli.
"O'n i mor falch. Roedd hi wedi bod yn breuddwydio am hyn dros ei bywyd ac felly doedd e ddim yn galed i fi ddweud 'cer', achos dyna beth yw'n jobyn i - ei helpu hi i wneud beth mae hi mo'yn.
"Mewn ffordd, o'n i'n teimlo ei bod hi'n well yn mynd i ysgol lle roedden nhw'n edrych ar ei h么l hi, yn gyfrifol amdani hi."
Addysg drwy gyfrwng Rwsieg
Yn ogystal 芒 mireinio'i chrefft o ddysgu ballet, roedd Ffion yn rhan o raglen addysg lawn, a hynny'n gyfan gwbl drwy'r Rwsieg.
"Roedd y ballet yn brofiad gwych, achos does neb yn gallu gwneud ballet yn well na nhw yn Rwsia.
"A hefyd, roedd hi'n dysgu'r iaith ac yn gwneud popeth academig yn Rwsieg. Roedd hi'n dysgu hanes, seicoleg, pedagogy.
"Mae hi'n aeddfed, mae'n gyfrifol. Mae hi'n ferch wahanol. Sai'n credu bo fi wedi cwrdd 芒 neb sy'n fwy serious na Ffion - yn gwybod yn hollol beth oedd hi mo'yn gwneud ac fel i'w wneud e."
Nawr bod Ffion wedi graddio, mae'n edrych ymlaen at ddechrau pennod newydd.
Er ei bod yn gobeithio gweithio yn Rwsia rhywbryd yn y dyfodol, gan ei bod yn Americanes, dydy hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa yn Wcr谩in.
Ond mae hi wedi ei gwahodd i weithio gyda chwmni ballet rhyngwladol Varna ym Mwlgaria.
"Dwi'n edrych ymlaen i'w gweld hi," medd Sione. "Gobeithio y galla i fynd i'w gweld hi yn Bwlgaria. Bydd e'n gr锚t i'w gweld hi ar y llwyfan."
Ers gwneud y cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru, mae Sione wedi clywed y bydd y cwmni'n perfformio yng Nghymru, ac yn gobeithio y caiff Ffion deithio gyda nhw.
Er mai yn yr Unol Daleithiau y cafodd Ffion ei magu am ran fwya'i phlentyndod, ac er y gallai ei gyrfa fel dawnswraig fynd 芒 hi i bedwar ban byd, mae Sione'n dweud na fydd Ffion fyth yn anghofio'i gwreiddiau Cymreig.
"Ni 'di bod yn ymweld 芒 theulu bron a bod pob blwyddyn, ac mae hi dal yn meddwl ei bod hi'n Gymraeg.
"Fi dal yn siarad Cymraeg 芒'r plant, ond wrth gwrs maen nhw'n ateb fi yn Saesneg, sydd bach yn od! Ond maen nhw'n deall.
"Mae hi'n credu falle bydd hi'n newid ei henw i Ffion Angharad. Mae hi'n dwlu ar yr enw Angharad!"