Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Absenoldebau ysgol wedi mwy na dyblu ers cyn y pandemig
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae cyfradd absenoldebau disgyblion yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, o'i gymharu 芒 chyn y pandemig.
Ar gyfartaledd dros y flwyddyn, roedd 16.3% o ddisgyblion yn absennol o ysgolion uwchradd, i fyny o 6.2% yn 2018-19, yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Mewn ysgolion cynradd, roedd 11% o ddisgyblion yn absennol yn y flwyddyn ysgol sydd newydd ddod i ben - o'i gymharu 芒 5.4% y flwyddyn gynt.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu bron i 拢4m ar gyfer swyddogion sy'n ymwneud 芒 theuluoedd er mwyn hybu presenoldeb disgyblion.
Mae'r ffigyrau ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfan rhwng Medi 2021 a Gorffennaf 2022 yn dangos bod dros 88% o ddisgyblion wedi colli dros wythnos o ysgol am unrhyw reswm.
Hefyd roedd dros 68,000 o blant - 14% o ddisgyblion - yn absennol am 40.5 diwrnod neu fwy.
Roedd cyfradd absenoldebau'n uwch ymhlith disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim - 18% - o'i gymharu ag 11.8% i'w cyd-ddisgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y data mwy diweddar wedi ei gasglu mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r ffigyrau cyn y pandemig.
Ond mae lefel presenoldeb yn y flwyddyn ysgol ddiweddaraf - 86.8% - llawer yn is na'r lefel cyn y pandemig sef tua 94%.
Ar 么l atal dirwyon yn ystod y pandemig, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fis Mai y gallai ysgolion a chynghorau eu defnyddio unwaith eto pe bai angen.
Dywedodd arweinwyr ysgolion fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bresenoldeb.
"Mae'n ymddangos yn debygol iawn bod rhai myfyrwyr wedi dod allan o'r arfer o fynd i'r ysgol yn rheolaidd," meddai Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru.
Dywedodd bod eraill wedi dioddef o straen a phryder o ganlyniad i'r pandemig a bod eu presenoldeb wedi dioddef oherwydd hynny.
Fe fyddai'r plant mwyaf bregus a difreintiedig wedi eu taro waethaf, meddai, a hynny'n achos "pryder enfawr".
Galwodd ar Lywodraeth Cymru a chynghorau i sicrhau bod yna brofion Covid ar gael yn yr hydref yn ogystal ag awyru da mewn ysgolion, ac arian ar gyfer athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu 芒 phosib os yw achosion Covid yn cynyddu.
Rhybudd 'cenhedlaeth goll'
Dangosodd y data hefyd bod 94,136 o blant - neu un o bob pump - wedi methu 5.5 i 10 diwrnod yn yr ysgol am reswm yn gysylltiedig 芒 Covid.
Fe wnaeth 69.1% o ddisgyblion fethu o leiaf hanner diwrnod oherwydd Covid.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn hanfodol i blant fod yn y 'stafell ddosbarth.
"Mae angen i weinidogion Llafur ddod i'r afael 芒 phroblemau presenoldeb cyn creu cenhedlaeth goll," meddai arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu bron i 拢4m ar gyfer swyddogion sy'n ymwneud 芒 theuluoedd er mwyn hybu presenoldeb.
"Mae ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda yn gallu sicrhau fod mesurau mewn lle i helpu disgyblion gyda'u hymrwymiad a'u presenoldeb, a dyma pam fod ein pwyslais ni ar gymuned yn allweddol wrth ymateb i'r her yma," meddai.
"Hefyd eleni fe wnaethon ni ddarparu 拢24m oedd wedi'i ffocysu ar ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, gan gynnwys arian penodol ar gyfer swyddog presenoldeb ym mhob awdurdod lleol i gefnogi dysgwyr ym mlwyddyn 11 er mwyn ceisio sicrhau eu bod yn cwblhau eu TGAU."