Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adfer cyflenwad d诺r yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyr
Mae cyflenwad d诺r yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei adfer ar 么l cael ei droi i ffwrdd am gyfnod helaeth wrth i swyddogion gynnal profion ar safon y d诺r.
Am gyfnod helaeth rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn bu'n rhaid darparu poteli d诺r i eisteddfodwyr fu'n cyrraedd y Maes a'r maes carafanau yn Nhregaron.
Cafodd y cyflenwad ar gyfer y maes carafanau ei ail-sefydlu ychydig cyn 18:00 nos Wener, cyn i gyflenwad y maes gael ei adfer fore Sadwrn.
Roedd yr Eisteddfod wedi dweud nos Wener y byddai profion pellach yn cael eu gwneud ar gyflenwad y Maes ei hun am 08:00 fore Sadwrn.
Ond wrth i eisteddfodwyr gyrraedd nid oedd y d诺r wedi'i droi ymlaen ar y Maes, ac nid oedd y tapiau i ail-lenwi poteli ar gael i'w defnyddio.
Yna, toc wedi 11:00, daeth cadarnhad fod y "d诺r yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y Maes".
'Maint a chymhlethdod isadeiledd d诺r dros dro'
Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad am 11:15 ddydd Sadwrn: "Mae'r systemau d诺r cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod yn weithredol eto yn dilyn canlyniadau'r profion a ddaeth drwodd y bore 'ma.
"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Ceredigion a D诺r Cymru ar rai materion, oherwydd maint a chymhlethdod isadeiledd d诺r dros dro, ond mae'r d诺r yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y Maes."
Ar y maes carafanau brynhawn Gwener dywedodd Bet Jones o Gaerfyrddin ei bod yn deall bod her wrth baratoi'r maes, ond nad oedd yn ddelfrydol 'chwaith.
"Ddes i lan ddoe [dydd Iau] a ges i lythyr yn y fynedfa yn dweud wrthon ni doedd o [y d诺r] ddim yn ffit i'w yfed o bellffordd, nac i wneud dim ag e i ddweud y gwir - hyd yn oed ar gyfer cawodydd.
"Yr unig beth i wneud wedyn oedd cael poteli d诺r, a da' chi'n gorfod defnyddio'r rheiny i bopeth.
"Ni'n deall fod e'n sefyllfa anodd. Mae cymaint o bibelli yn y maes a fan hyn - dyw e ddim yn j么c i seto fe lan."
Ychwanegodd Violed Jones o Bencader: "Mae gofid mawr yma fod ddim d诺r i bobl hyd yn oed i'w ferwi a'i ddefnyddio wedyn, hyd yn oed i gael cawod."
Dywedodd eisteddfodwr arall, Ieuan Arfon Jones o Langollen: "'Da ni bach yn siomedig ond yn gorfod bod yn ofalus gyda d诺r ar y fferm adre am fod ni ddim ar y d诺r mains, felly 'da ni wedi arfer.
"Oeddwn wedi cymryd fydda d诺r Tregaron yn berffaith!"