'Mesurau mewn lle' i ddelio 芒 glaw ar y maes

Disgrifiad o'r llun, Roedd mwd a phyllau o dd诺r ar y maes fore Sul ar 么l glaw dros nos
  • Awdur, Alun Thomas
  • Swydd, Newyddion Radio Cymru

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod mesurau yn eu lle i ddelio 芒'r glaw yng Ngheredigion nos Sadwrn a bore Sul.

Yn 么l Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, mae gweithwyr wedi bod ar y maes yn gosod coed m芒n ar y tir er mwyn amsugno darnau o fwd.

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Sul, fe ddiolchodd i weithwyr Cyngor Sir Ceredigion am eu cymorth.

Fe fu'n rhaid trwsio rhan o do llwyfan y maes ar 么l i dd诺r gronni yno nos Sadwrn.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r trefnwyr yn gobeithio bod y gwaethaf drosodd

Ar 么l glaw trwm dros nos, fe ddechreuodd glirio erbyn canol y bore.

Bu'n rhaid canslo un o'r digwyddiadau ar y maes neithiwr oherwydd y tywydd.

Ond mae'r trefnwyr yn ffyddiog y bydd modd i'r syrcas ddigwydd nos Sul.

Disgrifiad o'r llun, Roedd angen esgidiau synhwyrol ar ymwelwyr i'r maes fore Sul

Dywedodd Betsan Moses bod y maes yn Nhregaron yn sychu'n dda, a'u bod yn gobeithio bod y gwaethaf drosodd o ran y tywydd.

Mae'r caeau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y meysydd parcio yn cael eu hamrywio drwy gydol yr wythnos er mwyn amddiffyn y tir.