Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
10fed medal i Gymru yn y bowls yng Ngemau'r Gymanwlad
Mae Cymru wedi ennill 10 medal yng Ngemau'r Gymanwlad bellach wedi i d卯m treblau'r dynion sicrhau efydd yn y bowlio lawnt.
Fe wnaeth Owain Dando, Ross Owen a Jonathan Tomlinson drechu Ffiji o 21-7 yn y g锚m am y trydydd safle ddydd Llun.
Lloegr - a drechodd Cymru yn y rownd gynderfynol - enillodd yr aur, gydag Awstralia yn ennill yr arian.
Hyd yma mae Cymru wedi ennill un fedal aur, dwy arian a saith efydd yng ngemau Birmingham.
Mae Cymru hefyd yn sicr o ennill medal aur neu arian yn y bowls ddydd Mawrth, wedi i Daniel Salmon a Jarred Breen selio eu lle yn rownd derfynol cystadleuaeth y parau.