Maesteg: 'Methiannau llywodraethu difrifol' cyngor tref

Disgrifiad o'r llun, Gwnaeth Margaret Buckley daliadau gwerth dros 拢80,000 iddi hi ei hun

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi canfod methiannau llywodraethu a rheolaeth ariannol difrifol mewn cyngor tref.

Rhwng Mawrth 2016 a Rhagfyr 2019 fe wnaeth cyn-Glerc Cyngor Tref Maesteg dwyllo'r awdurdod o 拢238,000, sef 27% o'i gwariant heblaw cyflogau dros bedair blynedd.

Ond yn 么l adroddiad newydd roedd methiant y cyngor i gyflawni eu rheolaethau ariannol eu hunain wedi "creu amgylchedd y gellid cam-fanteisio arno er mwyn twyllo".

Yn ogystal, nodwyd "methiant i arfer safonau gofynnol llywodraethu a rheolaeth ariannol".

Carchar i'r cyn glerc

Yr wythnos diwethaf fe garcharwyd Margaret Buckley, 76, am ddwy flynedd a phedwar mis wedi iddi bledio'n euog i dwyllo'r cyngor yn Llys y Goron Caerdydd.

Nodwyd yn yr adroddiad bod y cyn-glerc, yn ogystal 芒 chymryd 拢80,000 ar gyfer hi ei hun ac 拢3,850 i aelodau o'i theulu, hefyd wedi darparu symiau sylweddol i'w heglwys leol.

Doedd dim tystiolaeth fod derbynwyr yr arian yn ymwybodol ei fod wedi ei ddwyn, ond derbyniodd Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes a Sant Padrig 拢18,866, a rhoddwyd 拢134,895 pellach i'w changen codi arian, The Flower Group.

Mae'r adroddiad yn nodi ei bod hi'n "bosib bod mwy o daliadau afreolaidd wedi eu gwneud cyn Ebrill 2015".

Ers darganfod y twyll, mae Cyngor Tref Maesteg wedi derbyn arian yswiriant i'w digolledu am fwyafrif eu colledion.

'Methiant i graffu'

Ond o fethu 芒 dilyn gweithdrefnau ariannol priodol, "cr毛wyd amgylchedd y bu modd i'r cyn-Glerc gamfanteisio arno er mwyn twyllo", yn 么l swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol yn dilyn ymchwiliad i'r cyngor.

Yn ogystal, darganfyddwyd methiant gan aelodau'r cyngor i graffu'n iawn ar y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd gan y cyn Glerc.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn amlinellu sawl argymhelliad i Gyngor Tref Maesteg

Mae'r adroddiad yn amlinellu sawl argymhelliad i Gyngor Tref Maesteg, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod ei reolaethau mewnol priodol gan gynnwys awdurdodi taliadau, yn cael eu dilyn gan bob aelod;
  • Rhoi craffu priodol ar waith ar gyfer gwaith y Clerc a'r Dirprwy Glerc;
  • Gweithredu'r argymhellion a wnaed gan ei archwilydd mewnol yn 2020 a sicrhau bod y prosesau a roddwyd ar waith yn gweithredu'n effeithiol.

'Anghysondebau a hepgoriadau sylweddol'

Mewn datganiad dywedodd swyddfa'r archwilydd: "Fel rhan o'u trefniadau ariannol a llywodraethu, roedd y cyngor yn mynnu bod yr aelodau yn llofnodi'r holl sieciau, a dylent fod wedi gwirio pob anfoneb hefyd.

"Fodd bynnag, methodd aelodau a oedd yn llofnodwyr sieciau 芒 dilyn proses briodol, gan gynnwys arwyddo sieciau gwag, gan felly hwyluso'r twyll a gyflawnwyd gan y cyn-Glerc.

"Yn ein hadroddiad er budd y cyhoedd daethpwyd o hyd i fethiannau sylweddol eraill gan Gyngor Tref Maesteg hefyd.

"Mae'r rhain yn cynnwys methu 芒 sefydlu system archwilio fewnol ddigonol cyn 2019 a methu 芒 chydymffurfio 芒'r amserlen statudol ar gyfer cyflwyno ei gyfrifon i'w harchwilio.

"Mae anghysondebau a hepgoriadau sylweddol hefyd yn systemau cyfrifo a chofnodion y cyngor."

Ychwanegodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae'r twyll a gyflawnwyd yn erbyn Cyngor Tref Maesteg yn dangos pa mor bwysig yw sefydlu systemau rheoli mewnol ac archwilio mewnol effeithiol a gall cynghorau tref ledled Cymru ddysgu o'r adroddiad hwn i leihau'r risg y bydd hyn yn digwydd eto."

Mae Cyngor Tref Maesteg wedi derbyn cais i ymateb.