Pam fod cymaint o Gymry yn llwyddiannus ar TikTok?

Ffynhonnell y llun, Lewis Leigh

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Lewis Leigh 1.7 miliwn o ddliynwyr ar TikTok

"Mae'r fideo gynta' 'nes i gyda fy nain ar TikTok wedi cael ei gwylio bron i 20 miliwn o weithiau nawr," medd dyn ifanc o Ferthyr Tudful a wnaeth adael ei swydd i greu fideos ar yr ap.

Fe ddechreuodd Lewis Leigh, 20, rannu fideos ohono'n dawnsio gyda'i deulu ar TikTok yn ystod y cyfnod clo.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae ganddo 1.7 miliwn o ddilynwyr ac asiant i'w gynrychioli.

Mae Mr Leigh ymhlith nifer cynyddol o Gymry sydd bellach yn ystyried TikTok fel eu swydd llawn-amser.

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn treulio mwy o amser ar TikTok na phobl ifanc mewn unrhyw ran arall o'r DU, yn 么l adroddiad diweddar gan Ofcom.

Mae gan 79% o bobl rhwng 15-24 oed gyfrif ar yr ap, ac maen nhw'n treulio dros awr arno bob dydd.

Pam fod yr ap mor boblogaidd yng Nghymru, a pham fod cymaint o Gymry yn gadael eu swyddi i fod yn s锚r TikTok?

'Cyfle i fod yn chi eich hunain'

Fe ddechreuodd Mr Leigh rannu fideos ohono'n dawnsio ar Facebook, cyn i'w ffrindiau annog iddo droi at TikTok pan yn y coleg.

Mae fideos ohono'n dawnsio gyda'i nain Phyllis, 77, yn hynod boblogaidd.

"Yn amlwg, fi a Nain yw'r ddau mae pawb yn caru," medd Mr Leigh, sydd bellach wedi gadael ei swydd mewn bwyty er mwyn canolbwyntio ar TikTok.

Ffynhonnell y llun, Lewis Leigh

Disgrifiad o'r llun, Mae fideos o Lewis a'i nain Phyllis wedi cael eu gwylio gan filiynau o bobl

Mae'r ap yn boblogaidd yng Nghymru gan fod pobl yn dymuno bod yn nhw eu hunain, medd Mr Leigh.

"Yng Nghymru'n benodol, efallai bod pobl ifanc yn ei gweld hi'n anodd achos mae 'na lot o bentrefi lle mae pawb yn 'nabod ei gilydd, heblaw am ddinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe.

"Mae'n bosib bod rhai yn defnyddio TikTok os ydyn nhw eisiau bod yn nhw eu hunain a dydyn nhw ddim yn gyfforddus yn gwneud hynny mewn bywyd go iawn."

Cyfnodau clo yn gyfrifol?

Mae Catherine Keenan, 31, o Gasnewydd yn creu fideos TikTok gyda'i phartner Shaun a'u dau o blant, sy'n bump a naw oed.

Fe wnaeth hi ymuno 芒'r ap yn 2019 ac mae hi bellach yn creu tua saith fideo bob wythnos.

"Dw i'n gweithio ar hyd y platfformau cymdeithasol i gyd, gan gynnwys TikTok, YouTube, Facebook ac Instagram. TikTok yw fy mhrif ffynhonnell incwm a dyna le ddechreuodd popeth."

Ffynhonnell y llun, Cat Keenan

Disgrifiad o'r llun, Mae Catherine Keenan yn creu cynnwys gyda'i g诺r a'u plant

Mae'r cyfnod clo yn gyfrifol am boblogrwydd yr ap i raddau, medd Ms Keenan.

"Dw i ddim yn si诺r a ydyn ni yng Nghymru wedi treulio mwy o amser ar TikTok na phobl yn Lloegr am i ni ddod allan o'r cyfnod clo yn hwyrach.

"Dw i'n credu y byddai TikTok wedi llwyddo heb Covid, ond fe helpodd Covid i'w wthio ychydig ymhellach."

'Hiwmor Cymreig yn anhygoel'

Yn 么l rhai eraill, personoliaeth sy'n gyfrifol am lwyddiant Cymry ar yr ap.

Mae gan Dean Morris, 27, bron i 700,000 o ddilynwyr ar TikTok.

"Pan es i'n feiral am y tro cyntaf, o'n i'n caru e... o'dd e'n deimlad hyfryd," medd Mr Morris o Lanelli, sy'n creu cynnwys ar yr ap ers 2019.

Ffynhonnell y llun, Dean Morris

Disgrifiad o'r llun, Mae Dean Morris yn gobeithio gwneud i bobl chwerthin gyda'i fideos

"Mae hiwmor Cymreig a'r ffordd Gymreig o fyw yn anhygoel," meddai.

"Dw i wir yn credu mai just personoliaethau pobl Cymraeg sy'n dod trwy yw e."

Mae Laura Orgill, 28, yn cytuno gyda Mr Morris.

Ffynhonnell y llun, Laura Orgill

Disgrifiad o'r llun, Rhoi hyder i bobl fod yn nhw eu hunain yw'r hyn mae Laura Orgill yn dymuno ei wneud

Mae Ms Orgill yn rhannu fideos o'i bywyd hi gyda'i chariad yn eu cartref yn y Rhondda ar 么l dechrau defnyddio'r ap yn ystod y pandemig.

"Rydyn ni'n caru cael hwyl, ac os ydy hynny'n cynnwys gwneud dawns TikTok gwirion, 'dan ni'n barod amdani," meddai.

"Dw i hefyd yn credu bod yr ap yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl gyffredin, fel y digwyddodd i fi, ac mae'n ysbrydoli'r genhedlaeth iau i fod yn fwy creadigol a hyderus."