Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am atal cynllun parc gwyliau Penrhos a gwarchod natur
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae ymgyrchwyr ym M么n yn galw ar gwmni sydd am ddatblygu parc gwyliau ger Caergybi i wyrdroi eu penderfyniad.
Mae cwmni Land and Lakes wedi cyflwyno cais cynllunio ers 2012 i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos, gan ddweud y byddai'n denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.
Ond gyda'r safle yn hafan i fyd natur, ac newydd ennill gwobr am hynny, mae galw o'r newydd i warchod y safle rhag datblygiad.
Yn 么l cwmni Land and Lakes sy'n berchen ar y tir, byddai unrhyw bentref gwyliau yn parchu'r byd natur gan fynnu nad oes cynllun i dorri 28 acer o goed, fel sydd wedi ei honni.
Yn 2016 fe gafodd gynlluniau'r cwmni ganiat芒d amlinellol gan Gyngor M么n sy'n cynnwys bwriad i godi 500 o unedau gwyliau a phwll nofio trofannol.
Fel rhan o'r cais cynllunio gwreiddiol, mae'r cwmni wedi honni y byddai hyd at 拢30m yn cael ei fuddsoddi i'r economi leol.
Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn lle poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywiogaethau gan gynnwys y Wiwer Goch.
Mae'r safle yn ymestyn ar draws 200 o aceri, ac yn 么l y cwmni, byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.
Ond i deulu fel un Jenny Jones sy'n byw gerllaw, mae achub y parc rhag y pentre gwyliau yn flaenoriaeth.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n warthus," medd y fam i ddau.
"'Dan ni fel teulu yn mwynhau dod i Benrhos a fel 'dach chi'n gweld mae 'na lot o deuluoedd yn mwynhau.
"'Di o'm yn lle i barc gwyliau, mae'n lle i deuluoedd cael dod yma i fwynhau ac yn lle i natur."
Yn 么l Ms Jones, gad nad oes gan y teulu ardd i'r plant chwarae, dyma'r unig le mae'r plant yn "teimlo'n rhydd".
Yn 么l sefydliad y Woodland Trust, mae'r parc yn denu rhyw 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno.
Mae gan nifer gysylltiad personol gyda'r safle, gan gynnwys Glyn Jones sy'n mynd yno'n aml.
"Fyddwn i'n arfer dod yma'n rheolaidd gyda fy niweddar wraig a fydda i'n dal i ddod yma yn rheolaidd ac eistedd yma i gael heddwch meddwl".
"Mae'n le mor braf, os 'dach chi ar ben eich hun neu mewn giang, ma'n le mor hyfryd ac i'r cwbl gael ei chwalu o bosib!"
Yn 么l sefydliad Fields in Trust, fe ddaeth Penrhos i'r brig yng nghystadleuaeth Hoff Barc y Deyrnas Unedig "gan ei fod yn lle arbennig i nifer".
Yn 么l cynlluniau Land and Lakes fe fyddai'r parc gwyliau yn gweddu gyda natur yr ardal ac yn dangos sensitifrwydd i'r amgylchedd.
Gobaith y cwmni ydy creu hyd at 500 o swyddi er mwyn buddsoddi yn yr economi leol.
Ond yn 么l y Cynghorydd Tref dros Gaergybi, Vaughan Williams, ni ddylai swyddi gael eu blaenoriaethu ar draul ardal o'r fath.
"Mae'r lle mor bwysig inni yng Nghaergybi am sawl rheswm," meddai.
"Sa'r syniad o ddymchwel y lle yn wrthyn imi, mae pawb o blaid swyddi ond nid cael gwared ar le fel hyn ydy'r ateb chwaith," dywedodd.
Gan mai dim ond caniat芒d cynllunio amlinellol sydd wedi ei ryddhau a hynny'n golygu y byddai angen archwiliadau pellach, doedd Cyngor M么n ddim am wneud sylw ar y mater.
Ond yn 么l llefarydd ar ran Land and Lakes mae "cynaliadwyedd y parc yn flaenoriaeth" a byddai "unrhyw barc gwyliau yn amgylcheddol sensitif".
"Mi fyddai unrhyw ddatblygiad yn digwydd dan arweiniad arbenigwyr amgylcheddol ac yn parchu yr amgylchedd."
Mae rhai ymgyrchwyr wedi honni y byddai ardal o 28 o aceri o goed yn cael eu dymchwel wrth wneud lle ar gyfer parc o'r fath.
Ond yn 么l Land and Lakes, "does dim cynllun o'r fath na chwaith i gau y safle i'r cyhoedd".
"Er bod y safle dan berchnogaeth breifat, rydym wedi ymrwymo i gadw 73 acer o'r ardal hyfryd a llwybrau i'r cyhoedd."