CPD Wrecsam i ailddechrau chwarae gemau'r wythnos hon

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam wedi cadarnhau y bydd eu dwy g锚m gynghrair yr wythnos hon yn mynd yn eu blaenau.

Daw hynny wedi i b锚l-droed ar bob lefel yng ngwledydd Prydain gael eu gohirio'r penwythnos hwn fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II.

Cafodd rhai digwyddiadau chwaraeon eraill hefyd eu gohirio ddydd Gwener, gan gynnwys criced, golff a seiclo, ond fe wnaethon nhw wedyn ailddechrau ddydd Sadwrn.

Yng Nghymru cafodd gemau rygbi oedolion eu gohirio dros y penwythnos, ond cafodd gemau ieuenctid ganiat芒d i barhau - yn wahanol i Loegr, ble cafodd gemau rygbi ar bob lefel eu chwarae.

Gemau yng Nghymru i ddychwelyd?

Roedd canllawiau galaru cenedlaethol Llywodraeth y DU yn cynghori nad oedd canslo gemau neu ddigwyddiadau yn orfodol, gan adael y penderfyniad i'r campau eu hunain.

Mae'r cyngor hefyd yn datgan nad oes gorfodaeth i ganslo ar ddiwrnod yr angladd chwaith.

Ond mae'n awgrymu y gellir aildrefnu gemau neu ddigwyddiadau fel nad ydyn nhw'n digwydd ar adeg y gwasanaeth.

Mewn datganiad fe gadarnhaodd Wrecsam y bydd eu g锚m gartref yn erbyn Dagenham & Redbridge nos Fawrth, a'u gornest oddi cartref yn Southend ddydd Sadwrn, nawr yn mynd ymlaen fel y disgwyl.

"Mae cais wedi dod i glybiau, ar gyfer pob g锚m hyd nes yr angladd, gynnal munud o dawelwch cyn y g锚m ac i wisgo rhwymyn du fel arwydd o barch."

Ffynhonnell y llun, FAW

Disgrifiad o'r llun, Mae awgrym eisoes na fydd rhagor o gemau p锚l-droed domestig yng Nghymru'n cael eu gohirio

Mae Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd i gyd i fod i chwarae gemau nos Fawrth a'r penwythnos nesaf, ond hyd yma dyw'r Gynghrair B锚l-droed heb gadarnhau fod y rheiny'n mynd yn eu blaen.

Does dim cadarnhad chwaith pryd y bydd gemau Uwch Gynghrair Lloegr yn ailddechrau, gyda chwestiynau ynghylch gallu rhai lluoedd heddlu i'w plismona'n effeithiol tra bod digwyddiadau brenhinol yn parhau.

Ond mae prif weithredwr Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi awgrymu y bydd gemau p锚l-droed domestig yng Nghymru'n digwydd unwaith eto o'r penwythnos nesaf ymlaen.

Wrth ateb cwestiwn ar Twitter dywedodd Noel Mooney: "Dwi ddim yn gweld nawr pam fydden ni [yn gohirio rhagor o gemau].

"Rydyn ni wedi dangos parch ac fe allwn ni, fel mae llawer yn ei ddweud, nodi'r peth gyda munud o dawelwch os ydych chi'n dymuno ayyb."

Wrth ymateb i negeseuon gan eraill oedd yn anhapus fod gemau plant, o leiaf, heb gael digwydd y penwythnos hwn, awgrymodd Mr Mooney eu bod wedi "dysgu" o hynny.