Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y neuadd bentref sy'n denu bandiau o Gymru a thu hwnt
Mae cael band hip hop adnabyddus o'r Unol Daleithiau yn perfformio ar lwyfan neuadd gymunedol yn arwydd bod y lle yn llwyddo, yn enwedig os mai'r gr诺p wnaeth ofyn am gael chwarae yno.
Dyna ddigwyddodd ym Methesda, sy'n brawf o'r gwaith gan griw lleol i gael Neuadd Ogwen yn 么l ar ei thraed.
Mae'r lleoliad ar stryd fawr y pentref chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen yn gartref i bob math o ddigwyddiadau, ac un o'r blaenoriaethau ydi ei datblygu yn llwyfan i fandiau o bob math.
"Dwi eisiau cael lot mwy o fiwsig Cymraeg yma, efo miwsig o wahanol wledydd y byd hefyd - be' dwi'n licio ydi dod a Cymru i'r byd a'r byd i Gymru," meddai'r rheolwr Dilwyn Llwyd.
Hen neuadd farchnad ydi Neuadd Ogwen a 150 o flynyddoedd yn 么l anifeiliaid oedd y prif atyniad, gyda stoc yn cael eu prynu a'u gwerthu yno. Yn ddiweddarach cafodd ei throi'n neuadd gymunedol cyn i'r lle gau a dechrau mynd a'i ben iddo.
Bron i ddegawd yn 么l penderfynodd cwmni cymunedol Tabernacl gymryd y lle drosodd a denu grantiau i adnewyddu'r lle, a chafodd y neuadd ei hagor ar ei newydd wedd yn 2014.
Erbyn heddiw mae pob math o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yno - fel ioga, marchnad cynnyrch, cynadleddau, dram芒u, sinema, clwb drama i blant, ymarferion c么r, sgyrsiau a darlithoedd.
Yn dilyn cyfnod o ddatblygu'r safle dros y misoedd diwethaf, yn cynnwys adnewyddu adeiladau sy'n sownd i'r neuadd i greu ystafelloedd ychwanegol, mae'r neuadd newydd ail agor yn barhaol unwaith eto.
"Be' dwi 'di trio gwneud ers i ni agor wyth mlynedd yn 么l ydi meddwl, 'os ydi'r adeilad ar gael be' allwn ni wneud efo fo?'" meddai Dilwyn. "'Da ni'n trio cael cymaint o bethau a phosib yma tra mae'r adeilad yn agored."
Gydag aelodau o bwyllgor Cwmni Tabernacl wedi helpu trefnu i gofio'r cynhyrchydd cerddoriaeth Les Morrison, roedden nhw'n awyddus i ddatblygu Neuadd Ogwen yn lleoliad i gigs.
Mae hynny'n dwyn ffrwyth erbyn hyn wrth i fwyfwy o artistiaid fynd yno i chwarae.
Ymysg y bandiau sydd wedi perfformio yno eleni mae Carwyn Ellis & Rio 18, This is the Kit, Snapped Ankles, Gwenno a Jah Wobble. Roedd nifer o fandiau o'r gwledydd Celtaidd yng Ng诺yl Mawr y Rhai Bychain fis Hydref 2022, yn cynnwys Breabach o'r Alban, Dafydd Iwan o Gymru, a Di猫se3 a Youenn Lange o Lydaw.
Mae Bassekou Koyate a'i fand Ngoni Ba, o Mali, eisioes wedi cytuno i berfformio yno yn 2023.
Meddai Dilwyn: "Mae wedi bod yn broses hir. Pan wnaethon ni agor yn 2014 doedd gan fandiau ac asiantau ddim lot o ffydd ynddo ni achos doeddan nhw ddim yn gwybod dim byd amdanon ni ond dros amser 'da ni wedi datblygu perthynas efo asiantau ac artistiaid - ac mae 'na rai 'da ni wedi bwcio yn direct drwy'r band.
"Mae'r bandiau a'r asiant i gyd yn siarad efo'i gilydd ac yn deud 'wnaethon ni wneud noson yn fanna ac roedd o'n wych' - neu ddim. Mae rhai bandiau r诺an yn cysylltu efo ni."
A dyna ddigwyddodd flwyddyn diwetha' gyda'r band hip-hop o Atlanta Arrested Development, gr诺p enillodd ddwy wobr Grammy yn 1993 ac sy'n enwog am ganeuon fel Tennessee, People Everyday a Mr Wendell.
Fe werthwyd pob un o'r 400 o docynnau, a does dim hysbyseb gwell i leoliad na chael noson dda.
Gobaith Neuadd Ogwen ydi bod llwyddiannau gigs yn sbardun i ddenu mwy o artistiaid o Gymru a thu hwnt i Fethesda.
"Dwi wedi dysgu ambell i dric," meddai Dilwyn. "Os ydi gr诺p yn mynd i chwarae i Ddulyn ac wedi bod ym Manceinion dwi'n cysylltu i egluro bod ni hanner ffordd rhwng y ddau.
"Dwi hefyd yn dweud 'da ni ond dwy awr o Fanceinion ac awr a hanner o Lerpwl. Os ydi nhw'n chwarae yn Lloegr neith nhw fynd o Fanceinion, un noson i Lundain noson wedyn - 'dio ddim gwahanol.
"Ar ddiwedd y dydd os ydan ni'n str锚t efo nhw a 'da ni'n gallu gwerthu ticedi ac maen nhw'n cael gig dda mae'n gweithio. 'Dio ddim yn rocket science."