Llai o blant yn gwneud ymarfer corff tu allan i'r ysgol

Disgrifiad o'r fideo, Pa chwaraeon mae disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd yn hoffi chwarae?
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Dydy dros draean o blant ysgol ddim yn gwneud ymarfer corff y tu allan i'w gwersi, yn 么l arolwg newydd.

Roedd Chwaraeon Cymru wedi holi 116,000 o bobl ifanc rhwng saith ac 16 oed gyda'r nifer wedi cynyddu o 28% yn 2018 i 36% erbyn hyn.

Mae'r arolwg yn awgrymu fod bechgyn yn gwneud mwy o chwaraeon na merched, tra bod plant gydag anableddau, rhai grwpiau ethnig a phlant mewn ardaloedd difreintiedig yn gwneud llai o chwaraeon nag eraill.

Er mai dim ond 39% o ddisgyblion sy'n gwneud rhyw fath o weithgaredd deirgwaith neu fwy yr wythnos, y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, mae 93% o ddisgyblion eisiau gwneud mwy.

Dywedodd 37% y bydden nhw'n gwneud mwy o chwaraeon pe bai mwy o gyfleoedd a oedd yn addas ar eu cyfer.

'Angen cynnig mwy na rygbi a ph锚l-droed'

Un sy'n credu'n gryf bod angen gwneud rhywbeth ydy Maddie Mai Malpas, aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae hi'n aelod o glwb tu allan i'r ysgol gan wneud triathlon ac yn teimlo nad oes digon o gyfleoedd mewn ysgolion i wneud campau gwahanol.

Disgrifiad o'r llun, Fe fyddai Maddie Mai Malpas yn dymuno gweld mwy ar gael i ferched i barhau i wneud ymarfer corff

"Dwi'n meddwl y dylai gwersi ysgol fod yn edrych ar amrywiaeth o gampau, nid yn unig y traddodiadol fel rygbi a ph锚l-droed," meddai.

"Dwi ddim yn ffitio mewn i weithgareddau'r ysgol ond yn cystadlu lot 'da triathlon yn yr haf efo'r clwb.

"Un peth mawr sy'n rhwystr y tu allan i'r ysgol yw costau uchel ymuno 芒 chlwb ac mae nifer o rieni yn dweud na allen nhw fforddio wrth i gostau byw gynyddu.

"Mae hyn yn anffodus, fe ddylai fod yn rhywbeth angenrheidiol nid breintiedig ac fe ddylai mwy o arian gael ei roi gan y llywodraeth," ychwanegodd.

Mwynhau a chadw'n ffit

Mae Maddie hefyd yn sylwi nad oes llawer o ferched yn cymryd rhan ac yn credu mai'r rheswm am hynny yw nad ydyn nhw am fod yr unig ferch.

"Mae llai o gyfle hefyd wrth fynd yn h欧n, i'r rhai sydd ddim yn gystadleuol barhau i wneud chwaraeon er mwyn mwynhau a chadw'n ffit," meddai.

Dywedodd cadeirydd newydd Chwaraeon Cymru, Y Fonesig Tanni Grey-Thompson, bod angen sicrhau fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Disgrifiad o'r llun, Mae angen rhoi cyfle i bawb meddai'r Fonesig Tani Grey-Thompson

"Mae'r ffaith bod cymaint o bobl ifanc yn segur yn digalonni rhywun," meddai.

"Mae'n magu problemau iechyd iddyn nhw yn hwyrach mewn bywyd.

"Rydyn ni eisiau i bawb ffurfio arferion iach a chael profiadau hwyliog o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ffitrwydd o oedran ifanc fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i gadw'n heini drwy gydol eu hoes.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod angen newidiadau i'r system gyfan, lle mae'n cael ei gynnig, sut mae'n cael ei gynnig ac i bwy."

Hyder yn fwy o rwystr i ferched

Ymhlith rhai o'r canlyniadau eraill yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 roedd:

  • Nifer y disgyblion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf wedi gostwng hefyd, o 65% i 56%;
  • 43% o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus deirgwaith neu fwy yr wythnos y tu allan i wersi Addysg Gorfforol o gymharu 芒 36% o ferched;
  • 'Diffyg amser' yn cael ei weld fel rhwystr rhag bod yn fwy actif i 36% o fechgyn a merched;
  • 25% yn dweud o fod yn fwy hyderus y byddan nhw'n gwneud mwy o chwaraeon;
  • Hyder yn fwy o rwystr i ferched na bechgyn: 31% o ferched o gymharu ag 17% o fechgyn.

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru bod y canlyniadau yn awgrymu potensial enfawr i ysgolion, clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill fanteisio arno.

"Wedyn mae gennym ni hefyd y plant hynny sydd eisoes yn actif ond sydd 芒 dyhead i roi cynnig ar bethau newydd a gwneud mwy fyth.

"Yr her yw creu'r gweithgareddau priodol, ar yr adegau priodol, yn yr amgylcheddau priodol, i ddal dychymyg pobl ifanc a'u cael i wirioni ar yr hwyl sydd i'w gael o ymarfer y corff yn rheolaidd.

"Fe hoffwn i ddiolch i bob un o'r awdurdodau lleol a'r ysgolion a weithiodd mor galed i gwblhau'r arolwg yma, ac wrth gwrs i'r holl blant wnaeth ei gwblhau. Fe gymerodd 1,000 o ysgolion ran, felly mae'r data a ddarparwyd yn hynod gadarn a gwerth chweil."

Mae adroddiad llawn ar Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 ar gael ar wefan .