Cyllideb: 'Y marchnadoedd angen gwell cydbwysedd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Jeremy Hunt yn cyhoeddi cynlluniau ariannol tymor canolig Llywodraeth y DU bythefnos yn gynt na'r disgwyl

Mae'r marchnadoedd ariannol wedi ymateb yn ffafriol wrth ailagor ddydd Llun i'r cyhoeddiad bod y Canghellor newydd am wneud datganiad brys.

Am 11:00 fe wnaeth Jeremy Hunt fanylu ar gynlluniau ariannol diweddaraf Llywodraeth y DU.

Bydd hefyd yn annerch ASau yn Nh欧'r Cyffredin am 15:30 gan amlinellu mesurau cynlluniau tymor canolig y llywodraeth oedd i fod i ddigwydd ar 31 Hydref.

Mae'n dilyn penwythnos cythryblus i'r Prif Weinidog, Liz Truss, sy'n parhau dan bwysau enfawr er iddi ddiswyddo Kwasi Kwarteng fel Canghellor ddydd Gwener yn sgil effeithiau ei gyllideb fechan yntau fis diwethaf.

Dros y penwythnos fe alwodd nifer fach o ASau Ceidwadol yn gyhoeddus ar Ms Truss i ymddiswyddo, gan gynnwys AS Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis.

Disgrifiad o'r llun, Mae llawer o benderfyniadau cynnar llywodraeth newydd Liz Truss wedi bod yn 'broblemus', medd Andrew RT Davies

Mewn sgwrs ar raglen Radio Wales Breakfast dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies bod "llawer o benderfyniadau cynnar y llywodraeth [newydd] wedi bod yn broblemus, yn enwedig o ran cadw hyder y marchnadoedd".

Ychwanegodd: "Mae angen i'r Prif Weinidog ddiffinio ar frys nawr y weledigaeth sydd ganddi i symud y wlad yn ei blaen ac mae angen i gydweithwyr yn San Steffan stopio ceisio ail-gynnal yr etholiad arweinyddol."

'Argyfwng'

Mewn sgwrs ar Dros Frecwast cyn i'r marchnadoedd ariannol agor am 08:00, dywedodd Mark Walter, sy'n gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus ariannol yn Llundain, eu bod angen gweld cyllideb "efo gwell cydbwysedd arni" a "ffeithiau i'w dadansoddi".

"Roedd yna ryw ddisgwyl yn hwyr ddoe bod rhyw fath o ddatganiad i ddod wythnos yma," meddai, gan ddisgrifio'r sefyllfa'n "argyfwng".

Dywedodd bod y bunt eisoes wedi dechrau codi yn erbyn y doler yn y disgwyl y "bydd yna ddim byd hynod o ddadleuol yn yr hyn bydd [Jeremy] Hunt yn d'eud, gobeithio... tro pedol i raddau helaeth iawn".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ychwanegodd bod penodi Mr Hunt yn Ganghellor yn lle Kwasi Kwarteng "ddim cweit digon... i sefydlogi'r marchnadoedd felly oedd rhaid 'neud rwbath reit gadarn yn gyflym".

"Yn llygad y marchnadoedd mae'r blaid a'r llywodraeth [Geidwadol] wedi colli unrhyw hyder oedd ganddyn nhw... bydd hi'n ddifyr gweld os ydy'r farchnad yn disgwyl i [Liz] Truss un ai ymddiswyddo neu cael ei newid yn ystod yr wythnos.

"'Dyn nhw ddim isio drama. Ma' nhw jyst isio ffeithia' a cyfathrebu reit clir. Ma' 'na ormod o briffio ar gyfer y cyfryngau dros y penwythnos ac ati yn hytrach na 'neud datganiada' clir.

"Ma'r farchnad angen ffeithia' i ddadansoddi a dim cyfathrebu cefndir."

'Benthyg mwy neu godi treth'

Hefyd ar raglen Dros Frecwast, dywedodd David TC Davies, yr is-weinidog yn Swyddfa Cymru, mai gwneud penderfyniadau anodd, nid "cael gwared" ar y Prif Weinidog, yw'r ffordd i sicrhau sefydlogrwydd.

Gan gydnabod bod hi'n "amlwg bod ganddo ni argyfwng ariannol, a [mae] pawb yn derbyn hynny", fe groesawodd gamau brys i sefydlogi'r farchnad.

Mae pob aelod ag unrhyw gyfrifoldeb o fewn y llywodraeth, meddai, "mewn sefyllfa anodd" a "rhaid i ni wneud be allwn ni", ond "dydi cael gwared ar bobl ddim yn mynd i sefydlogi, [gan fod] angen i bawb gymryd cyfrifoldeb am hyn".

Dywedodd nad oedd yn gwybod o flaen llaw beth roedd Mr Hunt am ei gyhoeddi yn ystod y dydd, ond mai un flaenoriaeth "ydy gwarantu cymorth i fusnesau".

Awgrymodd efallai mai'r "ateb yw benthyg mwy neu godi treth... ac os oes rhaid codi trethi, yna cefnogi hynny".