Y fferm yn Nhregaron sy'n hunangynhaliol o ran ynni

Ffynhonnell y llun, Aled Lewis

Disgrifiad o'r llun, Aled Lewis ar ei dir

Mae'r mwyafrif ohonom wedi gweld ein biliau ynni'n cynyddu eleni ond mae 'na rai sy' wedi eu gwarchod o'r cynnydd wedi iddynt fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

Mae fferm Aled Lewis o Dregaron yn hunangynhaliol o ran ynni ers i Aled gychwyn trawsnewid systemau y fferm yn 2012. Mae'r ymdrech i fod yn hunangynhaliol wedi golygu buddsoddi dipyn yn y dechnoleg er mwyn i'w fferm redeg ar adnoddau naturiol.

Dywedodd Aled: "Yn 2012 dechreuon ni ar ynni adnewyddadwy - rhoion ni pwmp gwres ground source mewn yn nh欧 Mam a Dad, wedyn paneli solar ar y sied ar y ffarm. Wedyn rhoion ni boeler biomas i gynhesu d诺r."

Y cam nesaf oedd ymgeisio am ganiat芒d am dyrbin gwynt ond ni lwyddodd y cais am dyrbin na chais diweddarach am system AD. (Mae system AD yn troi deunydd organic yn biogas sy'n ynni adnewyddadwy amlbwrpas).

Y peth diwethaf i Aled i gael ar y fferm oedd system cyfuno gwres a ph诺er (sef combined heat and power neu CHP, sy'n fodd effeithiol, carbon-isel o gynhyrchu trydan a gwres o un ffynhonnell ynni, sef asglodion/wood chip).

Ffynhonnell y llun, Aled Lewis

Disgrifiad o'r llun, Boeler biomas yn cynhyrchu gwres ar gyfer cartref Aled a'r llaethdy

Technoleg gwyrdd

Esbonia Aled pam mae wedi mynd lawr y trywydd yma: "Dwi'n lico technoleg, dwi'n lico gwahanol bethe - diversification oedd y gair mawr yn 2018.

"O'n i yn gweld y broblem yma gyda trydan yn dod ond dim cymaint a hyn o broblem.

"Does dim yr infrastructure ynni yng Nghymru i wneud y pethe hyn i gyd - mae'r Senedd a San Steffan eisiau i bob t欧 i rhedeg bant o air source neu heat pumps - does dim digon o drydan ar gael yn y wlad i redeg y ceir trydan 'ma a'r heat pumps a phopeth.

"Ni'n lwcus, mae'r fferm i gyd yn rhedeg bant o'r trydan (adnewyddadwy). Ni dal yn cael biliau trydan ac yn gorfod talu am y meters a'r standing charge ond dim ond rhwng tua 拢80 a 拢100 y mis.

Ffynhonnell y llun, Aled Lewis

Disgrifiad o'r llun, System cyfuno gwers a ph诺er sy'n cynhyrchu 40kw yr awr

Prisiau anghyson

"Dwi ar gytundeb yn gwerthu trydan n么l i'r grid ac eleni yw'r blwyddyn gynta' maen nhw'n pallu rhoi pris i fi.

"Dwi'n gwerthu trydan bob hanner awr o'r dydd ac mae'n amrywio o 8c y kw i 'butu 70c y kw. Mae e fel io-io. Am ddau o'r gloch y bore mae fe lawr i wyth ceiniog a chwech o'r gloch y nos mae'n dechrau codi 'to.

"Dwi dal ddim yn gwybod faint dwi'n mynd i gael o ddiwrnod i ddiwrnod am y trydan dwi'n cynhyrchu.

"Ni'n hunangynhaliol a ni'n gwerthu 30,000 uned mewn i'r grid bob mis.

Ffynhonnell y llun, Aled Lewis

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na dri robot yn godro'r gwartheg ar y fferm

Paneli solar

"Mae 'di bod yn flwyddyn dda i baneli solar yn yr haf eleni. Dwi'n cael arian da am y trydan dwi'n neud 'da'r paneli. Dwi wedi bod yn dilyn y taliadau anogaeth gan y llywodraeth i roi pethe mewn."

Defnyddio coed

Mae Aled hefyd yn gwneud defnydd o adnoddau naturiol yr ardal ar gyfer y boeler biomas: "I gael y coed i redeg y biomas dwi'n mynd rownd ffermydd a'n torri y coed gwastraff sy' gyda nhw, llosgi nhw a rhoi nhw mewn yn y boeler.

"Ni'n tynnu nwy mas o goed sy'n cael eu torri yn yr ardal ta beth ac maen nhw'n rhyddhau'r nwy 'ma a ni'n filtero fe ac mae e'n rhedeg pedwar injan - sy'n cynhyrchu ambutu 160kw yr awr.

"'Oedd y llywodraeth yn rhoi incentive oherwydd y Domestic Renewable Heat Incentive (DRHI) a'r tariffs yn cynhyrchu trydan.

"Allen i fod yn cynhyrchu digon o wres a digon o drydan i gadw Tregaron i fynd drwy'r haf a'r gaeaf."

Ffynhonnell y llun, Aled Lewis

Disgrifiad o'r llun, Aled a'i fab

Gwledydd eraill

Mae Aled yn cael ei ysbarduno gan ddefnydd o ynni adnewyddadwy mewn gwledydd eraill: "Dwi yn falch o beth ni wedi wneud ond licen i bod fi wedi gwneud rhagor ac wedi gweld y pentre yn hunangynhaliol.

"Dwi'n gweithio lot 'da cwmn茂au o Finland - o fan 'na mae'r peiriannau 'ma wedi dod o ac mae llefydd fel Stockholm yn rhedeg ar y stwff hyn. Ond maen nhw'n clirio'r fforestydd yn l芒n, does dim ar 么l. Mae'r gwastraff i gyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu y tai yn Finland.

"Dwi'n lwcus bod rheolwr banc 'da fi oedd yn deall y passion sy' gyda fi i fynd lawr y lein o gynhyrchu trydan a gwres achos dwi wedi menthyg miloedd i gael y pethau hyn ac hefyd mae'n lot o waith i gadw nhw fynd. Mae'r peiriannau yn mynd 24 awr y dydd felly mae gwaith i newid olew a chadw peiriannau yn gryf."

Ydy'r ymdrech yn talu ffordd?

Yn 么l Aled: "Ydy, achos erbyn heddiw dwi'n byw mewn t欧 sy' a digon o wres, fi ddim yn gorfod becso am dd诺r achos ni'n tynnu'r d诺r i gyd ein hunain allan o'r ffynnon sy' gyda ni ar y fferm.

"Ni'n trio peidio gwastraffu dim ond mae sut gymaint arall allen ni 'neud os fydden ni'n cael cefnogaeth wrth y Senedd."

'Dyw rhai o'r taliadau anogaeth wnaeth Aled fanteisio arnyn nhw ddim ar gael bellach.

Meddai: "Ni 'di bod yn lwcus ble 'y'n ni ac hefyd y cymorth dwi wedi cael o'r cwmn茂au 'ma i helpu fi i ddatblygu.

"Dwi yn lico hydrogen a licen i bydde mwy o amser 'da fi i fynd lawr y llwybr hynny er mwyn cynhyrchu mwy o egni mas o hydrogen.

"Mae'r infrastructure ddim yna i ddod 芒trydan n么l i'r pentrefi, i roi charging points ac ati - mae'n mynd i gostio miliynau i neud 'na a bydde gwell gyda fi wario'r arian yn edrych mwy mewn i hydrogen.

"Mae'r technoleg yna - mae just ishe ei ddefnyddio fe."