S4C wedi bod yn 'gwbl allweddol' i ddatblygu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r diwydiant sydd wedi datblygu yn y 40 mlynedd ers sefydlu S4C yn un "y gallwn ni fod yn falch iawn ohono fo", yn 么l cyn-bennaeth y sianel.
Dywedodd Huw Jones bod "newid aruthrol wedi bod mewn bob math o agwedde" ers i S4C fynd ar yr awyr am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982.
Wrth i'r sianel ddathlu 40 mlynedd o ddarlledu yr wythnos hon, dywedodd Mr Jones bod bodolaeth y sianel wedi bod "yn gwbl allweddol" o ran helpu datblygu'r iaith Gymraeg.
Un enghraifft o hynny, meddai, yw'r ffordd y mae cefnogwyr di-Gymraeg t卯m p锚l-droed Cymru wedi mabwysiadu'r g芒n Yma o Hyd yn sgil y berthynas rhwng y sianel a Chymdeithas B锚l-droed Cymru.
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, fe amlinellodd Mr Jones yr heriau o greu "sector annibynnol hollol newydd" ar gyfer y sianel newydd mewn cyfnod pan oedd yna ond tair sianel deledu - 大象传媒1, 大象传媒2 ac ITV.
Fe dyfodd y sector "yn gyflym iawn" yn y flwyddyn cyn noson gyntaf S4C, meddai Mr Jones, a fu'n brif weithredwr ac yn gadeirydd S4C.
Bu'n rhaid addasu dros y blynyddoedd, meddai, mewn ymateb i newidiadau mawr fel teledu lloeren ac yna teledu digidol a dyfodiad cannoedd o sianeli newydd.
"Oedd y cwmn茂a' annibynnol yn datblygu mewn gwahanol ffyrdd... rhai cwmn茂a' yn deisyfu i fynd yn fawr, eraill yn dymuno parhau yn fach, ac wrth gwrs mae 'na rinwedde a gwendide i'r ddwy sefyllfa," dywedodd.
Oherwydd yr angen i "addasu, yn 么l gofynion" y sector dros y blynyddoedd, meddai, "mae 'na ddiwydiant wedi tyfu yng Nghymru y gallwn ni, dwi'n meddwl, fod yn falch iawn ohono fo - diwydiant sydd wedyn yn sylfaen i'r datblygiad hyd yn oed mwy sydd wedi digwydd mewn teledu trwy gyfrwng yr iaith Saesneg... yn y deg, pymtheg, ugain mlynedd diwetha."
Ar achlysur 30 mlwyddiant y sianel, fe ddywedodd cyn-Brif Weithredwr S4C, y diweddar Geraint Stanley Jones, fod angen i S4C fod yn rhan o'r ymdrech i achub y Gymraeg.
Gofynnwyd i Mr Jones a yw'r sianel yn dal i helpu achub y Gymraeg yn effeithiol.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i unrhyw iaith leiafrifol sydd yn mynd i oroesi... mae'n rhaid iddi gael llais ar y cyfryngau torfol," atebodd.
"Mae'n rhaid iddi gael modd i gyrraedd pob cartref yn y tir. Nid pawb sydd yn mynd i wylio ond mae'n rhaid iddyn nhw gael y dewis.
"Does dim amheuaeth yn fy meddwl i fod bodolaeth S4C, y swyddi sy'n cael eu creu, y cyfle y mae pobl creadigol yn cael... i greu, i ddatblygu'r iaith mewn pob math o wahanol ffyrdd a chyfeiriade - mae hynny yn gwbl allweddol."
"Yn ddiweddar mae rhywun wedi sylwi, drwy gyfrwng y g芒n Yma o Hyd a llwyddiant i gael y g芒n yna i gael ei mabwysiadu gan siaradwyr di-Gymraeg," meddai.
"Ma' hynny yn rhannol oherwydd y berthynas sydd wedi datblygu rhwng S4C a Chymdeithas B锚l-droed Cymru - bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel rhan annatod o lwyddiant t卯m Cymru, ac yn cael ei mynegi yn y ffordd arbennig yna.
"Un enghraifft gymharol fach ydy hynny ond mae'n arwyddocaol ac yn dangos, dwi'n meddwl, beth y mae cyfrwng torfol sydd yn annibynnol, sydd yn perthyn i'r genedl, os liciwch chi, yn gallu ei gyflawni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019