大象传媒

Y t卯m cenedlaethol i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig?

  • Cyhoeddwyd
Dathlu cyrraedd Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gymdeithas b锚l-droed yn aml yn cael ei chanmol am ei defnydd o'r Gymraeg

Bydd y t卯m p锚l-droed cenedlaethol yn ystyried newid ei enw ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddefnyddio 'Cymru' yn unig yn hytrach na 'Wales' ar 么l Cwpan y Byd.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) a staff yn ei phencadlys ym Mro Morgannwg eisoes yn defnyddio'r enw Cymru wrth gyfathrebu'n fewnol ac yn allanol.

Nawr mae'r gymdeithas yn bwriadu cynnal trafodaethau ynghylch newid yr enw mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Yn 么l asiantaeth newyddion PA, mae trafodaethau anffurfiol eisoes wedi'u cynnal am y newid gyda chorff llywodraethu p锚l-droed Ewropeaidd, UEFA.

"Dylid wastad defnyddio Cymru ar gyfer y t卯m - dyna be' 'dan ni'n ei alw," meddai prif weithredwr CBDC Noel Mooney.

"Ein barn ni ar y funud yw, yn ddomestig, rydyn ni'n amlwg yn galw ein hunain yn Cymru - dyna 'dan ni'n galw ein timau cenedlaethol.

"Os ydych chi'n edrych ar ein gwefan, sut 'dan ni'n siarad am ein hunain, Cymru ydyn ni.

"Yn rhyngwladol 'dan ni'n teimlo bod gennym ni ychydig o waith i'w wneud, felly 'dan ni'n mynd i Gwpan y Byd fel Wales."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"'Dach chi'n gweld gwledydd fel Azerbaijan, Twrci ac eraill yn defnyddio eu hiaith eu hunain," meddai Noel Mooney

Dywedodd Mr Mooney mai ei obaith yw y bydd y timau cenedlaethol yn cael eu galw'n 'Cymru' ar y llwyfan rhyngwladol yn y dyfodol, ond mai megis dechrau mae'r trafodaethau.

"Dwi'n meddwl y bydd 2023 yn flwyddyn ble byddwn ni'n trafod gyda'r holl rhanddeiliaid gwahanol - boed hynny'n llywodraethau, ein byrddau ni, cynghorau, staff, clybiau a chwaraewyr," meddai.

"'Dan ni'n sefydliad agored, democrataidd, a dydyn ni ddim yn penderfynu ar ein pen ein hunain i wneud rhywbeth fel yna.

"Byddwn i'n dweud mai dyna'r cyfeiriad 'dan ni'n mynd, ond does 'na ddim penderfyniadau terfynol. Mae bron yn digwydd fwy fel osmosis."

Dilyn esiampl Twrci

Un wlad sydd wedi gwneud newid o'r fath yn ddiweddar ydy Twrci - un o wrthwynebwyr Cymru yn y gr诺p rhagbrofol ar gyfer Euro 2024.

Mae Twrci bellach yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol dan yr enw 'Turkiye', wedi i lywodraeth y wlad ofyn iddi gael ei hadnabod yn fyd eang yn defnyddio'r enw Twrcaidd yn hytrach na'r fersiwn Seisnig 'Turkey'.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cwpan y Byd yn llwyfan anferth i Gymru, ond dan yr enw 'Wales' fydd y t卯m yn cystadlu yn Qatar

"'Dach chi'n gweld gwledydd fel Azerbaijan, Twrci ac eraill yn defnyddio eu hiaith eu hunain," meddai Mr Mooney.

"Mae ganddyn nhw deimladau cryf ar y mater ac fe wnaethon ni drafod y peth gyda chynrychiolwyr Twrci pan oedd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer Euro 2024.

"'Dan ni hefyd wedi cael trafodaethau answyddogol gyda UEFA mewn gwahanol ddigwyddiadau, yn gofyn 'sut wnaeth Twrci a gwledydd eraill wneud hyn?'

"'Dan ni wedi gofyn beth ydy'r tueddiadau, er enghraifft, oes 'na duedd gynyddol tuag at ddefnyddio ieithoedd brodorol?

"Yr hyn rydw i'n gwybod ydy fod adfywiad o'r iaith Gymraeg, a balchder mawr yn yr hyn 'dan ni'n ei wneud efo'r diwylliant a'r dreftadaeth."