Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhaid i COP27 arwain at newid go iawn ar lawr gwlad'
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi cynnal protestiadau yng Nghymru gan alw ar wleidyddion yn uwchgynhadledd COP27 i weithredu mwy a siarad llai am gamau i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd.
Fe orymdeithiodd gannoedd o brotestwyr trwy ganol Caerdydd ac roedd yna wrthdystiadau hefyd yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaernarfon.
Mae'r trefnwyr, y mudiad Climate Justice Coalition, yn galw am wario mwy o arian ar ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil.
"Dan ni yma hefyd oherwydd mae COP27 yn digwydd yn Yr Aifft a 'dan ni angen tynnu sylw i wleidyddion y ffaith bod hyn yn fater difrifol iawn," meddai'r cyn AS Plaid Cymru, Bethan Sayed - un o'r rhai fu'n annerch ymhell dros 200 o bobl yng Nghaerdydd.
Dywedodd Ms Sayed - cydlynydd ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma sy'n pwyso am fwy o gymorth i bobl dalu'u biliau nwy a thrydan - bod angen "newid y systeme yn y byd er mwyn dod i'r afael 芒 newid hinsawdd".
Ond mae'n "anodd" gwybod i ba raddau y daw unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol o ganlyniad i'r trafodaethau yn y gynhadledd yn Sharm-el-Sheikh.
"Os 'dan ni'n edrych ar beth mae gwladwriaethau dros y byd yn gwneud, mae allyriade nhw yn fawr a 'dyn nhw ddim wedi dweud bod nhw'n mynd i dorri digon er mwyn i ni fynd i'r afael 芒'r sefyllfa yma," meddai.
"Os ydyn nhw'n mynd i gael trafodaethau sydd yn mynd i arwain at unrhyw fath o newid, mae angen targedau gwell.
"Mae angen iddyn nhw ddweud beth maen nhw'n gwneud a gwneud beth maen nhw'n dweud, a sicrhau bod newid ar droed a rhoi pethau i mewn i weithredaeth.
"Mae siop siarad ddim yn mynd i helpu - mae rhaid i COP27 arwain at newid go iawn ar lawr gwlad neu fydd yn wastraff amser."
'Sawl COP sydd angen?'
"Fedran ni ddim fforddio gael mwy o gynadleddau COP - does dim angen mwy o gynadleddau COP," meddai Clare James ar ran trefnwyr y protestiadau.
"Dewis gwleidyddol yw dewis peidio gwneud dim i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Ry'n ni wedi cael 27 COP - faint yn rhagor sydd angen?
"Mae'n wych os gallwn ni gyd newid ein hymddygiad fymryn ond mae yna gannoedd ar filoedd ar filiynau o bobol [ar draws y byd] sy' methu gwneud hynny am amryw o resymau.
"Dyna pam roedd yn rhaid i ni ddod at ein gilydd ac mae'n rhaid i ni fynnu bod systemau yn newid."
"Mae pobl yn aml yn teimlo'n anobeithiol - dydyn nhw ddim yn gwybod be' i'w wneud.... ond mi allwn ni wir wneud gwahaniaeth.
"Rhaid i ni ddod at ein gilydd, dweud wrth lywodraethau a banciau i stopio ariannu tanwydd ffosil a buddsoddi o ddifri mewn ynni adnewyddadwy a chynaliadwy."