Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carfan Cymru wedi cyrraedd Qatar ar gyfer Cwpan y Byd
Mae carfan b锚l-droed Cymru wedi cyrraedd Qatar wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 64 o flynyddoedd.
Fe hedfanodd carfan o 26 Rob Page, ynghyd 芒'r staff, o Gaerdydd brynhawn Mawrth gan lanio yn Doha yn oriau m芒n bore Mercher.
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn erbyn UDA ddydd Llun, ac yna'n wynebu Lloegr ac Iran.
"Ry'n ni'n falch ein bod ni yma nawr fel y gallwn ni daflu'n holl ffocws at y g锚m gyntaf," dywedodd Page.
"Mae'r chwaraewyr wedi bod yn wych ers i ni gwrdd [ddydd Sul]. Ry'n ni wedi cael cwpl o ddyddiau gyda'n gilydd ac ry'n ni mor falch o fod yma."
Fe ddaeth cannoedd o blant a phobl ifanc i ffarwelio 芒'r garfan ddydd Mawrth mewn sesiwn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth rhagor i ddymuno'n dda i'r garfan ym Maes Awyr Caerdydd cyn iddyn nhw adael.
Yn ystod Cwpan y Byd, bydd Cymru yn ymarfer yng nghlwb Al-Sadd yn Qatar ac yn rhannu'r cyfleusterau gyda Japan.
Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymddangos yn y twrnament ers 1958.