Plaid Cymru: Penodi cwmni i ymchwilio i 'honiadau o gamymddwyn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Elliw Gwawr & Teleri Glyn Jones
  • Swydd, Gohebwyr 大象传媒 Cymru

Mae Plaid Cymru wedi penodi cwmni adnoddau dynol allanol i ymchwilio i "honiadau o gamymddwyn" o fewn y blaid.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gweld tystiolaeth sy'n dangos bod y cwmni, sy'n dechrau ar ei waith yr wythnos hon, wedi'i benodi i "gynnal ymchwiliad llawn i'r holl faterion sydd wedi codi".

Daw hyn ar 么l i honiadau gael eu gwneud yn erbyn aelod etholedig o'r blaid, ac am y diwylliant ym Mhlaid Cymru.

Mewn datganiad i'r 大象传媒 dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones ei fod eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru "fy mod yn cymryd yr holl faterion a phrosesau hyn o ddifri'".

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, Rhys ab Owen wedi ei wahardd o gr诺p y blaid ym Mae Caerdydd. Deallir bod hyn yn ymwneud 芒 honiad difrifol am ei ymddygiad.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol am y tro cyntaf i'r Senedd yn 2021

Dywedodd gr诺p y blaid yn y Senedd bod y gwaharddiad yn un dros dro tra'n "aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd".

'Diwylliant ofnadwy'

Mae 大象传媒 Cymru wedi siarad gyda nifer o ffynonellau sy'n dweud bod yna bryder sylweddol o fewn y blaid am y modd y maen nhw'n delio gyda honiadau, a bod pryderon wedi eu mynegi am ymddygiad Rhys ab Owen y llynedd.

Fe gyfeiriodd un ffynhonnell at "ddiwylliant ofnadwy" yn y blaid a " diffyg arweinyddiaeth".

Dywedodd Mr Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.

"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.

"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethau eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.

"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."

Ar raglen Sharp End ar ITV, gwadodd Llyr Gruffydd, cadeirydd gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd, yr honiadau wnaed mewn erthygl ar Walesonline o "awyrgylch tocsig" yn y blaid, ble roedd pobl yn ofni adrodd am honiadau.

Dywedodd nad oedd o'n cydnabod bod yna broblem ehangach o fewn y blaid.

Pan gafodd Mr ab Owen ei wahardd, dywedodd llefarydd ar ran gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o gr诺p Plaid Cymru.

"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd."

Mae'r 大象传媒 wedi gofyn i Mr ab Owen am sylw, ond dyw e ddim wedi ymateb.