Dadorchuddio cadair a choron Eisteddfod CFfI Cymru

Ffynhonnell y llun, Tomos Lewis

Disgrifiad o'r llun, Bydd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2022 yn cael ei chynnal yn Abergwaun ddydd Sadwrn

Mae cadair a choron Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2022 wedi cael eu dadorchuddio'n swyddogol.

Am y tro cyntaf ers deng mlynedd, Ffederasiwn Sir Benfro fydd eleni yn cynnal Eisteddfod CFfI Cymru a hynny yn Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun ddydd Sadwrn.

Yn 么l cadeirydd yr eisteddfod, roedd hi'n bwysig rhoi "platfform haeddiannol" i'r crefftwaith, fydd yn cael eu cyflwyno i'r bardd a'r llenor buddugol.

"Mae lot o waith ac amser wedi mynd i greu'r gadair a'r goron," meddai Delun Evans, Cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru 2022.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae'n bwysig rhoi sylw i'r crefftwaith' medd Delun Evans, cadeirydd eisteddfod eleni

"Mae'n neis cael y cyfle i'w dadorchuddio er mwyn rhoi sylw penodol i'r gwaith.

"Er bydd y gadair a'r goron yn rhan fawr o'r seremoni ddydd Sadwrn, bydd y sylw'n bennaf ar y bardd a'r llenor buddugol, felly mae'r dadorchuddio'n gyfle i roi platfform haeddiannol i'r crefftwaith, cyn y diwrnod mawr."

Waldo'n ysbrydoliaeth

Yn bresennol yn y dadorchuddio roedd Tomos Lewis, is-gadeirydd y sir a gwneuthurwr y gadair eleni.

Yn wreiddiol o Langlydwen, mae'n dweud bod hanes a diwylliant Sir Benfro wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr iddo wrth fynd ati i gynllunio.

"Mae cymaint o hanes Cymru wedi gwreiddio o Sir Benfro," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Tomos Lewis yw gwneuthurwr y gadair eleni

"Roedd hi wir yn anodd penderfynu ar y dyluniad terfynol gan fod gymaint o ysbrydoliaeth posib.

"Er hynny, o gofio mai barddoni yw'r grefft sy'n gysylltiedig ag ennill cadair, roedd hi'n teimlo'n hanfodol i mi fod Waldo Williams, un o feirdd lleol, mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, yn cael ei bortreadu mewn rhyw fodd yn y cynllun."

Mae'r Gadair eleni felly'n efelychu si芒p cofeb Waldo, cofeb hanesyddol sydd wedi'i lleoli ger Mynachlog-ddu yng ngogledd y Sir.

Wedi ei gwneud o dderw, mae sedd y gadair wedi'i gorchuddio 芒 charthen a wnaed yn lleol ym Melin Tregwynt. Dewiswyd lliwiau'r garthen yn bwrpasol i gyd-fynd 芒 lliwiau'r sir.

Yn athro dylunio a thechnoleg yn Ysgol Caer Elen, dywedodd Mr Lewis bod creu'r gadair eleni wedi bod yn "fraint ac anrhydedd". Dyma'r tro cyntaf iddo greu cadair ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Gof yn creu'r Goron

Gwnaed y Goron eleni gan Eifion Thomas o Ddinas, ger Trefdraeth.

Wedi dysgu ei grefft fel gof gan ei dad a'i dad-cu, Mr Thomas yw'r bumed genhedlaeth i weithio yn efail y teulu. Does rhyfedd felly mai dur yw deunydd y Goron.

"Roeddwn i'n falch iawn pan ofynnwyd i mi wneud y Goron," meddai.

"Dw'i wedi gwneud tlysau i'r mudiad yn y gorffennol ar lefel sirol, ond dyma'r tro cyntaf i mi wneud coron ar lefel Cymru. Mae gallu creu coron i Eisteddfod y CFfI yn gyfle gr锚t."

Ffynhonnell y llun, Delun Evans

Wrth drafod dyluniad y Goron, dywedodd mai cynnwys tair o brif nodweddion Sir Benfro oedd ei brif flaenoriaeth - y tir, y m么r a mynyddoedd y Preselau.

"Mae 'na bysgod arni a thonnau i adlewyrchu'r arfordir," meddai.

"Mae daffodils yn tyfu 'ma ers blynyddoedd ac maen nhw mor bwysig i Gymru. Roeddwn i eisiau'r rheiny hefyd i roi dipyn o uchder i'r goron, ynghyd 芒'r borfa a'r llafur.

Mae'r cefn wedyn yn amlinell o fynyddoedd y Preseli, sydd mor unigryw i'r ardal."

Er gwaethaf yr "oriau ac oriau" o waith cynllunio a chreu, mae Mr Thomas yn dweud ei fod wedi cael "pleser" o wneud y gwaith ac yn "falch" bod y goron wedi dod at ei gilydd.

A fydd teilyngdod yn Abergwaun?

Dywedodd Cadeirydd Ffederasiwn Sir Benfro, Carys Phillips ei bod yn "fraint" cael cynnal Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn Sir Benfro eleni.

"Ar 么l nifer o drafodaethau gyda CFfI Cymru, ry'n ni'n falch iawn bod Sir Benfro yn cael cynnal yr eisteddfod," meddai.

"Mae'n bwysig bod pawb ar draws y sir yn cael y cyfle i fod ynghlwm 芒'r digwyddiad ac mi fydd hi'n hyfryd gweld clybiau, aelodau, cyn-aelodau ac wynebau cyfarwydd y ffederasiwn yn dod at ei gilydd."