Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adam Price yn 'bryderus' am honiadau Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn "bryderus" am honiadau o "ddiwylliant ofnadwy" yn ei blaid.
Mae Adam Price wedi addo gofyn i holl staff y blaid rannu eu profiadau, a dywedodd y byddai'n dysgu ohonyn nhw.
Ond gwrthododd wneud sylw ar honiadau ei fod yn gwybod am honiadau yn erbyn Aelod o'r Senedd flwyddyn yn 么l.
Mae sawl ffynhonnell wedi dweud bod anesmwythder sylweddol o fewn y blaid yngl欧n 芒'r ffordd y cafodd yr honiadau eu trin.
'Diffyg arweinyddiaeth'
Mae Comisiynydd Safonau Senedd Cymru yn ymchwilio i honiadau difrifol yn erbyn Rhys ab Owen, AS Canol De Cymru.
Mae Mr ab Owen wedi ei wahardd gan gr诺p y blaid yn y Senedd yn y cyfamser.
Mae ffynonellau wedi honni bod yr honiadau wedi'u codi o fewn y blaid flwyddyn yn 么l.
Clywodd 大象传媒 Cymru yn gynharach yr wythnos hon fod y blaid hefyd wedi comisiynu cwmni adnoddau dynol (HR) i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn ym Mhlaid Cymru - sydd ddim yn gysylltiedig 芒 Rhys ab Owen.
Soniodd un ffynhonnell am "ddiwylliant ofnadwy" yn y blaid a "diffyg arweinyddiaeth".
'Rhannu profiadau yn gyfrinachol'
Wrth siarad 芒 大象传媒 Radio Wales Drive, dywedodd Mr Price: "Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn bod yn rhaid i Blaid Cymru, fel pob plaid, weithio i wella ei diwylliant a sicrhau bod ganddi amgylchedd diogel a chynhwysol i bawb.
"Rwy'n bryderus i ddarllen hyn ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn arfer y gwerthoedd hynny o gynhwysiant a chreu gofod diogel.
"O ganlyniad i'r sylwadau hyn, byddwn yn estyn allan at ein holl staff, gan roi lle iddyn nhw rannu eu profiadau'n gyfrinachol.
"Ac rydyn ni wedi ymrwymo, yn hollol, i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol o ganlyniad i ddysgu ganddyn nhw."
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ymwybodol o honiadau am Rhys ab Owen flwyddyn yn 么l, dywedodd: "Nid yw'n bosib i ni wneud sylw ar achos sy'n destun ymchwiliad ar hyn o bryd."
Dywedodd hefyd na allai wneud sylw ar ymchwiliad y cwmni HR.