'Cael fy ngorfodi i wisgo tag sobrwydd wedi newid fy mywyd'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Teressa ei bod hi "ddim yn gwybod sut i roi'r gorau" i yfed cyn iddi fynd i'r carchar
  • Awdur, David Grundy
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

"Ro'n i'n yfed pan o'n i'n teimlo'n isel, ond wedyn byddwn i'n goryfed."

Fe gafodd Teressa (nid ei henw iawn) ei dedfrydu i 28 wythnos yn y carchar am ymosod ar rywun pan oedd hi dan ddylanwad alcohol.

Pan gafodd ei rhyddhau o'r carchar bu'n rhaid iddi wisgo 'tag sobrwydd' am 60 diwrnod.

Roedd y tag yn monitro ei chwys bob 30 munud ac yn rhybuddio staff y gwasanaeth prawf os oedd hi'n yfed alcohol.

"Ar y cychwyn roedd e'n teimlo fel cosb ychwanegol ond dros amser, pan do'n i ddim yn yfed, doedd dim problemau a dim drama ac roedd fy mywyd yn well," meddai wrth raglen Radio Wales Breakfast.

'Dim ymddygiad troseddol heb alcohol'

Fe gafodd y 'tagiau sobrwydd' eu cyflwyno yng Nghymru flwyddyn union i ddydd Sadwrn.

Gall unrhyw un sy'n torri telerau'u trwyddedau sy'n eu gwahardd rhag yfed wynebu dirwyon neu wynebu dedfrydau ychwanegol.

Mae bron i 1,000 o bobl sy'n gadael carchar wedi cael eu tagio ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, sy'n ceisio mynd i'r afael 芒 throseddau sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Yn 么l ffigyrau swyddogol mae 39% o'r holl droseddau treisgar yn y DU yn gysylltiedig ag alcohol.

Mae gan tua 20% o droseddwyr sydd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf broblemau alcohol.

Ffynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Disgrifiad o'r llun, Mae'r tagiau yn mesur lefel yr alcohol sydd yn chwys y defnyddiwr

"Roedd carchar yn brofiad wnaeth fy ysgwyd," meddai Teressa.

"Gan nad oeddwn i'n yfed bob dydd, doeddwn i ddim yn gweld eisiau diod, doeddwn i ddim yn crynu.

"Wnes i erioed ystyried fy hun yn alcoholig, ond os ydych chi'n dal i wneud yr un peth gyda'r un canlyniadau ac yn dal ati i yfed, mae'n amlwg eich bod chi'n gaeth, a doeddwn i ddim yn gwybod sut i roi'r gorau iddi.

"Yr unig amser wnes i dorri'r gyfraith oedd dan ddylanwad alcohol, a be' wnaeth y tag oedd helpu fi i gydnabod nad oedd 'na unrhyw ymddygiad troseddol heb alcohol."

Ffynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n rhaid iddyn nhw fod eisiau rhoi'r gorau i yfed hefyd," meddai Catherine Bateman

Swyddog prawf Teressa, Catherine Bateman, wnaeth awgrymu mai alcohol oedd wrth wraidd ei throseddau, ac y byddai gwisgo tag am 60 diwrnod yn rhoi amser iddi fyfyrio ar ei bywyd.

Roedd yn gyfle iddi hi, fel swyddog prawf, weithio gyda Teressa a cheisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y drosedd.

"Mae pobl sydd wedi bod yn y carchar wedi cael cyfnod o amser cyfyngedig iawn lle nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar unrhyw alcohol, ac yna maen nhw'n cael eu rhyddhau i'r gymuned lle mae ar gael yn rhwydd ac mae hynny'n her anferth i bobl sydd fel arfer yn brwydro yn erbyn pob math o bethau," meddai Ms Bateman.

"Mae'r monitro yn caniat谩u iddyn nhw symud yn 么l i'r gymuned, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod eisiau rhoi'r gorau i yfed hefyd."

'Mae'n si诺r y byddwn wedi yfed eto'

Mae Teressa yn meddwl bod gwisgo'r tag wedi newid ei bywyd.

"Mae'n si诺r y byddwn i wedi dod allan o'r carchar a dechrau yfed eto," meddai.

"Ges i gyfle i feddwl am fy mywyd ac erbyn hyn rydw i wedi dechrau cwrs mynediad i brifysgol, rydw i'n mynd allan i redeg gyda fy nghi, rydw i wedi ymuno 芒 th卯m p锚l-rwyd ac mae gen i ffrindiau newydd.

"Rwy'n edrych yn 么l ar y cyfnod yna nawr ac yn gallu gofyn 'beth oedd yn mynd trwy'n meddwl i?'"