Joe Allen ddim yn chwarae yng ng锚m gyntaf Cymru

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Joe Allen helpu Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Qatar - bydd y t卯m yn chwarae am y tro cyntaf ers 1958

Fydd y chwaraewr canol cae, Joe Allen, ddim yn chwarae yng ng锚m agoriadol Cymru yn erbyn yr UDA ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd ddydd Llun oherwydd anaf i linyn y gar.

Roedd yna amheuon am ffitrwydd Allen, sy'n chwarae i Abertawe, gan nad yw wedi chwarae ers 17 Medi.

"Fe ddywedon ni yn y dechrau y byddwn ni'n rhoi pob cyfle iddo chwarae yn y g锚m gyntaf," meddai rheolwr Cymru, Robert Page.

"Fe fydden ni wedi gallu ei wthio fe ond petai rhywbeth yn digwydd iddo fe fyddai'n bendant allan o'r twrnamaint."

Bydd Cymru yn wynebu Iran ddydd Gwener ac yn chwarae eu g锚m olaf yng Ngr诺p A yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd.

Roedd Allen, 32, a fu'n chwarae i Gymru yn nwy bencampwriaeth yr Euros wedi gobeithio y byddai'n ddigon ffit i chwarae yn y g锚m nos Lun.

Bydd cic gyntaf y g锚m am 1900 ein hamser ni.