Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw o'i anafiadau wedi i fuwch ymosod arno
Mae dyn a gafodd anafiadau difrifol wedi i fuwch ymosod arno a'i sathru wedi marw.
Cafodd y dyn, oedd yn cerdded ar Heol y Gogledd, Hendy-gwyn yn Sir G芒r, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad toc wedi 10:15 ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ddydd Mawrth: "Yn anffodus, mae'r dioddefwr nawr wedi marw.
"Mae'r HSE yn ymchwilio i'r amgylchiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys."
Dywedodd yr heddlu adeg yr ymosodiad bod rhaid difa'r fuwch, gyda chydsyniad y perchennog, gan ei bod yn beryglus ac yn amhosib i'w rheoli.