Lles staff Plaid Cymru 'o'r pwys mwyaf' medd Adam Price
- Cyhoeddwyd
Mae lles staff Plaid Cymru "o'r pwys mwyaf", yn 么l arweinydd y blaid, Adam Price.
Daw ei sylwadau yn dilyn honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid, a honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn uwch aelod o staff.
Mae cwyn ar wah芒n o gamymddwyn hefyd wedi'i gwneud yn erbyn un o aelodau o'r Senedd y blaid, sydd wedi'i wahardd o gr诺p y blaid.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ar y cyd 芒'r prif weinidog ddydd Iau, mynnodd Adam Price fod y blaid wedi "gweithredu'n gyflym mewn ymateb i'r adroddiadau yn y cyfryngau", a bod yr holl staff wedi cael cynnig "cymorth priodol ac amrywiol fforymau y gallant rannu eu profiadau ynddynt yn gyfrinachol".
"Rydym wedi ymrwymo i'r blaid ymgorffori'r gwerthoedd gorau, ac os yw'r ymarfer hwn yn dangos pethau sydd angen i ni eu gwella neu fynd i'r afael 芒 nhw yna ni fyddwn yn oedi cyn gwneud hynny," ychwanegodd.
"Fel y dywedais yn flaenorol - ac am resymau rydych chi'n eu deall - ni allaf wneud sylw ar unrhyw broses barhaus ar hyn o bryd, ac yn gwbl briodol nid wyf yn gyfarwydd 芒 nhw.
"Ond mae'r blaid yn cymryd pob honiad o ddifrif fel yr ydw i.
"Rydym fel plaid yn gweithredu ar y sail os a phan fydd tystiolaeth o ddrwgweithredu yn dilyn canlyniad unrhyw broses, bydd y blaid yn delio'n briodol 芒'r materion ac yn gwneud hynny yn unol 芒'i gweithdrefnau disgyblu."
Cwmni allanol
Mae Plaid Cymru wedi penodi cwmni allanol i gynnal ymchwiliad i gamymddwyn yn y blaid.
Wrth wraidd ei ymholiadau mae honiad o ymosodiad rhyw gan uwch aelod o staff.
Dywedodd cyn-aelod o staff fod y digwyddiad tua phedair blynedd yn 么l pan oedden nhw'n gweithio i'r blaid.
Yn y cyfamser, mae person arall wedi dweud bod yr un uwch aelod o staff wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus ar sawl achlysur.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd cadeirydd y blaid Marc Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.
"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.
"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.
"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."
Mae'r honiadau ar wah芒n i g诺yn camymddwyn yn erbyn Rhys ab Owen AS, sy'n wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru.
Wrth siarad 芒 rhaglen Wales Live y 大象传媒 nos Fercher, dywedodd AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, fod "natur wenwynig i wleidyddiaeth".
Dywedodd Ms Fychan fod ganddi "hyder" bod proses mewn lle yn ei phlaid nawr i fynd i'r afael 芒 phryderon a'i bod yn "obeithiol" y byddai'n "arwain at newidiadau - nid yn unig i Blaid Cymru, ond mae angen newid gwleidyddiaeth os ydym o ddifrif am fod yn fwy cynrychioliadol a chael pobl i mewn i wleidyddiaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022