Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun i gael band eang cyflym i gopa'r Wyddfa
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae disgwyl i gopa'r Wyddfa dderbyn cysylltiad band eang erbyn yr haf nesaf, mewn ymgais i gynorthwyo'r gwasanaethau brys.
Bwriad Openreach yw cysylltu man uchaf Cymru gyda'r gyfnewidfa yn Llanberis.
Bydd y gwaith yn cynorthwyo'r cannoedd o filoedd sy'n heidio i ben Yr Wyddfa bob blwyddyn ac, yn bwysicaf oll, gwaith y gwasanaethau brys.
Gyda niwl trwm yn gallu cael effaith ar alwadau radio, y gobaith yw bydd gosod pwynt 5G yn hwyluso cyfathrebu rhwng timau achub mynydd yn y dyfodol.
Ond mae rhai cartrefi yn y cyffiniau eisoes yn derbyn cysylltiad 芒'r we am y tro cyntaf diolch i'r cynllun.
'Mae'n reit anodd'
Mae ffermdy Hafodty, sydd rhyw filltir a hanner i fyny'r mynydd, wedi ei gysylltu i'r rhwydwaith a bellach yn elwa o gysylltiad ffeibr llawn.
Mae Eira Morris a'i phlant wedi bod yn byw yn ffermdy ers 20 mlynedd ac yn credu y bydd cysylltiad o'r fath yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r teulu.
Saif Hafodty bron hanner ffordd i fyny'r Wyddfa yng Nghwm Brwynog, ac mae'n derbyn ei drydan diolch i generadur.
Y ffermdy erbyn hyn yw'r cartref uchaf yng Nghymru i elwa o gysylltiad cyflym o'r fath.
Dywedodd Ms Morris: "Da ni'n byw reit uchel i fyny'r Wyddfa a 'dan ni'n byw off grid.
"Sgynnon ni ddim letrig na landline i gysylltu efo pobl. 'Dan ni'n gorfod rhoi y mobile ff么n yn y ffenast jyst i gael signal a dydi'r signal ddim yn dda iawn am bod ni yn y cwm.
"Weithia' ma' 'na signal a weithia does 'na ddim."
Ond gyda phedwar o blant, pa mor anodd ydy bod heb gysylltiad 芒'r we?
'Mae'n reit anodd," atebodd Ms Morris.
"Os oedd ganddon nhw rywbeth pwysig i 'neud roeddan ni fel arfer yn dreifio lawr i'r pentref a mynd i'r ganolfan leol i ddefnyddio internet nhw.
"'Dan ni wedi arfer r诺an ond bydd hyn yn newid mawr i ni am y gorau.
"Fydd 'na signal yma drwy gydol yr amser dwi'n gobeithio, cael gweld petha' ar y teledu a phetha' mae pobl eraill yn cymryd yn ganiataol.
"'Dan ni jyst yn edrych ymlaen. i ddweud y gwir wrthoch chi."
Mae un o feibion Eira, Elis Morris, yn 20 oed ac yn ffermio a ffensio.
Dywedodd bod y blynyddoedd heb Facebook ac ati, a'r gallu i ddefnyddio'r we adref wedi bod yn anodd iawn, ond mae'n diolch bod newid mawr ar droed.
"Mae wedi bod yn eithriadol o anodd i ni. Alla i ddim cychwyn disgrifio faint o anodd ma' hi wedi bod. 'Dan ni'n hapus dros ben!
"Mae'n newid mawr i'n bywydau ni. Fydd o'n help mawr."
Mae Beca, sy'n 18, hefyd yn edrych ymlaen yn fawr i gael y cysylltiad sydyn 芒'r we, gan gynnwys "gwneud hi'n haws i gael gafael ar bobl".
'Tasg enfawr'
Fel rhan o'r cynllun bydd Openreach yn gosod 7km o wifrau o Lanberis i fyny at gopa'r Wyddfa.
Bydd y llinellau yn cyd-redeg gyda'r rheilffordd tuag at y copa, am gyfnod ar yr wyneb cyn cael eu gosod o dan ddaear.
Dywedodd Eilir Owen o Openreach: "Yr her fwyaf r诺an fydd y tywydd, felly 'dan ni'n bwriadu mynd i hanner ffordd cyn y Nadolig ac wedyn ar 么l 'Dolig wnawn ni hitio'r copa."
Yn 么l Marty Druce, rheolwr gweithredu Rheilffordd yr Wyddfa, bydd cael band eang ffeibr cyflawn ar y copa yn "help mawr".
"Bydd yn gwella cysylltedd ar y mynydd er lles y gymuned leol, ymwelwyr a gwasanaethau achub," meddai.
"Bydd t卯m gweithredu Rheilffordd yr Wyddfa yn hapus iawn i gludo peirianwyr Openreach, ffeibr ac offer ar hyd y llwybr i frig y mynydd."
Ychwanegodd Suzanne Rutherford, prif beiriannydd Openreach Cymru: "Rhaid dweud bod darparu band eang ffeibr cyflawn ar frig Yr Wyddfa yn dasg enfawr.
"Mae angen ystyried maint Yr Wyddfa er mwyn cydnabod y dasg sy'n wynebu ein peirianwyr, heb s么n am y tywydd!
"Bydd yn gwella cysylltedd pob ymwelydd 芒'r copa, teuluoedd sy'n byw yng nghysgod Yr Wyddfa, ac wrth gwrs bydd y dechnoleg hefyd yn helpu i arbed bywydau."