Powys: Beio costau ynni am gau canolfannau hamdden

Ffynhonnell y llun, Google Streetview

Disgrifiad o'r llun, Bydd pwll nofio Rhaeadr Gwy ymysg y rheiny fydd yn cau am weddill y flwyddyn ariannol ym Mhowys

Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi beio Llywodraeth y DU am eu "gorfodi" i gau sawl canolfan hamdden a phwll nofio dros y gaeaf oherwydd prisiau ynni cynyddol.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe gytunodd cynghorwyr i gau canolfannau hamdden Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Llanandras, a'r pyllau nofio yn Llanidloes, Rhaeadr a Llanfair-ym-Muallt dros dro rhwng 23 Rhagfyr a 31 Mawrth.

Cynigiodd y cwmni sy'n rhedeg y cyfleusterau hamdden ar ran y cyngor, Freedom Leisure, y newidiadau fel mesur i lenwi'r golled a ragwelir o 拢287,000 ar ei gytundeb gyda Phowys yn y flwyddyn ariannol hon.

Fel rhan o'r penderfyniad fe fydd y cabinet hefyd yn dechrau ar y broses o adolygu darpariaeth gwasanaethau hamdden ym Mhowys yn sgil rhagolygon bydd angen 拢1.1m ychwanegol y flwyddyn nesaf i redeg gwasanaethau hamdden fel ag y maent.

'Cael ein gorfodi i mewn i hyn'

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Hamdden, y Cynghorydd David Selby: "Rwy'n cyflwyno'r papur hwn i'r cabinet gyda gofid a rhywfaint o ddicter.

Ffynhonnell y llun, David Dixon/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Bu cyfarfod o gabinet Cyngor Powys ddydd Mawrth

"Rydyn ni'n wynebu argyfwng ariannol nad sy'n fai arnom ni, mae cynghorau ledled y wlad yn gorfod gwneud penderfyniadau am wasanaethau sy'n annwyl iddynt.

"Rydyn ni'n cael ein gorfodi i mewn i hyn.

"Mae Llywodraeth y DU wedi creu marchnad ariannol ansefydlog ac nid yw wedi ymateb i'r argyfwng ynni."

Ychwanegodd: "Nid yw'r un o'r penderfyniadau yn hawdd nac yn boblogaidd, ond mae angen eu cymryd."

Aeth ymlaen i ddweud fod Freedom Leisure wedi cymryd mesurau i geisio gostwng eu biliau ynni ond "dydyn nhw ddim yn ddigon".

'Beio Llywodraeth y DU yn annheg'

Ond mae cynghorwyr o'r pleidiau eraill eisoes wedi datgan y byddant yn herio penderfyniad y weinyddiaeth, sy'n cael ei redeg ar y cyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol a chynghorwyr Llafur.

Dywedodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol, y Cynghorydd Aled Davies: "Mae hon yn ffordd wirioneddol warthus i redeg cyngor, i gyflwyno'r adroddiad hwn ar y funud olaf un.

Disgrifiad o'r llun, Aled Davies: "Mae'n amlwg bod materion difrifol a yw hyn yn gyfreithlon neu beidio"

"Gyda chefnogaeth y llywodraeth ganolog fe wnaethom gynnal gwasanaethau hamdden yn ystod Covid-19... mae rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU yn annheg."

Ychwanegodd nad oedd "dim" trafodaeth ar y materion sy'n wynebu Freedom Leisure yn y sesiwn friffio ariannol gyfrinachol a roddwyd i gynghorwyr yn dilyn eu cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Iau diwethaf, 8 Rhagfyr.

"Yna rydych chi'n bownsio hyn o'n blaenau ddoe a dim ond 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau y cyrhaeddodd yr asesiad effaith.

"Mae'n amlwg bod cwestiynau difrifol a yw hyn yn gyfreithlon neu beidio."

Dywedodd pennaeth gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd y cyngor, Clive Pinney: "Mae'r broses yr ydym wedi'i mabwysiadu yn un briodol ac nid oes angen cynnal ymgynghoriad ar gau dros dro.

"Gallaf gadarnhau bod yr agenda wedi mynd allan ar yr amser priodol."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o ganolfannau hamdden a phyllau nofio wedi wynebu cynnydd sylweddol mewn costau a dyna pam bod ein Cynllun Lliniaru Biliau Ynni yn golygu eu bod yn talu llai na hanner cost cyfanwerthu ynni a ragwelir y gaeaf hwn.

"Mae gwasanaethau chwaraeon a chynghorau yng Nghymru yn cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn darparu 拢1.2 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu gwasanaethau datganoledig, yn ychwanegol i'r setliad blaenorol - y swm uchaf erioed o 拢18 biliwn y flwyddyn."