大象传媒

Olivia Breen yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Olivia BreenFfynhonnell y llun, Shaun Botterill

Y para-athletwraig Olivia Breen yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru Wales 2022.

Ym mis Awst, enillodd Breen fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad gan guro Sophie Hahn o Loegr yn y ras 100m T37/38 yn Birmingham.

Fe gofnododd record bersonol newydd yn y broses gan orffen mewn 12.83 eiliad.

"Mae'n sioc. Do'n i ddim yn disgwyl ennill [y wobr]..." meddai.

"Mae hyn yn anrhydedd enfawr gyda pherfformiadau mor gryf o fewn chwaraeon Cymru.

"Roedd bod yn rhan o'r t卯m yn anhygoel a bod yn un o'r capteiniaid [athletau] hefo Osian Jones yn foment sbesial iawn i fi."

Ychwanegodd bod pawb yn Nh卯m Cymru wedi "cefnogi ein gilydd" ac yn dilyn cyfnod Covid, "mae'n gwneud i chi werthfawrogi bywyd a chael torf hefyd".

Perfformiad gorau ei gyrfa

Ei medal oedd y gyntaf gan Gymraes ar y trac mewn Gemau Cymanwlad ers i Kay Morley ennill y ras 100m dros y clwydi yn Auckland, 1990.

Roedd yn hyd yn oed mwy melys gan fod Breen mor aml wedi colli allan i Hahn ar y trac.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Olivia Breen fedal aur yn y naid hir yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018

Y flwyddyn flaenorol roedd Breen yn seithfed wrth i Hahn amddiffyn ei theitl Paralympaidd T38 yng Ngemau Tokyo.

Ond yn Birmingham daeth tro ar fyd o'r diwedd wrth i Breen gynhyrchu perfformiad orau ei gyrfa.

Profodd ei chyfweliad emosiynol ar 么l y ras yn Birmingham i fod yn un o eiliadau mwyaf cofiadwy'r Gemau.

"Byddai cael unrhyw fath o fedal wedi bod yn anhygoel ond roedd ennill yr aur mor arbennig, ac roedd cael fy nheulu a ffrindiau yno yn anhygoel," ychwanegodd.

"Rydw i wedi bod mewn cystadleuaeth 芒 Sophie Hahn ers naw mlynedd bellach, mae hi wedi bod yn ennill ers blynyddoedd...mae'n dangos bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed."

'Perfformiad syfrdanol'

Dewiswyd Breen ar gyfer gwobr 大象传媒 Cymru Wales gan banel o arbenigwyr a gadeiriwyd gan gyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker, ac sy'n cynnwys y Barwnes Tanni Grey-Thompson, Leshia Hawkins prif weithredwr Criced Cymru, cyn b锚l-droediwr Cymru a chwaraewr p锚l-rwyd Nia Jones ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.

"Olivia Breen oedd dewis unfrydol y panel i fod yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2022 am ei pherfformiad rhagorol yn ystod Birmingham 2002," dywedodd Walker.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cydnabyddiaeth hefyd i'r sg茂wr Menna Fitzpatrick (chwith), yma hefo'i harweinydd Jen Kehoe, wedi iddi ennill medal efydd yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn PyeongChang yn Ne Corea.

"Roedd yn berfformiad a oedd yn atseinio ar draws y DU wrth gael ei ailchwarae am sawl diwrnod yn dilyn ei pherfformiad syfrdanol yn trechu'r bencampwraig a'r ffefryn, Sophie Hahn.

"Roedd yn berfformiad oedd yn un o uchafbwyntiau y gemau gyfan.

"Roedd safon y perfformiad yn amlwg ond hefyd y ffordd y cafodd ei phleser amlwg ei rannu gan y rhai a oedd yn ddigon ffodus i fod yn y stadiwm - a hefyd gan y miliynau yn gwylio ar y teledu. Moment wirioneddol arbennig.

"Roedd yna grybwylliadau anrhydeddus i'r sg茂wr Menna Fitzpatrick a ychwanegodd at ei chasgliad helaeth o fedalau ar lwyfan y byd er gwaethaf newid canllaw hwyr, i Gareth Bale a'i berfformiadau rhagorol yn helpu Cymru i ymddangos yn ei Chwpan Byd P锚l-droed dynion cyntaf ers 1958 ac i Jeremiah Azu a gyhoeddodd ei fod wedi cyrraedd fel uwch-athletwr trac gyda pherfformiadau trawiadol yng Ngemau'r Gymanwlad a'r Pencampwriaethau Ewropeaidd."

Mae Breen hefyd yn cystadlu yn y categori naid hir F38 ac mae bellach yn canolbwyntio ar Bencampwriaethau Para-Athletau'r Byd ym Mharis yng Ngorffennaf 2023.

"Rwyf wedi anafu am y chwe wythnos diwethaf ond rwy'n dod yn 么l i mewn iddo," ychwanegodd Breen.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arweiniodd Gareth Bale dim Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

"Fe ddigwyddodd i fy mhen-glin pan oeddwn yn hyfforddi ym Mhortiwgal.

"Roeddwn yn teimlo mor dda, des yn 么l i hyfforddi ac roedd popeth yn mynd yn dda iawn felly roeddwn ychydig yn isel ond mae'n rhaid i mi gadw'n bositif a bydd yn dod.

"Rwyf eisiau mwy o PB's [ym Mharis], mwy o fedalau, i fynd yn gyflymach, yn gryfach a neidio ymhellach.

"Dyna fy mhrif nod."