Pum munud gyda Bardd y Mis: Aled Evans

Ffynhonnell y llun, Aled Evans

Disgrifiad o'r llun, Aled Evans

Mae'n fis Ionawr ac Aled Evans o Langynnwr yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Dyma gyfle i ddod i adnabod bardd mis cynta'r flwyddyn!

Fel brodor o Langynnwr, ger Caerfyrddin, disgrifiwch eich ardal a'i phobl a sut fagwraeth gawsoch chi? Wnaeth hynny eich siapio chi?

Mae Llangynnwr yn ddigon anniben ar un wedd, yn ardal sydd wedi datblygu i fod yn faestref i Gaerfyrddin heb ganol amlwg. Ond wedyn, wrth graffu, mae'n bentref â hunaniaeth ddisglair - ysgol gynradd lwyddiannus sy'n hybu'r Gymraeg, eglwys a'i mynwent yn llawn hanesion difyr a digon o lonydd imi eu rhedeg. Gwneith gartref diddan am y tro. Wedi dweud hynny, un o Gwm Gwendraeth ydwyf a glannau'i ddwy afon sy'n cadw trefn arna' i.

Buoch yn Gyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yng Nghastell-nedd Port Talbot tan yn lled ddiweddar. Sut mae denu plant a phobl ifanc at farddoniaeth?

Rwy'n hoff iawn o gyngor yr artist Paul Klee, take a line for a walk - mydru iaith yw mynd am dro. Ewch â phlant i weld eu byd, fe farddonan' nhw.

Rydych chi yn athro yn Ysgol Farddol Caerfyrddin. Beth yw eich cyngor i'r rhai sy'n dysgu cynganeddu ond heb eto ei feistroli?

Y tric yw taro'r acen.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Farddol Caerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Aelodau Ysgol Farddol Caerfyrddin

Chi yw'r capten ar dîm Talwrn Beirdd Myrddin. Beth yw eich hoff atgof o'r Talwrn dros y blynyddoedd?

Roedd cyrraedd y Ffeinal yn 2021 yn brofiad da ac felly hefyd curo Tir Iarll o'r un stabl â ni. Ond gwleddau capel Hermon wedi bennu recordio sy'n aros yn y cof fwyaf.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Bancffosfelen

Disgrifiad o'r llun, Aelodau'r Talwrn (Cwm Gwendraeth, Beirdd Myrddin a'r Derwyddon) a'r Meuryn medrus, Ceri Wyn Jones yn Nhalwrn Eisteddfod Banffosfelen yn Hydref 2022

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Rwy'n edmygu Iorwerth Fynglwyd a'i ddoethineb sy'n parhau trwy'r canrifoedd:

Na chyfeiriwch i foryd

Na dŵr hallt heb fynd o'r rhyd.

Ond un llenor sydd wastad yn llwyddo i gipio'n anadl yw'r nofelydd Hanya Yanagihara. Byddai meddu ar ei dawn hi am ddiwrnod yn rheswm da iawn i gadw'n effro am bob eiliad o'r pedair awr ar hugain.

Disgrifiad o'r llun, Hanya Yanagihara

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Yng nghyfnod fy hen-daid, Llafar, (Thomas Roberts, Parc a Dinas Mawddwy, 1865-1942), roedd amaethwyr yr ardal yn arfer ateb llinellau cynganeddol ei gilydd trwy waeddu ar draws y cwm; dyna'u hysgol farddol. Byddai wedi bod yn ddifyr cael bod yn löyn byw ar yr awel honno.

Dyma ddau englyn o'i waith y buaswn yn ddigon balch ohonynt, am addysg!

Camera

Dewiniaeth beiriant dynna dy wir lun

Drwy law un a'i gweithia

Ar len gudd yr arlunia

Sut un wyt yn onest wna.

a hwn wedyn …

Atgof

Egyr ffin y gorphenol i siarad

Ei drysorau mewnol

O eigion oes dwg yn ôl

Wers hanes i'm presenol.

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Dysgu bod yn löyn byw.

Hefyd o ddiddordeb: