Y chwilio yn parhau wedi diflaniad Aled Glynne Davies

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywed teulu Aled Glynne Davies ei fod yn gwisgo'r g么t werdd yma pan gafodd ei weld ddiwethaf

Mae'r chwilio yn parhau am gyn-olygydd 大象传媒 Radio Cymru, Aled Glynne Davies, sydd ar goll yng Nghaerdydd ers nos Galan.

Cafodd Mr Davies, sy'n 65 oed, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.

Yn 么l ei deulu, fe gerddodd ef a'i wraig yn 么l i'w t欧 ym Mhontcanna ar 么l gadael bwyty Uisce am 22:36.

Ar 么l cyrraedd adref, fe adawodd ei d欧 i fynd am dro ar ei ben ei hun.

Roedd yn gwisgo c么t werdd dywyll, sbectol, a het werdd a brown tywyll, fel sydd wedi eu rhannu mewn llun gan y teulu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nos Fawrth dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth am Mr Davies.

Chwilio'n ddyfal

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer: "Ers i ni gael gwybod fore Sul bod Aled ar goll ry'n wedi ymchwilio'n ddyfal. Ry'n ar hyn o bryd yn chwilio parciau, coetiroedd a dyfroedd cyfagos o dan arweiniad swyddog arbenigol.

"Ry'n hefyd wedi ymchwilio pob camera cylch cyfyng a ffilmiau cloch drysau tai yn drylwyr - gan gynnwys camer芒u yr awdurdod lleol, busnesau a thai preifat.

"Ry'n yn hynod bryderus am les Aled ac yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu 芒 ni ar frys."

Dywedodd ei deulu mewn ap锚l brynhawn Sul ei fod "ar goll ac angen tabledi ar frys".

Bu cannoedd o bobl yn helpu gyda'r chwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Llun, gyda'r chwilio yn parhau ddydd Mawrth.

Yn gynharach fe wnaeth y teulu ofyn i bobl yng Nghaerdydd wirio eu camer芒u CCTV neu unrhyw gamer芒u eraill tu allan i'w tai.

Maen nhw'n annog pobl i edrych o ychydig o 22:30 nos Galan ymlaen.

Fe ofynnon nhw hefyd i bobl chwilio mewn eglwysi neu adeiladau tu allan.

I osgoi neges Facebook

Mae鈥檔 flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Mae Mr Davies yn chwe throedfedd o daldra a dywedodd ei deulu fod ei gefn wedi crymu rywfaint, a'i fod yn gerddwr araf.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i bobl gysylltu 芒 nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314 os ydyn nhw'n amau eu bod wedi ei weld neu 芒 unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.