'Fydden i byth yn disgwyl i Dad fynd ar goll fel hyn'

Disgrifiad o'r fideo, Ap锚l mab Aled Glynne Davies: 'Ni'n dy garu di gymaint'

Mae teulu Aled Glynne Davies wedi gwneud ap锚l ar i bobl edrych am unrhyw recordiad fideo posib ohono cyn iddo fynd ar goll.

Fe gafodd Mr Davies, cyn-olygydd 大象传媒 Radio Cymru, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna, Caerdydd nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.

Mewn ap锚l emosiynol am wybodaeth ddydd Mawrth, dywedodd ei fab Gruffudd Glyn fod ei dad mewn cyflwr iechyd bregus.

Mae'n hanfodol, meddai, dod o hyd i glip fideo ohono yn cerdded ar noson ei ddiflaniad.

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Glynne Davies ar feddyginiaethau oherwydd cyflwr ar ei ysgyfaint

"'Sen i byth yn disgwyl i Dad fynd ar goll fel hyn" meddai. "Oedd o ar droed - oedd o ddim mewn car.

"Mae'n rhaid i ni gael clip ohono fo, ar CCTV personol pobl, busnesau pobl, dashcam ceir pobl a chlychau drysau.

"Alla'i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hi i gael unrhyw sighting o Dad."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywed teulu Aled Glynne Davies ei fod yn gwisgo'r g么t werdd yma pan gafodd ei weld ddiwethaf

Mae Mr Davies ar feddyginiaethau oherwydd cyflwr ar ei ysgyfaint.

Dywedodd ei fab bod ymateb pobl leol fu'n helpu yn chwilio wedi bod yn "anhygoel".

Yn 么l ei deulu, fe gerddodd Mr Davies, sy'n 65 oed, a'i wraig yn 么l i'w t欧 ym Mhontcanna ar 么l gadael bwyty Uisce am 22:36 nos Sadwrn.

Ar 么l cyrraedd adref, fe adawodd ei d欧 i fynd am dro ar ei ben ei hun.

Roedd yn gwisgo cot werdd dywyll, sbectol, a het werdd a brown tywyll, fel sydd wedi eu rhannu mewn llun gan y teulu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywed Gruffudd fod hi'n hollbwysig dod o hyd i glip fideo o'i dad Aled Glynne Davies (chwith)

Mae'r heddlu a'r teulu hefyd yn annog i bobl chwilio mewn eglwysi neu adeiladau tu allan.

"'Di o ddim yn licio oerni, mae'n oeri yn hawdd," meddai Gruffudd.

"Er bod o'n swnio'n wirion - sieciwch eich tai, eich gerddi, sieds unrhyw beth, tarpaulin unrhyw beth - lle posib [y gallai] Dad wedi meddwl 'dwi angen cysgu, neu dwi angen cynhesu fan hyn'."