Kit Symons yn gadael fel is-reolwr Cymru yn dilyn Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Kit Symons wedi gadael ei swydd fel is-reolwr t卯m p锚l-droed Cymru.
Cafodd Symons, 51, ei benodi i'r r么l gan y rheolwr Robert Page ym mis Mai 2021, a bu gyda'r garfan ar gyfer Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Dyna oedd y trydydd tro iddo gael ei benodi i d卯m hyfforddi Cymru, yn dilyn dau gyfnod yn y swydd dan y cyn-reolwr Chris Coleman.
"Hoffwn ddiolch i Kit am ei waith caled a'i gyfraniad i'r t卯m cenedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys dau dwrnament rhyngwladol yn y cyfnod hwnnw," meddai Page yn dilyn y cyhoeddiad.
"Wrth i ni geisio gyrraedd rhagor o dwrnamentau rhyngwladol, mae newid wastad yn bwysig er mwyn parhau i ddatblygu'r garfan. Hoffwn ddymuno'r gorau i Kit yn y dyfodol."
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Euro 2024 ym mis Mawrth eleni yn Croatia - eu gwrthwynebwyr eraill nhw yn y gr诺p fydd Twrci, Latfia ac Armenia.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022